Hebrew: Modern

Welsh

Genesis

18

1וירא אליו יהוה באלני ממרא והוא ישב פתח האהל כחם היום׃
1 Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abraham wrth dderw Mamre, pan oedd yn eistedd wrth ddrws y babell yng ngwres y dydd.
2וישא עיניו וירא והנה שלשה אנשים נצבים עליו וירא וירץ לקראתם מפתח האהל וישתחו ארצה׃
2 Cododd ei olwg a gwelodd dri gu373?r yn sefyll o'i flaen. Pan welodd hwy, rhedodd o ddrws y babell i'w cyfarfod, ac ymgrymu i'r llawr,
3ויאמר אדני אם נא מצאתי חן בעיניך אל נא תעבר מעל עבדך׃
3 a dweud, "F'arglwydd, os cefais ffafr yn d'olwg, paid � mynd heibio i'th was.
4יקח נא מעט מים ורחצו רגליכם והשענו תחת העץ׃
4 Dyger ychydig ddu373?r, a golchwch eich traed a gorffwyso dan y goeden,
5ואקחה פת לחם וסעדו לבכם אחר תעברו כי על כן עברתם על עבדכם ויאמרו כן תעשה כאשר דברת׃
5 a dof finnau � thamaid o fara i'ch cynnal, ac wedyn cewch fynd ymaith; dyna pam yr ydych wedi dod at eich gwas." Ac meddant, "Gwna fel y dywedaist."
6וימהר אברהם האהלה אל שרה ויאמר מהרי שלש סאים קמח סלת לושי ועשי עגות׃
6 Brysiodd Abraham i'r babell at Sara, a dweud, "Brysia i estyn tri mesur o flawd peilliaid, tylina ef, a gwna deisennau."
7ואל הבקר רץ אברהם ויקח בן בקר רך וטוב ויתן אל הנער וימהר לעשות אתו׃
7 Yna rhedodd Abraham at y gwartheg, a chymryd llo tyner a da a'i roi i'w was; a brysiodd yntau i'w baratoi.
8ויקח חמאה וחלב ובן הבקר אשר עשה ויתן לפניהם והוא עמד עליהם תחת העץ ויאכלו׃
8 Cymerodd gaws a llaeth a'r llo yr oedd wedi ei baratoi, a'u gosod o'u blaenau; yna safodd gerllaw o dan y goeden tra oeddent yn bwyta.
9ויאמרו אליו איה שרה אשתך ויאמר הנה באהל׃
9 Gofynasant iddo, "Ble mae dy wraig Sara?" Atebodd yntau, "Dyna hi yn y babell."
10ויאמר שוב אשוב אליך כעת חיה והנה בן לשרה אשתך ושרה שמעת פתח האהל והוא אחריו׃
10 Yna dywedodd yr ARGLWYDD, "Dof yn �l atat yn sicr yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara dy wraig fab." Yr oedd Sara yn gwrando wrth ddrws y babell y tu �l iddo.
11ואברהם ושרה זקנים באים בימים חדל להיות לשרה ארח כנשים׃
11 Yr oedd Abraham a Sara yn hen, mewn gwth o oedran, ac yr oedd arfer gwragedd wedi peidio i Sara.
12ותצחק שרה בקרבה לאמר אחרי בלתי היתה לי עדנה ואדני זקן׃
12 Am hynny, chwarddodd Sara ynddi ei hun, a dweud, "Ai wedi imi heneiddio, a'm gu373?r hefyd yn hen, y caf hyfrydwch?"
13ויאמר יהוה אל אברהם למה זה צחקה שרה לאמר האף אמנם אלד ואני זקנתי׃
13 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abraham, "Pam y chwarddodd Sara a dweud, 'A fyddaf fi'n wir yn planta, a minnau'n hen?'
14היפלא מיהוה דבר למועד אשוב אליך כעת חיה ולשרה בן׃
14 A oes dim yn rhy anodd i'r ARGLWYDD? Dof yn �l atat ar yr amser penodedig, yn nhymor y gwanwyn, a chaiff Sara fab."
15ותכחש שרה לאמר לא צחקתי כי יראה ויאמר לא כי צחקת׃
15 Gwadodd Sara iddi chwerthin, oherwydd yr oedd arni ofn. Ond dywedodd ef, "Do, fe chwerddaist."
16ויקמו משם האנשים וישקפו על פני סדם ואברהם הלך עמם לשלחם׃
16 Pan aeth y gwu375?r ymlaen oddi yno, ac edrych i lawr tua Sodom, aeth Abraham gyda hwy i'w hebrwng.
17ויהוה אמר המכסה אני מאברהם אשר אני עשה׃
17 A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho'i hun, "A gelaf fi rhag Abraham yr hyn yr wyf am ei wneud,
18ואברהם היו יהיה לגוי גדול ועצום ונברכו בו כל גויי הארץ׃
18 oherwydd yn ddiau daw Abraham yn genedl fawr a chref, a bendithir holl genhedloedd y ddaear ynddo?
19כי ידעתיו למען אשר יצוה את בניו ואת ביתו אחריו ושמרו דרך יהוה לעשות צדקה ומשפט למען הביא יהוה על אברהם את אשר דבר עליו׃
19 Na, fe'i hysbysaf, er mwyn iddo orchymyn i'w blant a'i dylwyth ar ei �l gadw ffordd yr ARGLWYDD a gwneud cyfiawnder a barn, fel y bydd i'r ARGLWYDD gyflawni ei air i Abraham."
20ויאמר יהוה זעקת סדם ועמרה כי רבה וחטאתם כי כבדה מאד׃
20 Yna dywedodd yr ARGLWYDD, "Am fod y gu373?yn yn erbyn Sodom a Gomorra yn fawr, a'u pechod yn ddrwg iawn,
21ארדה נא ואראה הכצעקתה הבאה אלי עשו כלה ואם לא אדעה׃
21 disgynnaf i weld a wnaethant yn hollol yn �l y gu373?yn a ddaeth ataf; os na wnaethant, caf wybod."
22ויפנו משם האנשים וילכו סדמה ואברהם עודנו עמד לפני יהוה׃
22 Pan drodd y gwu375?r oddi yno a mynd i gyfeiriad Sodom, yr oedd Abraham yn dal i sefyll gerbron yr ARGLWYDD.
23ויגש אברהם ויאמר האף תספה צדיק עם רשע׃
23 A nesaodd Abraham a dweud, "A wyt yn wir am ddifa'r cyfiawn gyda'r drygionus?
24אולי יש חמשים צדיקם בתוך העיר האף תספה ולא תשא למקום למען חמשים הצדיקם אשר בקרבה׃
24 Os ceir hanner cant o rai cyfiawn yn y ddinas, a wyt yn wir am ei dinistrio a pheidio ag arbed y lle er mwyn yr hanner cant cyfiawn sydd yno?
25חללה לך מעשת כדבר הזה להמית צדיק עם רשע והיה כצדיק כרשע חללה לך השפט כל הארץ לא יעשה משפט׃
25 Na foed iti wneud y fath beth, a lladd y cyfiawn gyda'r drygionus, nes bod y cyfiawn yr un fath �'r drygionus. Na ato Duw! Oni wna Barnwr yr holl ddaear farn?"
26ויאמר יהוה אם אמצא בסדם חמשים צדיקם בתוך העיר ונשאתי לכל המקום בעבורם׃
26 A dywedodd yr ARGLWYDD, "Os caf yn ninas Sodom hanner cant o rai cyfiawn, arbedaf yr holl le er eu mwyn."
27ויען אברהם ויאמר הנה נא הואלתי לדבר אל אדני ואנכי עפר ואפר׃
27 Atebodd Abraham a dweud, "Dyma fi wedi beiddio llefaru wrth yr ARGLWYDD, a minnau'n ddim ond llwch a lludw.
28אולי יחסרון חמשים הצדיקם חמשה התשחית בחמשה את כל העיר ויאמר לא אשחית אם אמצא שם ארבעים וחמשה׃
28 Os bydd pump yn eisiau o'r hanner cant o rai cyfiawn, a ddinistri di'r holl ddinas oherwydd pump?" Dywedodd yntau, "Os caf yno bump a deugain, ni ddinistriaf hi."
29ויסף עוד לדבר אליו ויאמר אולי ימצאון שם ארבעים ויאמר לא אעשה בעבור הארבעים׃
29 Llefarodd eto wrtho a dweud, "Beth os ceir deugain yno?" Dywedodd yntau, "Nis gwnaf er mwyn y deugain."
30ויאמר אל נא יחר לאדני ואדברה אולי ימצאון שם שלשים ויאמר לא אעשה אם אמצא שם שלשים׃
30 Yna dywedodd, "Na ddigied yr ARGLWYDD os llefaraf. Ond beth os ceir yno ddeg ar hugain?" Dywedodd yntau, "Nis gwnaf os caf yno ddeg ar hugain."
31ויאמר הנה נא הואלתי לדבר אל אדני אולי ימצאון שם עשרים ויאמר לא אשחית בעבור העשרים׃
31 Yna dywedodd, "Dyma fi wedi beiddio llefaru wrth yr ARGLWYDD. Beth os ceir yno ugain?" Dywedodd yntau, "Ni ddinistriaf hi er mwyn yr ugain."
32ויאמר אל נא יחר לאדני ואדברה אך הפעם אולי ימצאון שם עשרה ויאמר לא אשחית בעבור העשרה׃
32 Yna dywedodd, "Peidied yr ARGLWYDD � digio wrthyf am lefaru y tro hwn yn unig. Beth os ceir yno ddeg?" Dywedodd yntau, "Ni ddinistriaf hi er mwyn y deg."
33וילך יהוה כאשר כלה לדבר אל אברהם ואברהם שב למקמו׃
33 Aeth yr ARGLWYDD ymaith wedi iddo orffen llefaru wrth Abraham, a dychwelodd Abraham i'w le.