Hebrew: Modern

Welsh

Isaiah

24

1הנה יהוה בוקק הארץ ובולקה ועוה פניה והפיץ ישביה׃
1 Wele, y mae'r ARGLWYDD yn gwac�u'r ddaear, yn ei difrodi, yn ei throi �'i hwyneb i waered, ac yn gyrru ei thrigolion ar wasgar.
2והיה כעם ככהן כעבד כאדניו כשפחה כגברתה כקונה כמוכר כמלוה כלוה כנשה כאשר נשא בו׃
2 Bydd yr un ffunud i bobl ac i offeiriad, i was ac i feistr, i lawforwyn ac i feistres, i brynwr ac i werthwr, i echwynnwr ac i fenthyciwr, i'r un sy'n derbyn llog ac i'r un sy'n ei dalu.
3הבוק תבוק הארץ והבוז תבוז כי יהוה דבר את הדבר הזה׃
3 Gwneir y ddaear yn gwbl wag, a'i hysbeilio'n llwyr. Oherwydd yr ARGLWYDD a lefarodd y gair hwn.
4אבלה נבלה הארץ אמללה נבלה תבל אמללו מרום עם הארץ׃
4 Gwywodd y ddaear a chrino, dihoenodd y byd ac edwino, dihoenodd uchelfeydd y ddaear.
5והארץ חנפה תחת ישביה כי עברו תורת חלפו חק הפרו ברית עולם׃
5 Halogwyd y ddaear gan ei phreswylwyr, am iddynt dorri'r cyfreithiau, newid y deddfau a diddymu'r cyfamod tragwyddol.
6על כן אלה אכלה ארץ ויאשמו ישבי בה על כן חרו ישבי ארץ ונשאר אנוש מזער׃
6 Am hynny fe ysir y wlad gan felltith, a chosbir ei thrigolion; am hynny hefyd fe �'r trigolion yn llai a llai, ac ychydig fydd yn weddill.
7אבל תירוש אמללה גפן נאנחו כל שמחי לב׃
7 Fe �'r gwin newydd yn wan, dihoena'r winwydden, a thry'r gorfoleddwyr i riddfan.
8שבת משוש תפים חדל שאון עליזים שבת משוש כנור׃
8 Bydd su373?n llawen y tympanau yn peidio, a thrwst y gyfeddach yn distewi, a'r delyn hyfryd yn dawel.
9בשיר לא ישתו יין ימר שכר לשתיו׃
9 Ni fydd yfed gwin yn su373?n canu; bydd y ddiod yn chwerw i'r yfwr.
10נשברה קרית תהו סגר כל בית מבוא׃
10 Bydd dinas anhrefn wedi ei dryllio, a phob tu375? ar glo rhag i neb fynd iddo.
11צוחה על היין בחוצות ערבה כל שמחה גלה משוש הארץ׃
11 Er galw am win yn yr heolydd, bydd diwedd ar bob cyfeddach, a diflanna llawenydd o'r wlad.
12נשאר בעיר שמה ושאיה יכת שער׃
12 Anghyfanhedd�dra yn unig a adewir yn y ddinas, a bydd ei phyrth wedi eu dryllio'n gandryll.
13כי כה יהיה בקרב הארץ בתוך העמים כנקף זית כעוללת אם כלה בציר׃
13 Felly y bydd dros y byd i gyd ymhlith y bobloedd, fel ar adeg ysgwyd yr olewydd a lloffa'r gwinwydd ar �l y cynhaeaf.
14המה ישאו קולם ירנו בגאון יהוה צהלו מים׃
14 Byddant yn codi llef a llawenhau, datganant glod yr ARGLWYDD o'r gorllewin.
15על כן בארים כבדו יהוה באיי הים שם יהוה אלהי ישראל׃
15 Am hynny taler parch i'r ARGLWYDD yn y dwyrain, i enw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ynysoedd y gorllewin.
16מכנף הארץ זמרת שמענו צבי לצדיק ואמר רזי לי רזי לי אוי לי בגדים בגדו ובגד בוגדים בגדו׃
16 O eithafoedd y ddaear fe glywn orfoledd: "Gogoniant i'r Un Cyfiawn." Ond fe ddywedaf fi, "Nychdod! Nychdod! Gwae fi! y twyllwyr a dwyllodd, twyllwyr a dwyllodd �'u twyll."
17פחד ופחת ופח עליך יושב הארץ׃
17 Dychryn, pwll, magl sydd ar dy gyfer, breswylydd y tir;
18והיה הנס מקול הפחד יפל אל הפחת והעולה מתוך הפחת ילכד בפח כי ארבות ממרום נפתחו וירעשו מוסדי ארץ׃
18 y sawl a ffy o drwst y dychryn a syrth i'r pwll, a'r sawl a gyfyd o ganol y pwll a ddelir yn y fagl. Oherwydd agorir ffenestri'r uchelder, ac fe gryna seiliau'r ddaear;
19רעה התרעעה הארץ פור התפוררה ארץ מוט התמוטטה ארץ׃
19 dryllir y ddaear yn deilchion, ei rhwygo drwyddi a'i hysgwyd yn ffyrnig;
20נוע תנוע ארץ כשכור והתנודדה כמלונה וכבד עליה פשעה ונפלה ולא תסיף קום׃
20 bydd y ddaear yn gwegian yn �l a blaen fel meddwyn, yn siglo fel caban gwyliwr; bydd pwysau ei chamwedd mor drwm arni, fel y bydd yn syrthio heb godi byth mwy.
21והיה ביום ההוא יפקד יהוה על צבא המרום במרום ועל מלכי האדמה על האדמה׃
21 Yn y dydd hwnnw fe gosba'r ARGLWYDD lu'r nef yn y nef, a brenhinoedd y ddaear ar y ddaear.
22ואספו אספה אסיר על בור וסגרו על מסגר ומרב ימים יפקדו׃
22 Fe'u cesglir ynghyd, yn glos fel carcharorion mewn cell; caeir arnynt yng ngharchar, a'u cosbi ymhen amser hir.
23וחפרה הלבנה ובושה החמה כי מלך יהוה צבאות בהר ציון ובירושלם ונגד זקניו כבוד׃
23 Gwaradwyddir y lloer, a chywilyddia'r haul, oherwydd teyrnasa ARGLWYDD y Lluoedd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem, a'i ogoniant yn amlwg gerbron ei henuriaid.