1וישמעו צרי יהודה ובנימן כי בני הגולה בונים היכל ליהוה אלהי ישראל׃
1 Pan glywodd gelynion Jwda a Benjamin fod y rhai oedd wedi bod yn y gaethglud yn adeiladu teml i ARGLWYDD Dduw Israel,
2ויגשו אל זרבבל ואל ראשי האבות ויאמרו להם נבנה עמכם כי ככם נדרוש לאלהיכם ולא אנחנו זבחים מימי אסר חדן מלך אשור המעלה אתנו פה׃
2 daethant at Sorobabel a'r pennau-teuluoedd a dweud wrthynt: "Gadewch i ni adeiladu gyda chwi, oherwydd yr ydym ni yn addoli eich Duw fel chwithau, ac iddo ef yr ydym wedi aberthu er amser Esarhadon brenin Asyria, a ddaeth � ni yma."
3ויאמר להם זרבבל וישוע ושאר ראשי האבות לישראל לא לכם ולנו לבנות בית לאלהינו כי אנחנו יחד נבנה ליהוה אלהי ישראל כאשר צונו המלך כורש מלך פרס׃
3 Ond dywedodd Sorobabel a Jesua a gweddill pennau-teuluoedd Israel:"Ni chewch chwi ran yn y gwaith o adeiladu tu375? i'n Duw; ni yn unig sydd i adeiladu i ARGLWYDD Dduw Israel, fel y gorchmynnodd Cyrus brenin Persia i ni."
4ויהי עם הארץ מרפים ידי עם יהודה ומבלהים אותם לבנות׃
4 Yna dechreuodd pobl y wlad ddigalonni pobl Jwda a pheri iddynt ofni adeiladu;
5וסכרים עליהם יועצים להפר עצתם כל ימי כורש מלך פרס ועד מלכות דריוש מלך פרס׃
5 a holl ddyddiau Cyrus brenin Persia hyd at deyrnasiad Dareius brenin Persia cyflogasant gynghorwyr llys yn eu herbyn i ddrysu eu bwriad.
6ובמלכות אחשורוש בתחלת מלכותו כתבו שטנה על ישבי יהודה וירושלם׃
6 Yn nechrau teyrnasiad Ahasferus gwnaethant gyhuddiad ysgrifenedig yn erbyn preswylwyr Jwda a Jerwsalem.
7ובימי ארתחששתא כתב בשלם מתרדת טבאל ושאר כנותו על ארתחששתא מלך פרס וכתב הנשתון כתוב ארמית ומתרגם ארמית׃
7 Hefyd yn amser Artaxerxes ysgrifen-nodd Bislam, Mithredath, Tabeel a'r gweddill o'u cefnogwyr at Artaxerxes brenin Persia; yr oedd y llythyr wedi ei ysgrifennu mewn Aramaeg, a dyma'i gynnwys mewn Aramaeg.
8רחום בעל טעם ושמשי ספרא כתבו אגרה חדה על ירושלם לארתחששתא מלכא כנמא׃
8 Rehum y rhaglaw a Simsai yr ysgrifennydd a ysgrifennodd y llythyr hwn at Artaxerxes y brenin ynglu375?n � Jerwsalem:
9אדין רחום בעל טעם ושמשי ספרא ושאר כנותהון דיניא ואפרסתכיא טרפליא אפרסיא ארכוי בבליא שושנכיא דהוא עלמיא׃
9 "Oddi wrth y rhaglaw Rehum a'r ysgrifennydd Simsai a'r gweddill o'u cefnogwyr, y barnwyr, y penaethiaid, y goruchwylwyr, y swyddogion; hefyd pobl Erech a Babilon, a'r Elamitiaid o Susa,
10ושאר אמיא די הגלי אסנפר רבא ויקירא והותב המו בקריה די שמרין ושאר עבר נהרה וכענת׃
10 a phawb arall a alltudiodd Asnappar fawr ac enwog a'u gosod yn nhref Samaria ac yng ngweddill talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates."
11דנה פרשגן אגרתא די שלחו עלוהי על ארתחששתא מלכא עבדיך אנש עבר נהרה וכענת׃
11 Yn awr dyma gynnwys y llythyr a anfonasant ato: "I'r Brenin Artaxerxes oddi wrth dy ddeiliaid, pobl talaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates.
12ידיע להוא למלכא די יהודיא די סלקו מן לותך עלינא אתו לירושלם קריתא מרדתא ובאישתא בנין ושורי אשכללו ואשיא יחיטו׃
12 Bydded hysbys i'r brenin fod yr Iddewon a ddaeth atom oddi wrthyt wedi cyrraedd Jerwsalem; y maent yn ailgodi'r ddinas wrthryfelgar a drwg, yn cyfannu'r muriau ac yn atgyweirio'r sylfeini.
13כען ידיע להוא למלכא די הן קריתא דך תתבנא ושוריה ישתכללון מנדה בלו והלך לא ינתנון ואפתם מלכים תהנזק׃
13 Yn awr bydded hysbys i'r brenin, os ailadeiledir y ddinas hon a gorffen ei muriau, ni thalant na threth, na theyrnged, na tholl; a bydd hyn yn sicr o amharu ar les y brenin.
14כען כל קבל די מלח היכלא מלחנא וערות מלכא לא אריך לנא למחזא על דנה שלחנא והודענא למלכא׃
14 Felly, am ein bod ni yn cael ein cynnal gan lys y brenin, ac am nad yw'n weddus i ni fod yn dystion o'r amarch hwn tuag at y brenin, yr ydym yn anfon gair at y brenin,
15די יבקר בספר דכרניא די אבהתך ותהשכח בספר דכרניא ותנדע די קריתא דך קריא מרדא ומהנזקת מלכין ומדנן ואשתדור עבדין בגוה מן יומת עלמא על דנה קריתא דך החרבת׃
15 er mwyn iti chwilio yn llyfr cofnodion dy ragflaenwyr. Fe weli oddi wrth lyfr y cofnodion mai dinas wrthryfelgar fu hon, andwyol i frenhinoedd a thaleithiau, a bod gwrthryfel yn nodwedd arni ers amser maith. Dyna pam y dinistriwyd y ddinas.
16מהודעין אנחנה למלכא די הן קריתא דך תתבנא ושוריה ישתכללון לקבל דנה חלק בעבר נהרא לא איתי לך׃
16 Yr ydym yn hysbysu'r brenin, os adeiledir y ddinas hon a gorffen ei muriau, ni fydd gennyt diriogaeth yn nhalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates."
17פתגמא שלח מלכא על רחום בעל טעם ושמשי ספרא ושאר כנותהון די יתבין בשמרין ושאר עבר נהרה שלם וכעת׃
17 Dyma ateb y brenin: "At Rehum y rhaglaw a Simsai yr ysgrifennydd a'r gweddill o'u cefnogwyr sy'n byw yn Samaria ac ym mhob rhan o dalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, cyfarchion!
18נשתונא די שלחתון עלינא מפרש קרי קדמי׃
18 Fe gyfieithwyd y llythyr a anfonasoch a'i ddarllen yn fy ngu373?ydd.
19ומני שים טעם ובקרו והשכחו די קריתא דך מן יומת עלמא על מלכין מתנשאה ומרד ואשתדור מתעבד בה׃
19 Ar fy ngorchymyn gwnaethpwyd ymchwiliad, a darganfod i'r ddinas hon wrthryfela yn erbyn brenhinoedd ers amser maith, a bod brad a gwrthryfel wedi codi ynddi.
20ומלכין תקיפין הוו על ירושלם ושליטין בכל עבר נהרה ומדה בלו והלך מתיהב להון׃
20 Bu brenhinoedd cryfion yn teyrnasu dros Jerwsalem a thros holl dalaith Tu-hwnt-i'r-Ewffrates, a rhoddwyd iddynt dreth, teyrnged a tholl.
21כען שימו טעם לבטלא גבריא אלך וקריתא דך לא תתבנא עד מני טעמא יתשם׃
21 Felly gorchmynnwch i'r dynion hyn beidio ag ailadeiladu'r ddinas nes cael caniat�d gennyf fi.
22וזהירין הוו שלו למעבד על דנה למה ישגא חבלא להנזקת מלכין׃
22 Gofalwch beidio � bod yn esgeulus yn hyn o beth, rhag i'r frenhiniaeth gael niwed pellach."
23אדין מן די פרשגן נשתונא די ארתחששתא מלכא קרי קדם רחום ושמשי ספרא וכנותהון אזלו בבהילו לירושלם על יהודיא ובטלו המו באדרע וחיל׃
23 Yna, pan ddarllenwyd copi o lythyr Artaxerxes i Rehum a Simsai yr ysgrifennydd a'u cefnogwyr, aethant ar frys at yr Iddewon yn Jerwsalem a thrwy nerth braich eu rhwystro rhag gweithio.
24באדין בטלת עבידת בית אלהא די בירושלם והות בטלא עד שנת תרתין למלכות דריוש מלך פרס׃
24 Felly yr ataliwyd y gwaith ar du375? Dduw yn Jerwsalem; a bu'n sefyll hyd ail flwyddyn teyrnasiad Dareius brenin Persia.