1ויהי מקץ שנתים ימים ופרעה חלם והנה עמד על היאר׃
1 Ymhen dwy flynedd union breuddwydiodd Pharo ei fod yn sefyll ar lan y Neil.
2והנה מן היאר עלת שבע פרות יפות מראה ובריאת בשר ותרעינה באחו׃
2 A dyma saith o wartheg porthiannus a thew yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd;
3והנה שבע פרות אחרות עלות אחריהן מן היאר רעות מראה ודקות בשר ותעמדנה אצל הפרות על שפת היאר׃
3 ac yna saith o wartheg eraill, nychlyd a thenau, yn esgyn ar eu h�l ac yn sefyll ar lan yr afon yn ymyl y gwartheg eraill.
4ותאכלנה הפרות רעות המראה ודקת הבשר את שבע הפרות יפת המראה והבריאת וייקץ פרעה׃
4 Bwytaodd y gwartheg nychlyd a thenau y saith buwch borthiannus a thew. Yna deffr�dd Pharo.
5ויישן ויחלם שנית והנה שבע שבלים עלות בקנה אחד בריאות וטבות׃
5 Aeth yn �l i gysgu a breuddwydio eilwaith, a gwelodd saith dywysen fras a da yn tyfu ar un gwelltyn;
6והנה שבע שבלים דקות ושדופת קדים צמחות אחריהן׃
6 yna saith dywysen denau, wedi eu deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu ar eu h�l.
7ותבלענה השבלים הדקות את שבע השבלים הבריאות והמלאות וייקץ פרעה והנה חלום׃
7 Llyncodd y tywysennau tenau y saith dywysen fras a llawn. Yna deffr�dd Pharo a deall mai breuddwyd ydoedd.
8ויהי בבקר ותפעם רוחו וישלח ויקרא את כל חרטמי מצרים ואת כל חכמיה ויספר פרעה להם את חלמו ואין פותר אותם לפרעה׃
8 Pan ddaeth y bore, yr oedd wedi cynhyrfu ac anfonodd am holl ddewiniaid a doethion yr Aifft; dywedodd Pharo ei freuddwyd wrthynt, ond ni allai neb ei dehongli iddo.
9וידבר שר המשקים את פרעה לאמר את חטאי אני מזכיר היום׃
9 Yna dywedodd y pen-trulliad wrth Pharo, "Rwy'n cofio heddiw imi fod ar fai.
10פרעה קצף על עבדיו ויתן אתי במשמר בית שר הטבחים אתי ואת שר האפים׃
10 Pan ffromodd Pharo wrth ei weision a'm rhoi i a'r pen-pobydd yn y ddalfa yn nhu375? pennaeth y gwarchodwyr,
11ונחלמה חלום בלילה אחד אני והוא איש כפתרון חלמו חלמנו׃
11 cawsom ein dau freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun.
12ושם אתנו נער עברי עבד לשר הטבחים ונספר לו ויפתר לנו את חלמתינו איש כחלמו פתר׃
12 Ac yno gyda ni yr oedd llanc o Hebr�wr, gwas pennaeth y gwarchodwyr; wedi inni eu hadrodd iddo, dehonglodd ein breuddwydion i'r naill a'r llall ohonom.
13ויהי כאשר פתר לנו כן היה אתי השיב על כני ואתו תלה׃
13 Fel y dehonglodd inni, felly y bu; adferwyd fi i'm swydd, a chrogwyd y llall."
14וישלח פרעה ויקרא את יוסף ויריצהו מן הבור ויגלח ויחלף שמלתיו ויבא אל פרעה׃
14 Yna anfonodd Pharo am Joseff, a daethant ag ef ar frys o'r gell; eilliodd yntau a newid ei ddillad, a daeth at Pharo.
15ויאמר פרעה אל יוסף חלום חלמתי ופתר אין אתו ואני שמעתי עליך לאמר תשמע חלום לפתר אתו׃
15 A dywedodd Pharo wrth Joseff, "Cefais freuddwyd, ac ni all neb ei dehongli, ond clywais amdanat ti dy fod yn gallu gwrando breuddwyd a'i dehongli."
16ויען יוסף את פרעה לאמר בלעדי אלהים יענה את שלום פרעה׃
16 Atebodd Joseff Pharo a dweud, "Nid myfi; Duw a rydd ateb ffafriol i Pharo."
17וידבר פרעה אל יוסף בחלמי הנני עמד על שפת היאר׃
17 Dywedodd Pharo wrth Joseff, "Yn fy mreuddwyd yr oeddwn yn sefyll ar lan y Neil,
18והנה מן היאר עלת שבע פרות בריאות בשר ויפת תאר ותרעינה באחו׃
18 a dyma saith o wartheg tew a phorthiannus yn esgyn o'r afon, a phori yn y weirglodd;
19והנה שבע פרות אחרות עלות אחריהן דלות ורעות תאר מאד ורקות בשר לא ראיתי כהנה בכל ארץ מצרים לרע׃
19 ac yna saith o wartheg eraill truenus a nychlyd a thenau iawn, yn dod ar eu h�l; ni welais rai cynddrwg yn holl dir yr Aifft.
20ותאכלנה הפרות הרקות והרעות את שבע הפרות הראשנות הבריאת׃
20 Bwytaodd y gwartheg tenau a nychlyd y saith o wartheg tewion cyntaf,
21ותבאנה אל קרבנה ולא נודע כי באו אל קרבנה ומראיהן רע כאשר בתחלה ואיקץ׃
21 ond er iddynt eu bwyta nid oedd �l hynny arnynt, gan eu bod mor denau � chynt. Yna deffroais.
22וארא בחלמי והנה שבע שבלים עלת בקנה אחד מלאת וטבות׃
22 Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd saith o dywysennau llawn a da yn tyfu ar un gwelltyn;
23והנה שבע שבלים צנמות דקות שדפות קדים צמחות אחריהם׃
23 a dyma saith dywysen fain a thenau, wedi eu deifio gan wynt y dwyrain, yn tarddu ar eu h�l.
24ותבלען השבלים הדקת את שבע השבלים הטבות ואמר אל החרטמים ואין מגיד לי׃
24 Llyncodd y tywysennau tenau y saith dywysen dda. Adroddais hyn wrth y dewiniaid, ond ni allai neb ei egluro i mi."
25ויאמר יוסף אל פרעה חלום פרעה אחד הוא את אשר האלהים עשה הגיד לפרעה׃
25 Yna dywedodd Joseff wrth Pharo, "Un ystyr sydd i freuddwyd Pharo; y mae Duw wedi mynegi i Pharo yr hyn y mae am ei wneud.
26שבע פרת הטבת שבע שנים הנה ושבע השבלים הטבת שבע שנים הנה חלום אחד הוא׃
26 Y saith o wartheg da, saith mlynedd ydynt, a'r saith dywysen dda, saith mlynedd ydynt; un freuddwyd sydd yma.
27ושבע הפרות הרקות והרעת העלת אחריהן שבע שנים הנה ושבע השבלים הרקות שדפות הקדים יהיו שבע שני רעב׃
27 Saith mlynedd hefyd yw'r saith o wartheg tenau a nychlyd a esgynnodd ar eu h�l, a saith mlynedd o newyn yw'r saith dywysen wag wedi eu deifio gan wynt y dwyrain.
28הוא הדבר אשר דברתי אל פרעה אשר האלהים עשה הראה את פרעה׃
28 Fel y dywedais wrth Pharo, y mae Duw wedi dangos i Pharo yr hyn y mae am ei wneud.
29הנה שבע שנים באות שבע גדול בכל ארץ מצרים׃
29 Daw saith mlynedd o lawnder mawr trwy holl wlad yr Aifft,
30וקמו שבע שני רעב אחריהן ונשכח כל השבע בארץ מצרים וכלה הרעב את הארץ׃
30 ond ar eu h�l daw saith mlynedd o newyn, ac anghofir yr holl lawnder yng ngwlad yr Aifft; difethir y wlad gan y newyn,
31ולא יודע השבע בארץ מפני הרעב ההוא אחרי כן כי כבד הוא מאד׃
31 ac ni fydd �l y llawnder yn y wlad o achos y newyn hwnnw fydd yn ei ddilyn, gan mor drwm fydd.
32ועל השנות החלום אל פרעה פעמים כי נכון הדבר מעם האלהים וממהר האלהים לעשתו׃
32 Dyblwyd breuddwyd Pharo am fod y peth mor sicr gan Dduw, a bod Duw ar fin ei gyflawni.
33ועתה ירא פרעה איש נבון וחכם וישיתהו על ארץ מצרים׃
33 Yn awr, dylai Pharo edrych am u373?r deallus a doeth i'w osod ar wlad yr Aifft.
34יעשה פרעה ויפקד פקדים על הארץ וחמש את ארץ מצרים בשבע שני השבע׃
34 Dyma a ddylai Pharo ei wneud: gosod arolygwyr dros y wlad, i gymryd y bumed ran o gnwd gwlad yr Aifft dros y saith mlynedd o lawnder.
35ויקבצו את כל אכל השנים הטבת הבאת האלה ויצברו בר תחת יד פרעה אכל בערים ושמרו׃
35 Dylent gasglu holl fwyd y blynyddoedd da sydd ar ddod, a thrwy awdurdod Pharo, dylent gasglu u375?d yn ymborth i'w gadw yn y dinasoedd,
36והיה האכל לפקדון לארץ לשבע שני הרעב אשר תהיין בארץ מצרים ולא תכרת הארץ ברעב׃
36 fel y bydd y bwyd ynghadw i'r wlad dros y saith mlynedd o newyn sydd i fod yng ngwlad yr Aifft, rhag i'r wlad gael ei difetha gan y newyn."
37וייטב הדבר בעיני פרעה ובעיני כל עבדיו׃
37 Bu'r cyngor yn dderbyniol gan Pharo a'i holl weision.
38ויאמר פרעה אל עבדיו הנמצא כזה איש אשר רוח אלהים בו׃
38 A dywedodd Pharo wrth ei weision, "A fedrwn ni gael gu373?r arall fel hwn ag ysbryd Duw ynddo?"
39ויאמר פרעה אל יוסף אחרי הודיע אלהים אותך את כל זאת אין נבון וחכם כמוך׃
39 Felly dywedodd Pharo wrth Joseff, "Am i Dduw roi gwybod hyn oll i ti, nid oes neb mor ddeallus a doeth � thi;
40אתה תהיה על ביתי ועל פיך ישק כל עמי רק הכסא אגדל ממך׃
40 ti fydd dros fy nhu375?, a bydd fy holl bobl yn ufudd i ti; yr orsedd yn unig a'm gwna i yn fwy na thi."
41ויאמר פרעה אל יוסף ראה נתתי אתך על כל ארץ מצרים׃
41 Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, "Dyma fi wedi dy osod di'n ben ar holl wlad yr Aifft,"
42ויסר פרעה את טבעתו מעל ידו ויתן אתה על יד יוסף וילבש אתו בגדי שש וישם רבד הזהב על צוארו׃
42 a thynnodd ei fodrwy oddi ar ei law a'i gosod ar law Joseff, a gwisgo amdano ddillad o liain main, a rhoi cadwyn aur am ei wddf.
43וירכב אתו במרכבת המשנה אשר לו ויקראו לפניו אברך ונתון אתו על כל ארץ מצרים׃
43 Parodd iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai i weiddi o'i flaen, "Plygwch lin." Felly gosododd Pharo ef dros holl wlad yr Aifft.
44ויאמר פרעה אל יוסף אני פרעה ובלעדיך לא ירים איש את ידו ואת רגלו בכל ארץ מצרים׃
44 A dywedodd Pharo wrth Joseff, "Myfi yw Pharo, ond heb dy ganiat�d di nid yw neb i godi na llaw na throed trwy holl wlad yr Aifft."
45ויקרא פרעה שם יוסף צפנת פענח ויתן לו את אסנת בת פוטי פרע כהן אן לאשה ויצא יוסף על ארץ מצרים׃
45 Enwodd Pharo ef Saffnath-panea, a rhoddodd yn wraig iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On. Yna aeth Joseff allan yn bennaeth dros wlad yr Aifft.
46ויוסף בן שלשים שנה בעמדו לפני פרעה מלך מצרים ויצא יוסף מלפני פרעה ויעבר בכל ארץ מצרים׃
46 Deng mlwydd ar hugain oedd oed Joseff pan safodd gerbron Pharo brenin yr Aifft. Aeth allan o u373?ydd Pharo, a thramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.
47ותעש הארץ בשבע שני השבע לקמצים׃
47 Yn ystod y saith mlynedd o lawnder cnydiodd y ddaear yn doreithiog,
48ויקבץ את כל אכל שבע שנים אשר היו בארץ מצרים ויתן אכל בערים אכל שדה העיר אשר סביבתיה נתן בתוכה׃
48 a chasglodd yntau yr holl fwyd a gaed yng ngwlad yr Aifft yn ystod y saith mlynedd, a chrynhoi ymborth yn y dinasoedd. Casglodd i bob dinas fwyd y meysydd o'i hamgylch.
49ויצבר יוסף בר כחול הים הרבה מאד עד כי חדל לספר כי אין מספר׃
49 Felly pentyrrodd Joseff u375?d fel tywod y m�r, nes peidio � chadw cyfrif, am na ellid ei fesur.
50וליוסף ילד שני בנים בטרם תבוא שנת הרעב אשר ילדה לו אסנת בת פוטי פרע כהן און׃
50 Cyn dyfod blwyddyn y newyn, ganwyd i Joseff ddau fab o Asnath, merch Potiffera offeiriad On.
51ויקרא יוסף את שם הבכור מנשה כי נשני אלהים את כל עמלי ואת כל בית אבי׃
51 Enwodd Joseff ei gyntafanedig Manasse � "Am fod Duw wedi peri imi anghofio fy holl gyni a holl dylwyth fy nhad."
52ואת שם השני קרא אפרים כי הפרני אלהים בארץ עניי׃
52 Enwodd yr ail Effraim � "Am fod Duw wedi fy ngwneud i'n ffrwythlon yng ngwlad fy ngorthrymder."
53ותכלינה שבע שני השבע אשר היה בארץ מצרים׃
53 Darfu'r saith mlynedd o lawnder yng ngwlad yr Aifft;
54ותחלינה שבע שני הרעב לבוא כאשר אמר יוסף ויהי רעב בכל הארצות ובכל ארץ מצרים היה לחם׃
54 a dechreuodd y saith mlynedd o newyn, fel yr oedd Joseff wedi dweud. Bu newyn yn yr holl wledydd, ond yr oedd bwyd yn holl wlad yr Aifft.
55ותרעב כל ארץ מצרים ויצעק העם אל פרעה ללחם ויאמר פרעה לכל מצרים לכו אל יוסף אשר יאמר לכם תעשו׃
55 A phan ddaeth newyn ar holl wlad yr Aifft, galwodd y bobl ar Pharo am fwyd. Dywedodd Pharo wrth yr holl Eifftiaid, "Ewch at Joseff, a gwnewch yr hyn a ddywed ef wrthych."
56והרעב היה על כל פני הארץ ויפתח יוסף את כל אשר בהם וישבר למצרים ויחזק הרעב בארץ מצרים׃
56 Ac fel yr oedd y newyn yn ymledu dros wyneb yr holl dir, agorodd Joseff yr holl ystordai a gwerthodd u375?d i'r Eifftiaid, oherwydd yr oedd y newyn yn drwm yng ngwlad yr Aifft.
57וכל הארץ באו מצרימה לשבר אל יוסף כי חזק הרעב בכל הארץ׃
57 Daeth pobl o'r holl wledydd hefyd i'r Aifft at Joseff i brynu, oherwydd yr oedd y newyn yn drwm drwy'r byd i gyd.