1ותצא דינה בת לאה אשר ילדה ליעקב לראות בבנות הארץ׃
1 Aeth Dina, y ferch yr oedd Lea wedi ei geni i Jacob, allan i ymweld � gwragedd y wlad.
2וירא אתה שכם בן חמור החוי נשיא הארץ ויקח אתה וישכב אתה ויענה׃
2 Pan welwyd hi gan Sichem fab Hamor yr Hefiad, tywysog y wlad, fe'i cymerodd a gorwedd gyda hi a'i threisio.
3ותדבק נפשו בדינה בת יעקב ויאהב את הנער וידבר על לב הנער׃
3 Rhoddodd ei holl serch ar Dina merch Jacob; hoffodd y ferch, a siaradodd yn gariadus wrthi.
4ויאמר שכם אל חמור אביו לאמר קח לי את הילדה הזאת לאשה׃
4 Yna dywedodd Sichem wrth ei dad Hamor, "Cymer y ferch hon yn wraig i mi."
5ויעקב שמע כי טמא את דינה בתו ובניו היו את מקנהו בשדה והחרש יעקב עד באם׃
5 Pan glywodd Jacob iddo halogi ei ferch Dina, yr oedd ei feibion gyda'i anifeiliaid yn y maes; ac felly ni ddywedodd ddim cyn iddynt ddod adref.
6ויצא חמור אבי שכם אל יעקב לדבר אתו׃
6 Yna daeth Hamor tad Sichem allan i siarad � Jacob.
7ובני יעקב באו מן השדה כשמעם ויתעצבו האנשים ויחר להם מאד כי נבלה עשה בישראל לשכב את בת יעקב וכן לא יעשה׃
7 Wedi i feibion Jacob gyrraedd o'r maes a chlywed am y peth, cynhyrfodd y gwu375?r a ffromi'n fawr am i Sichem wneud tro ysgeler yn Israel trwy orwedd gyda merch Jacob, gan na ddylid gwneud felly.
8וידבר חמור אתם לאמר שכם בני חשקה נפשו בבתכם תנו נא אתה לו לאשה׃
8 Ond erfyniodd Hamor arnynt, a dweud, "Y mae fy mab Sichem wedi rhoi ei fryd ar gael y ferch; rhowch hi'n wraig iddo.
9והתחתנו אתנו בנתיכם תתנו לנו ואת בנתינו תקחו לכם׃
9 Trefnwch briodasau � ni; rhowch eich merched i ni, a chymerwch chwithau ein merched ninnau.
10ואתנו תשבו והארץ תהיה לפניכם שבו וסחרוה והאחזו בה׃
10 Dewch i gyd-fyw � ni, a bydd y wlad yn rhydd ichwi; dewch i fyw ynddi, a marchnata a cheisio meddiant ynddi."
11ויאמר שכם אל אביה ואל אחיה אמצא חן בעיניכם ואשר תאמרו אלי אתן׃
11 Dywedodd Sichem hefyd wrth ei thad a'i brodyr, "Os caf ffafr yn eich golwg, yna rhof ichwi beth bynnag a ofynnwch gennyf.
12הרבו עלי מאד מהר ומתן ואתנה כאשר תאמרו אלי ותנו לי את הנער לאשה׃
12 Cynyddwch yn sylweddol y gwaddol a'r rhodd, ac fe rof yn �l eich gofyn, dim ond ichwi roi'r ferch yn wraig i mi."
13ויענו בני יעקב את שכם ואת חמור אביו במרמה וידברו אשר טמא את דינה אחתם׃
13 Am i'w chwaer Dina gael ei halogi, rhoddodd meibion Jacob ateb dichellgar i Sichem a'i dad Hamor.
14ויאמרו אליהם לא נוכל לעשות הדבר הזה לתת את אחתנו לאיש אשר לו ערלה כי חרפה הוא לנו׃
14 Dywedasant wrthynt, "Ni allwn wneud y fath beth, a rhoi ein chwaer i u373?r heb ei enwaedu; byddai hynny'n warth i ni.
15אך בזאת נאות לכם אם תהיו כמנו להמל לכם כל זכר׃
15 Ar yr amod hwn yn unig y cytunwn � chwi, sef eich bod chwi, fel ni, yn enwaedu pob gwryw.
16ונתנו את בנתינו לכם ואת בנתיכם נקח לנו וישבנו אתכם והיינו לעם אחד׃
16 Yna rhown ein merched i chwi, a chymerwn ninnau eich merched chwithau; a down i fyw gyda chwi a dod yn un bobl.
17ואם לא תשמעו אלינו להמול ולקחנו את בתנו והלכנו׃
17 Os na wrandewch arnom a chymryd eich enwaedu, yna cymerwn ein merch a mynd ymaith."
18וייטבו דבריהם בעיני חמור ובעיני שכם בן חמור׃
18 Yr oedd eu geiriau'n dderbyniol gan Hamor a Sichem ei fab;
19ולא אחר הנער לעשות הדבר כי חפץ בבת יעקב והוא נכבד מכל בית אביו׃
19 nid oedodd y llanc wneud hyn, oherwydd yr oedd wedi rhoi ei serch ar ferch Jacob, ac ef oedd y mwyaf anrhydeddus o'i holl deulu.
20ויבא חמור ושכם בנו אל שער עירם וידברו אל אנשי עירם לאמר׃
20 A daeth Hamor a'i fab Sichem at borth y ddinas a llefaru wrth wu375?r y ddinas a dweud,
21האנשים האלה שלמים הם אתנו וישבו בארץ ויסחרו אתה והארץ הנה רחבת ידים לפניהם את בנתם נקח לנו לנשים ואת בנתינו נתן להם׃
21 "Y mae'r gwu375?r hyn yn gyfeillgar � ni; gadewch iddynt fyw yn y wlad a marchnata ynddi, oherwydd y mae'r wlad yn ddigon eang iddynt; cymerwn eu merched yn wragedd, a rhown ninnau ein merched iddynt hwythau.
22אך בזאת יאתו לנו האנשים לשבת אתנו להיות לעם אחד בהמול לנו כל זכר כאשר הם נמלים׃
22 Ond ar yr amod hwn yn unig y cytuna'r gwu375?r i fyw gyda ni a bod yn un bobl: sef ein bod yn enwaedu pob gwryw yn ein plith, fel y maent hwy wedi eu henwaedu.
23מקנהם וקנינם וכל בהמתם הלוא לנו הם אך נאותה להם וישבו אתנו׃
23 Oni fydd eu gwartheg a'u meddiannau a'u holl anifeiliaid yn eiddo i ni? Gadewch inni gytuno � hwy fel y gallant gyd-fyw � ni."
24וישמעו אל חמור ואל שכם בנו כל יצאי שער עירו וימלו כל זכר כל יצאי שער עירו׃
24 Gwrandawodd pob un oedd yn mynd trwy borth y ddinas ar Hamor a'i fab Sichem, ac enwaedwyd pob gwryw yn y ddinas.
25ויהי ביום השלישי בהיותם כאבים ויקחו שני בני יעקב שמעון ולוי אחי דינה איש חרבו ויבאו על העיר בטח ויהרגו כל זכר׃
25 Ar y trydydd dydd, pan oedd y dynion yn ddolurus, cymerodd dau o feibion Jacob, sef Simeon a Lefi brodyr Dina, eu cleddyfau a mynd yn rhwydd i mewn i'r ddinas a lladd pob gwryw.
26ואת חמור ואת שכם בנו הרגו לפי חרב ויקחו את דינה מבית שכם ויצאו׃
26 Lladdasant Hamor a'i fab Sichem � min y cleddyf, a chymryd Dina o du375? Sichem a mynd ymaith.
27בני יעקב באו על החללים ויבזו העיר אשר טמאו אחותם׃
27 Rheibiodd meibion Jacob y lladdedigion, ac ysbeilio'r ddinas, am iddynt halogi eu chwaer.
28את צאנם ואת בקרם ואת חמריהם ואת אשר בעיר ואת אשר בשדה לקחו׃
28 Cymerasant y defaid a'r ychen a'r asynnod, a phob peth oedd yn y ddinas ac yn y maes;
29ואת כל חילם ואת כל טפם ואת נשיהם שבו ויבזו ואת כל אשר בבית׃
29 cipiasant eu holl gyfoeth, a'r plant bychain a'r gwragedd, ac ysbeilio pob dim oedd yn y tai.
30ויאמר יעקב אל שמעון ואל לוי עכרתם אתי להבאישני בישב הארץ בכנעני ובפרזי ואני מתי מספר ונאספו עלי והכוני ונשמדתי אני וביתי׃
30 Yna dywedodd Jacob wrth Simeon a Lefi, "Yr ydych wedi dwyn helbul ar fy mhen a'm gwneud yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, y Canaaneaid a'r Peresiaid; y mae nifer fy mhobl yn fach, ac os ymgasglant yn fy erbyn ac ymosod arnaf, yna difethir fi a'm teulu."
31ויאמרו הכזונה יעשה את אחותנו׃
31 Ond dywedasant hwythau, "A oedd i gael trin ein chwaer fel putain?"