1משא מצרים הנה יהוה רכב על עב קל ובא מצרים ונעו אלילי מצרים מפניו ולבב מצרים ימס בקרבו׃
1 Yr oracl am yr Aifft: Wele'r ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl buan, ac yn dod i'r Aifft; bydd eilunod yr Aifft yn crynu o'i flaen, a chalon yr Eifftiaid yn toddi o'u mewn.
2וסכסכתי מצרים במצרים ונלחמו איש באחיו ואיש ברעהו עיר בעיר ממלכה בממלכה׃
2 "Gyrraf Eifftiwr yn erbyn Eifftiwr; ymladd brawd yn erbyn brawd, a chymydog yn erbyn cymydog, dinas yn erbyn dinas, a theyrnas yn erbyn teyrnas.
3ונבקה רוח מצרים בקרבו ועצתו אבלע ודרשו אל האלילים ואל האטים ואל האבות ואל הידענים׃
3 Palla ysbryd yr Eifftiaid o'u mewn, a drysaf eu cynlluniau; �nt i ymofyn �'u heilunod a'u swynwyr, �'u dewiniaid a'u dynion hysbys.
4וסכרתי את מצרים ביד אדנים קשה ומלך עז ימשל בם נאם האדון יהוה צבאות׃
4 Trosglwyddaf yr Aifft i feistr caled, a theyrnasa brenin creulon arnynt," medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y Lluoedd.
5ונשתו מים מהים ונהר יחרב ויבש׃
5 Sychir dyfroedd y Neil, bydd yr afon yn hesb a sych,
6והאזניחו נהרות דללו וחרבו יארי מצור קנה וסוף קמלו׃
6 y ffosydd yn drewi, ffrydiau y Neil yn edwino gan sychder, a'r brwyn a'r helyg yn gwywo;
7ערות על יאור על פי יאור וכל מזרע יאור ייבש נדף ואיננו׃
7 bydd lleiniau o dir moel wrth y Neil, a bydd popeth a heuir gyda glan yr afon yn crino ac yn diflannu'n llwyr.
8ואנו הדיגים ואבלו כל משליכי ביאור חכה ופרשי מכמרת על פני מים אמללו׃
8 Bydd y pysgotwyr yn trist�u ac yn cwynfan, pob un sy'n taflu bach yn y Neil; bydd y rhai sy'n bwrw rhwydi ar y dyfroedd yn dihoeni.
9ובשו עבדי פשתים שריקות וארגים חורי׃
9 Bydd gweithwyr llin mewn trallod, a'r cribwragedd a'r gwehyddion yn gwelwi.
10והיו שתתיה מדכאים כל עשי שכר אגמי נפש׃
10 Bydd y rhai sy'n nyddu yn benisel a phob crefftwr yn torri ei galon.
11אך אולים שרי צען חכמי יעצי פרעה עצה נבערה איך תאמרו אל פרעה בן חכמים אני בן מלכי קדם׃
11 o'r fath ffyliaid, chwi dywysogion Soan, y doethion sy'n cynghori Pharo � chyngor hurt! Sut y gallwch ddweud wrth Pharo, "Mab y doethion wyf fi, o hil yr hen frenhinoedd"?
12אים אפוא חכמיך ויגידו נא לך וידעו מה יעץ יהוה צבאות על מצרים׃
12 Ble mae dy ddoethion? Bydded iddynt lefaru'n awr, a'th ddysgu beth a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd ynglu375?n �'r Aifft.
13נואלו שרי צען נשאו שרי נף התעו את מצרים פנת שבטיה׃
13 Gwnaed tywysogion Soan yn ffyliaid, a thwyllwyd tywysogion Noff; aeth penaethiaid ei llwythau �'r Aifft ar gyfeiliorn.
14יהוה מסך בקרבה רוח עועים והתעו את מצרים בכל מעשהו כהתעות שכור בקיאו׃
14 Cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd drygioni o'i mewn, a gwneud i'r Aifft gyfeiliorni ym mhopeth a wna, fel y bydd meddwyn yn ymdroi yn ei gyfog.
15ולא יהיה למצרים מעשה אשר יעשה ראש וזנב כפה ואגמון׃
15 Ni bydd dim y gellir ei wneud i'r Aifft gan neb, na phen na chynffon, na changen na brwynen.
16ביום ההוא יהיה מצרים כנשים וחרד ופחד מפני תנופת יד יהוה צבאות אשר הוא מניף עליו׃
16 Yn y dydd hwnnw bydd yr Eifftiaid fel gwragedd yn crynu gan ofn o flaen y llaw y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei hysgwyd yn eu herbyn.
17והיתה אדמת יהודה למצרים לחגא כל אשר יזכיר אתה אליו יפחד מפני עצת יהוה צבאות אשר הוא יועץ עליו׃
17 Bydd tir Jwda yn arswyd i'r Aifft, a phob s�n amdano yn codi ofn arni, oherwydd y cynllun a fwriadodd ARGLWYDD y Lluoedd yn ei herbyn.
18ביום ההוא יהיו חמש ערים בארץ מצרים מדברות שפת כנען ונשבעות ליהוה צבאות עיר ההרס יאמר לאחת׃
18 Yn y dydd hwnnw bydd pump o ddinasoedd yr Aifft yn siarad iaith Canaan, ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i ARGLWYDD y Lluoedd. Enw un ohonynt fydd Dinas yr Haul.
19ביום ההוא יהיה מזבח ליהוה בתוך ארץ מצרים ומצבה אצל גבולה ליהוה׃
19 Yn y dydd hwnnw bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a cholofn i'r ARGLWYDD ar ei goror.
20והיה לאות ולעד ליהוה צבאות בארץ מצרים כי יצעקו אל יהוה מפני לחצים וישלח להם מושיע ורב והצילם׃
20 Bydd yn arwydd ac yn dystiolaeth i ARGLWYDD y Lluoedd yng ngwlad yr Aifft; pan lefant ar yr ARGLWYDD oherwydd eu gorthrymwyr, bydd yntau yn anfon gwaredydd iddynt i'w hamddiffyn a'u hachub.
21ונודע יהוה למצרים וידעו מצרים את יהוה ביום ההוא ועבדו זבח ומנחה ונדרו נדר ליהוה ושלמו׃
21 Bydd yr ARGLWYDD yn ei wneud ei hun yn adnabyddus i'r Eifftiaid, a byddant hwythau'n cydnabod yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn ei addoli ag aberth a bwydoffrwm, ac yn addunedu i'r ARGLWYDD ac yn talu eu haddunedau iddo.
22ונגף יהוה את מצרים נגף ורפוא ושבו עד יהוה ונעתר להם ורפאם׃
22 Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft, yn ei tharo ac yn ei gwella; pan ddychwelant at yr ARGLWYDD bydd yntau'n gwrando arnynt ac yn eu hiach�u.
23ביום ההוא תהיה מסלה ממצרים אשורה ובא אשור במצרים ומצרים באשור ועבדו מצרים את אשור׃
23 Yn y dydd hwnnw bydd priffordd o'r Aifft i Asyria; fe �'r Asyriaid i'r Aifft a'r Eifftiaid i Asyria, a bydd yr Eifftiaid yn addoli gyda'r Asyriaid.
24ביום ההוא יהיה ישראל שלישיה למצרים ולאשור ברכה בקרב הארץ׃
24 Yn y dydd hwnnw bydd Israel yn un o dri, gyda'r Aifft ac Asyria, ac yn gyfrwng bendith yng nghanol y byd.
25אשר ברכו יהוה צבאות לאמר ברוך עמי מצרים ומעשה ידי אשור ונחלתי ישראל׃
25 Bendith ARGLWYDD y Lluoedd fydd, "Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy nwylo, ac ar Israel, f'etifeddiaeth."