1ויסף אברהם ויקח אשה ושמה קטורה׃
1 Cymerodd Abraham wraig arall o'r enw Cetura.
2ותלד לו את זמרן ואת יקשן ואת מדן ואת מדין ואת ישבק ואת שוח׃
2 Ohoni hi ganwyd iddo Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac a Sua.
3ויקשן ילד את שבא ואת דדן ובני דדן היו אשורם ולטושים ולאמים׃
3 Jocsan oedd tad Seba a Dedan; a meibion Dedan oedd Assurim, Letusim a Lewmmim.
4ובני מדין עיפה ועפר וחנך ואבידע ואלדעה כל אלה בני קטורה׃
4 Meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida ac Eldaa. Yr oedd y rhain i gyd yn blant Cetura.
5ויתן אברהם את כל אשר לו ליצחק׃
5 Rhoddodd Abraham ei holl eiddo i Isaac.
6ולבני הפילגשים אשר לאברהם נתן אברהם מתנת וישלחם מעל יצחק בנו בעודנו חי קדמה אל ארץ קדם׃
6 Ond tra oedd eto'n fyw, yr oedd Abraham wedi rhoi anrhegion i feibion ei wragedd gordderch, ac wedi eu hanfon ymaith oddi wrth ei fab Isaac, draw i wlad ddwyreiniol.
7ואלה ימי שני חיי אברהם אשר חי מאת שנה ושבעים שנה וחמש שנים׃
7 Yr oedd oes gyfan Abraham yn gant saith deg a phump o flynyddoedd.
8ויגוע וימת אברהם בשיבה טובה זקן ושבע ויאסף אל עמיו׃
8 Anadlodd Abraham ei anadl olaf, a bu farw wedi oes hir, yn hen ac oedrannus; a chladdwyd ef gyda'i dylwyth.
9ויקברו אתו יצחק וישמעאל בניו אל מערת המכפלה אל שדה עפרן בן צחר החתי אשר על פני ממרא׃
9 Claddwyd ef gan ei feibion Isaac ac Ismael yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, i'r dwyrain o Mamre,
10השדה אשר קנה אברהם מאת בני חת שמה קבר אברהם ושרה אשתו׃
10 y maes yr oedd Abraham wedi ei brynu gan yr Hethiaid. Yno y claddwyd Abraham gyda'i wraig Sara.
11ויהי אחרי מות אברהם ויברך אלהים את יצחק בנו וישב יצחק עם באר לחי ראי׃
11 Wedi marw Abraham bendithiodd Duw ei fab Isaac, ac arhosodd Isaac ger Beer-lahai-roi.
12ואלה תלדת ישמעאל בן אברהם אשר ילדה הגר המצרית שפחת שרה לאברהם׃
12 Dyma genedlaethau Ismael fab Abraham, a anwyd iddo o Hagar yr Eifftes, morwyn Sara.
13ואלה שמות בני ישמעאל בשמתם לתולדתם בכר ישמעאל נבית וקדר ואדבאל ומבשם׃
13 Dyma enwau meibion Ismael, yn nhrefn eu geni: Nebaioth, cyntafanedig Ismael, a Cedar, Adbeel, Mibsam,
14ומשמע ודומה ומשא׃
14 Misma, Duma, Massa,
15חדד ותימא יטור נפיש וקדמה׃
15 Hadad, Tema, Jetur, Naffis a Cedema.
16אלה הם בני ישמעאל ואלה שמתם בחצריהם ובטירתם שנים עשר נשיאם לאמתם׃
16 Dyna feibion Ismael, a dyna enwau deuddeg tywysog y llwythau yn �l eu trefi a'u gwersylloedd.
17ואלה שני חיי ישמעאל מאת שנה ושלשים שנה ושבע שנים ויגוע וימת ויאסף אל עמיו׃
17 Hyd oes Ismael oedd cant tri deg a saith o flynyddoedd; anadlodd ei anadl olaf, a chladdwyd ef gyda'i dylwyth.
18וישכנו מחוילה עד שור אשר על פני מצרים באכה אשורה על פני כל אחיו נפל׃
18 Yr oeddent yn trigo o Hafila hyd Sur, i'r dwyrain o'r Aifft, i gyfeiriad Asyria; yr oeddent yn erbyn eu holl frodyr.
19ואלה תולדת יצחק בן אברהם אברהם הוליד את יצחק׃
19 Dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: tad Isaac oedd Abraham,
20ויהי יצחק בן ארבעים שנה בקחתו את רבקה בת בתואל הארמי מפדן ארם אחות לבן הארמי לו לאשה׃
20 ac yr oedd Isaac yn ddeugain mlwydd oed pan gymerodd yn wraig Rebeca ferch Bethuel yr Aramead o Padan Aram, chwaer Laban yr Aramead.
21ויעתר יצחק ליהוה לנכח אשתו כי עקרה הוא ויעתר לו יהוה ותהר רבקה אשתו׃
21 A gwedd�odd Isaac ar yr ARGLWYDD dros ei wraig, am ei bod heb eni plentyn. Atebodd yr ARGLWYDD ei weddi, a beichiogodd ei wraig Rebeca.
22ויתרצצו הבנים בקרבה ותאמר אם כן למה זה אנכי ותלך לדרש את יהוה׃
22 Aflonyddodd y plant ar ei gilydd yn ei chroth, a dywedodd hithau, "Pam y mae fel hyn arnaf?" Aeth i ymofyn �'r ARGLWYDD,
23ויאמר יהוה לה שני גיים בבטנך ושני לאמים ממעיך יפרדו ולאם מלאם יאמץ ורב יעבד צעיר׃
23 a dywedodd yr ARGLWYDD wrthi, "Dwy genedl sydd yn dy groth, a gwahenir dau lwyth o'th fru, bydd y naill yn gryfach na'r llall, a'r hynaf yn gwasanaethu'r ieuengaf."
24וימלאו ימיה ללדת והנה תומם בבטנה׃
24 Pan ddaeth ei dyddiau i esgor, yr oedd gefeilliaid yn ei chroth.
25ויצא הראשון אדמוני כלו כאדרת שער ויקראו שמו עשו׃
25 Daeth y cyntaf allan yn goch, a'i holl gorff fel mantell flewog; am hynny galwyd ef Esau.
26ואחרי כן יצא אחיו וידו אחזת בעקב עשו ויקרא שמו יעקב ויצחק בן ששים שנה בלדת אתם׃
26 Wedyn daeth ei frawd allan, a'i law yn gafael yn sawdl Esau; am hynny galwyd ef Jacob. Yr oedd Isaac yn drigain oed pan anwyd hwy.
27ויגדלו הנערים ויהי עשו איש ידע ציד איש שדה ויעקב איש תם ישב אהלים׃
27 Tyfodd y bechgyn, a daeth Esau yn heliwr medrus, yn u373?r y maes; ond yr oedd Jacob yn u373?r tawel, yn byw mewn pebyll.
28ויאהב יצחק את עשו כי ציד בפיו ורבקה אהבת את יעקב׃
28 Yr oedd Isaac yn hoffi Esau, am ei fod yn bwyta o'i helfa; ond yr oedd Rebeca yn hoffi Jacob.
29ויזד יעקב נזיד ויבא עשו מן השדה והוא עיף׃
29 Un tro pan oedd Jacob yn berwi cawl, daeth Esau o'r maes ar ddiffygio.
30ויאמר עשו אל יעקב הלעיטני נא מן האדם האדם הזה כי עיף אנכי על כן קרא שמו אדום׃
30 A dywedodd Esau wrth Jacob, "Gad imi fwyta o'r cawl coch yma, oherwydd yr wyf ar ddiffygio." Dyna pam y galwyd ef Edom.
31ויאמר יעקב מכרה כיום את בכרתך לי׃
31 Dywedodd Jacob, "Gwertha imi'n awr dy enedigaeth-fraint."
32ויאמר עשו הנה אנכי הולך למות ולמה זה לי בכרה׃
32 A dywedodd Esau, "Pa les yw genedigaeth-fraint i mi, a minnau ar fin marw?"
33ויאמר יעקב השבעה לי כיום וישבע לו וימכר את בכרתו ליעקב׃
33 Dywedodd Jacob, "Dos ar dy lw i mi yn awr." Felly aeth ar ei lw, a gwerthu ei enedigaeth-fraint i Jacob.
34ויעקב נתן לעשו לחם ונזיד עדשים ויאכל וישת ויקם וילך ויבז עשו את הבכרה׃
34 Yna rhoddodd Jacob fara a chawl ffacbys i Esau; bwytaodd ac yfodd, ac yna codi a mynd ymaith. Fel hyn y diystyrodd Esau ei enedigaeth-fraint.