Hebrew: Modern

Welsh

Genesis

45

1ולא יכל יוסף להתאפק לכל הנצבים עליו ויקרא הוציאו כל איש מעלי ולא עמד איש אתו בהתודע יוסף אל אחיו׃
1 Methodd Joseff ymatal yng ngu373?ydd ei weision, a gwaeddodd, "Gyrrwch bawb allan oddi wrthyf." Felly nid arhosodd neb gyda Joseff pan ddatgelodd i'w frodyr pwy ydoedd.
2ויתן את קלו בבכי וישמעו מצרים וישמע בית פרעה׃
2 Wylodd yn uchel, nes bod yr Eifftiaid a theulu Pharo yn ei glywed,
3ויאמר יוסף אל אחיו אני יוסף העוד אבי חי ולא יכלו אחיו לענות אתו כי נבהלו מפניו׃
3 a dywedodd wrth ei frodyr, "Joseff wyf fi. A yw fy nhad yn dal yn fyw?" Ond ni allai ei frodyr ei ateb, gan eu bod wedi eu cynhyrfu wrth ei weld.
4ויאמר יוסף אל אחיו גשו נא אלי ויגשו ויאמר אני יוסף אחיכם אשר מכרתם אתי מצרימה׃
4 Yna meddai Joseff wrth ei frodyr, "Dewch yn nes ataf." Wedi iddynt nes�u, dywedodd, "Myfi yw eich brawd Joseff, a werthwyd gennych i'r Aifft.
5ועתה אל תעצבו ואל יחר בעיניכם כי מכרתם אתי הנה כי למחיה שלחני אלהים לפניכם׃
5 Yn awr, peidiwch � chyffroi na bod yn ddig wrthych eich hunain, am i chwi fy ngwerthu i'r lle hwn, oherwydd anfonodd Duw fi o'ch blaen er mwyn diogelu bywyd.
6כי זה שנתים הרעב בקרב הארץ ועוד חמש שנים אשר אין חריש וקציר׃
6 Bu newyn drwy'r wlad y ddwy flynedd hyn; a bydd eto bum mlynedd heb aredig na medi.
7וישלחני אלהים לפניכם לשום לכם שארית בארץ ולהחיות לכם לפליטה גדלה׃
7 Anfonodd Duw fi o'ch blaen i sicrhau hil i chwi ar y ddaear, ac i gadw'n fyw o'ch plith nifer mawr o waredigion.
8ועתה לא אתם שלחתם אתי הנה כי האלהים וישימני לאב לפרעה ולאדון לכל ביתו ומשל בכל ארץ מצרים׃
8 Felly nid chwi ond Duw a'm hanfonodd yma, a'm gwneud fel tad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dylwyth a llywodraethwr dros holl wlad yr Aifft.
9מהרו ועלו אל אבי ואמרתם אליו כה אמר בנך יוסף שמני אלהים לאדון לכל מצרים רדה אלי אל תעמד׃
9 Ewch ar frys at fy nhad a dywedwch wrtho, 'Dyma y mae dy fab Joseff yn ei ddweud: "Y mae Duw wedi fy ngwneud yn arglwydd ar yr Aifft i gyd. Tyrd i lawr ataf, paid ag oedi dim.
10וישבת בארץ גשן והיית קרוב אלי אתה ובניך ובני בניך וצאנך ובקרך וכל אשר לך׃
10 Cei fyw yn f'ymyl yng ngwlad Gosen gyda'th blant a'th wyrion, dy ddefaid a'th wartheg, a'th holl eiddo;
11וכלכלתי אתך שם כי עוד חמש שנים רעב פן תורש אתה וביתך וכל אשר לך׃
11 a chynhaliaf di yno, rhag i ti na neb o'th dylwyth fynd yn dlawd, oherwydd fe fydd eto bum mlynedd o newyn."'
12והנה עיניכם ראות ועיני אחי בנימין כי פי המדבר אליכם׃
12 Yn awr yr ydych chwi a'm brawd Benjamin yn llygad-dystion mai myfi'n wir sy'n siarad � chwi.
13והגדתם לאבי את כל כבודי במצרים ואת כל אשר ראיתם ומהרתם והורדתם את אבי הנה׃
13 Rhaid ichwi ddweud wrth fy nhad am yr holl anrhydedd yr wyf wedi ei gael yn yr Aifft, ac am bopeth yr ydych wedi ei weld. Ewch ar unwaith, a dewch �'m tad i lawr yma."
14ויפל על צוארי בנימן אחיו ויבך ובנימן בכה על צואריו׃
14 Yna rhoes ei freichiau am wddf ei frawd Benjamin ac wylo; ac wylodd Benjamin ar ei ysgwydd yntau.
15וינשק לכל אחיו ויבך עליהם ואחרי כן דברו אחיו אתו׃
15 Cusanodd ei frodyr i gyd, gan wylo. Wedyn cafodd ei frodyr sgwrs ag ef.
16והקל נשמע בית פרעה לאמר באו אחי יוסף וייטב בעיני פרעה ובעיני עבדיו׃
16 Pan ddaeth y newydd i du375? Pharo fod brodyr Joseff wedi cyrraedd, llawenhaodd Pharo a'i weision.
17ויאמר פרעה אל יוסף אמר אל אחיך זאת עשו טענו את בעירכם ולכו באו ארצה כנען׃
17 Dywedodd Pharo wrth Joseff, "Dywed wrth dy frodyr, 'Gwnewch fel hyn: llwythwch eich anifeiliaid a theithio'n �l i wlad Canaan.
18וקחו את אביכם ואת בתיכם ובאו אלי ואתנה לכם את טוב ארץ מצרים ואכלו את חלב הארץ׃
18 Yna dewch �'ch tad a'ch teuluoedd ataf, a rhof ichwi orau gwlad yr Aifft, a chewch fyw ar fraster y wlad.'
19ואתה צויתה זאת עשו קחו לכם מארץ מצרים עגלות לטפכם ולנשיכם ונשאתם את אביכם ובאתם׃
19 Yna gorchymyn iddynt, 'Gwnewch fel hyn: cymerwch wageni o wlad yr Aifft i'ch rhai bach ac i'ch gwragedd, a dewch �'ch tad yma.
20ועינכם אל תחס על כליכם כי טוב כל ארץ מצרים לכם הוא׃
20 Peidiwch � phryderu am eich celfi; y mae gorau holl wlad yr Aifft at eich galwad.'"
21ויעשו כן בני ישראל ויתן להם יוסף עגלות על פי פרעה ויתן להם צדה לדרך׃
21 Gwnaeth meibion Israel felly; rhoddodd Joseff wageni iddynt, ar orchymyn Pharo, a bwyd at y daith.
22לכלם נתן לאיש חלפות שמלת ולבנימן נתן שלש מאות כסף וחמש חלפת שמלת׃
22 Rhoddodd wisg newydd hefyd i bob un ohonynt, ond i Benjamin rhoddodd dri chant o ddarnau arian a phum gwisg newydd.
23ולאביו שלח כזאת עשרה חמרים נשאים מטוב מצרים ועשר אתנת נשאת בר ולחם ומזון לאביו לדרך׃
23 Dyma a anfonodd i'w dad: deg asyn yn llwythog o bethau gorau'r Aifft, a deg o asennod yn cario u375?d a bara, a bwyd i'w dad at y daith.
24וישלח את אחיו וילכו ויאמר אלהם אל תרגזו בדרך׃
24 Yna anfonodd ei frodyr ymaith, ac wrth iddynt gychwyn dywedodd, "Peidiwch � chweryla ar y ffordd."
25ויעלו ממצרים ויבאו ארץ כנען אל יעקב אביהם׃
25 Felly aethant o'r Aifft a dod i wlad Canaan at eu tad Jacob.
26ויגדו לו לאמר עוד יוסף חי וכי הוא משל בכל ארץ מצרים ויפג לבו כי לא האמין להם׃
26 Dywedasant wrtho, "Y mae Joseff yn dal yn fyw, ac ef yw llywodraethwr holl wlad yr Aifft." Aeth yntau yn wan drwyddo, oherwydd nid oedd yn eu credu.
27וידברו אליו את כל דברי יוסף אשר דבר אלהם וירא את העגלות אשר שלח יוסף לשאת אתו ותחי רוח יעקב אביהם׃
27 Ond pan adroddasant iddo holl eiriau Joseff, fel y dywedodd ef wrthynt, a phan welodd y wageni yr oedd Joseff wedi eu hanfon i'w gludo, adfywiodd ysbryd eu tad Jacob.
28ויאמר ישראל רב עוד יוסף בני חי אלכה ואראנו בטרם אמות׃
28 A dywedodd Israel, "Dyma ddigon, y mae fy mab Joseff yn dal yn fyw. Af finnau i'w weld cyn marw."