Hebrew: Modern

Welsh

Isaiah

10

1הוי החקקים חקקי און ומכתבים עמל כתבו׃
1 Gwae'r rhai a wn�nt ddeddfau anghyfiawn a deddfu gormes yn ddi-baid;
2להטות מדין דלים ולגזל משפט עניי עמי להיות אלמנות שללם ואת יתומים יבזו׃
2 i droi'r tlodion oddi wrth farn, ac amddifadu'r anghenus o blith fy mhobl o'u hawliau; i wneud gweddwon yn ysbail iddynt a'r rhai amddifad yn anrhaith.
3ומה תעשו ליום פקדה ולשואה ממרחק תבוא על מי תנוסו לעזרה ואנה תעזבו כבודכם׃
3 Beth a wnewch yn nydd y dial, yn y dinistr a ddaw o bell? At bwy y ffowch am help? Ple y gadewch eich cyfoeth,
4בלתי כרע תחת אסיר ותחת הרוגים יפלו בכל זאת לא שב אפו ועוד ידו נטויה׃
4 i osgoi crymu ymhlith y carcharorion a syrthio ymhlith y lladdedigion? Er hynny, ni throdd ei lid ef, ac y mae'n dal i estyn allan ei law.
5הוי אשור שבט אפי ומטה הוא בידם זעמי׃
5 "Gwae Asyria, gwialen fy llid; hi yw ffon fy nigofaint.
6בגוי חנף אשלחנו ועל עם עברתי אצונו לשלל שלל ולבז בז ולשימו מרמס כחמר חוצות׃
6 Anfonaf hi yn erbyn cenedl annuwiol, a rhof orchymyn iddi yn erbyn pobl fy nicter, i gymryd ysbail ac i anrheithio, a'u mathru dan draed fel baw'r heolydd.
7והוא לא כן ידמה ולבבו לא כן יחשב כי להשמיד בלבבו ולהכרית גוים לא מעט׃
7 Ond nid yw hi'n amcanu fel hyn, ac nid yw'n bwriadu felly; canys y mae ei bryd ar ddifetha a thorri ymaith genhedloedd lawer.
8כי יאמר הלא שרי יחדו מלכים׃
8 Fe ddywed, 'Onid yw fy swyddogion i gyd yn frenhinoedd?
9הלא ככרכמיש כלנו אם לא כארפד חמת אם לא כדמשק שמרון׃
9 Onid yw Calno fel Carchemis, a Hamath fel Arpad, a Samaria fel Damascus?'
10כאשר מצאה ידי לממלכת האליל ופסיליהם מירושלם ומשמרון׃
10 Fel yr estynnais fy llaw hyd at deyrnasoedd eilunod, a oedd �'u delwau'n amlach na rhai Jerwsalem a Samaria,
11הלא כאשר עשיתי לשמרון ולאליליה כן אעשה לירושלם ולעצביה׃
11 ac fel y gwneuthum i Samaria ac i'w delwau hi, oni wnaf felly hefyd i Jerwsalem a'i heilunod?"
12והיה כי יבצע אדני את כל מעשהו בהר ציון ובירושלם אפקד על פרי גדל לבב מלך אשור ועל תפארת רום עיניו׃
12 Pan orffen yr ARGLWYDD ei holl waith ar Fynydd Seion a Jerwsalem, fe gosba ymffrost trahaus brenin Asyria a hunanhyder ei ysbryd am iddo ddweud,
13כי אמר בכח ידי עשיתי ובחכמתי כי נבנותי ואסיר גבולת עמים ועתידתיהם שושתי ואוריד כאביר יושבים׃
13 "Yn fy nerth fy hun y gwneuthum hyn, a thrwy fy noethineb, pan oeddwn yn cynllunio. Symudais ffiniau cenhedloedd, ysbeiliais eu trysorau; fel tarw bwriais i lawr y trigolion.
14ותמצא כקן ידי לחיל העמים וכאסף ביצים עזבות כל הארץ אני אספתי ולא היה נדד כנף ופצה פה ומצפצף׃
14 Cefais hyd i gyfoeth y bobl fel nyth; ac fel y bydd dyn yn casglu wyau wedi eu gadael, felly y cesglais innau bob gwlad ynghyd; nid oedd adain yn symud na phig yn agor i glochdar."
15היתפאר הגרזן על החצב בו אם יתגדל המשור על מניפו כהניף שבט את מרימיו כהרים מטה לא עץ׃
15 A ymffrostia'r fwyell yn erbyn y cymynwr? A ymfawryga'r llif yn erbyn yr hwn a'i tyn? Fel pe bai gwialen yn ysgwyd yr un sy'n ei chwifio, neu ffon yn trin un nad yw'n bren!
16לכן ישלח האדון יהוה צבאות במשמניו רזון ותחת כבדו יקד יקד כיקוד אש׃
16 Am hynny bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, yn anfon clefyd i nychu ei ryfelwyr praff, a than ei ogoniant fe gyfyd twymyn fel llosgiad t�n.
17והיה אור ישראל לאש וקדושו ללהבה ובערה ואכלה שיתו ושמירו ביום אחד׃
17 Bydd Goleuni Israel yn d�n a'i Un Sanctaidd yn fflam; fe lysg ac fe ysa ei ddrain a'i fieri mewn un dydd.
18וכבוד יערו וכרמלו מנפש ועד בשר יכלה והיה כמסס נסס׃
18 Fe ddifoda ogoniant ei goedwig a'i ddoldir, fel claf yn nychu, yn enaid a chorff.
19ושאר עץ יערו מספר יהיו ונער יכתבם׃
19 A bydd gweddill prennau ei goedwig mor brin nes y bydd plentyn yn gallu eu cyfrif.
20והיה ביום ההוא לא יוסיף עוד שאר ישראל ופליטת בית יעקב להשען על מכהו ונשען על יהוה קדוש ישראל באמת׃
20 Yn y dydd hwnnw ni fydd gweddill Israel, a'r rhai a ddihangodd yn nhu375? Jacob, yn pwyso bellach ar yr un a'u trawodd; ond pwysant yn llwyr ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel.
21שאר ישוב שאר יעקב אל אל גבור׃
21 Bydd gweddill yn dychwel, gweddill Jacob, at Dduw sydd yn gadarn.
22כי אם יהיה עמך ישראל כחול הים שאר ישוב בו כליון חרוץ שוטף צדקה׃
22 Canys, er i'th bobl Israel fod fel tywod y m�r, gweddill yn unig fydd yn dychwel. Cyhoeddwyd dinistr, yn gorlifo mewn cyfiawnder.
23כי כלה ונחרצה אדני יהוה צבאות עשה בקרב כל הארץ׃
23 Canys bydd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, yn gwneud dinistr terfynol yng nghanol yr holl ddaear.
24לכן כה אמר אדני יהוה צבאות אל תירא עמי ישב ציון מאשור בשבט יככה ומטהו ישא עליך בדרך מצרים׃
24 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd: "Fy mhobl, sy'n preswylio yn Seion, paid ag ofni rhag yr Asyriaid, er iddynt dy guro � gwialen, a chodi eu ffon yn dy erbyn fel y gwnaeth yr Eifftiaid.
25כי עוד מעט מזער וכלה זעם ואפי על תבליתם׃
25 Canys ymhen ychydig bach fe dderfydd fy llid, a bydd fy nigofaint yn troi i'w difetha hwy.
26ועורר עליו יהוה צבאות שוט כמכת מדין בצור עורב ומטהו על הים ונשאו בדרך מצרים׃
26 A bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ysgwyd chwip yn eu herbyn, fel y gwnaeth yn lladdfa Midian wrth garreg Oreb, ac yn codi ei wialen dros y m�r fel y cododd hi dros yr Aifft."
27והיה ביום ההוא יסור סבלו מעל שכמך ועלו מעל צוארך וחבל על מפני שמן׃
27 Yn y dydd hwnnw symudir ei faich oddi ar dy ysgwydd, a dryllio'i iau oddi ar dy war. Esgynnodd o Rimmon,
28בא על עית עבר במגרון למכמש יפקיד כליו׃
28 daeth at Aiath, tramwyodd drwy Migron, rhoddodd ei gelfi i'w cadw yn Michmas;
29עברו מעברה גבע מלון לנו חרדה הרמה גבעת שאול נסה׃
29 aethant dros Maabara ac aros dros nos yn Geba. Dychrynodd Rama, arswydodd Gibea Saul.
30צהלי קולך בת גלים הקשיבי לישה עניה ענתות׃
30 Bloeddia'n groch, Bath�galim; gwrando arni, Lais; ateb hi, Anathoth.
31נדדה מדמנה ישבי הגבים העיזו׃
31 Y mae Madmena ar ffo, a phobl Gebim yn chwilio am nodded.
32עוד היום בנב לעמד ינפף ידו הר בית ציון גבעת ירושלם׃
32 Heddiw y mae'n sefyll yn Nob, ac yn cau ei ddwrn yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerwsalem.
33הנה האדון יהוה צבאות מסעף פארה במערצה ורמי הקומה גדועים והגבהים ישפלו׃
33 Wele yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd, yn cymynu'r prennau yn frawychus; torrir ymaith y rhai talgryf, a chwympir y rhai uchel.
34ונקף סבכי היער בברזל והלבנון באדיר יפול׃
34 Tyr � bwyell lwyni'r goedwig, a syrth Lebanon a'i choed cadarn.