1ויהי בארבע עשרה שנה למלך חזקיהו עלה סנחריב מלך אשור על כל ערי יהודה הבצרות ויתפשם׃
1 Yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Heseceia, ymosododd Senacherib brenin Asyria ar holl ddinasoedd caerog Jwda a'u goresgyn.
2וישלח מלך אשור את רב שקה מלכיש ירושלמה אל המלך חזקיהו בחיל כבד ויעמד בתעלת הברכה העליונה במסלת שדה כובס׃
2 Ac anfonodd brenin Asyria y prif swyddog � byddin gref o Lachis i Jerwsalem at y Brenin Heseceia; ac fe safodd wrth bistyll y Llyn Uchaf, sydd gerllaw priffordd Maes y Pannwr.
3ויצא אליו אליקים בן חלקיהו אשר על הבית ושבנא הספר ויואח בן אסף המזכיר׃
3 Daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, ato i'r fan honno, a chydag ef Sebna yr ysgrifennydd a Joa fab Asaff, y cofiadur.
4ויאמר אליהם רב שקה אמרו נא אל חזקיהו כה אמר המלך הגדול מלך אשור מה הבטחון הזה אשר בטחת׃
4 Dywedodd y prif swyddog wrthynt, "Dywedwch wrth Heseceia mai dyma neges yr ymerawdwr, brenin Asyria: 'Beth yw sail yr hyder hwn sydd gennyt?
5אמרתי אך דבר שפתים עצה וגבורה למלחמה עתה על מי בטחת כי מרדת בי׃
5 A wyt ti'n meddwl bod geiriau yn gwneud y tro ar gyfer rhyfel, yn lle cynllun a nerth? Ar bwy, ynteu, yr wyt yn dibynnu wrth godi gwrthryfel yn f'erbyn?
6הנה בטחת על משענת הקנה הרצוץ הזה על מצרים אשר יסמך איש עליו ובא בכפו ונקבה כן פרעה מלך מצרים לכל הבטחים עליו׃
6 Ai'r Aifft � ffon o gorsen wedi ei hysigo, sy'n rhwygo ac anafu llaw y sawl sy'n pwyso arni? Un felly yw Pharo brenin yr Aifft i bwy bynnag sy'n dibynnu arno.
7וכי תאמר אלי אל יהוה אלהינו בטחנו הלוא הוא אשר הסיר חזקיהו את במתיו ואת מזבחתיו ויאמר ליהודה ולירושלם לפני המזבח הזה תשתחוו׃
7 Neu os dywedi wrthyf, "Yr ydym yn dibynnu ar yr ARGLWYDD ein Duw", onid ef yw'r un y tynnodd Heseceia ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, "O flaen yr allor hon yr addolwch"?
8ועתה התערב נא את אדני המלך אשור ואתנה לך אלפים סוסים אם תוכל לתת לך רכבים עליהם׃
8 Yn awr, beth am daro bargen gyda'm meistr, brenin Asyria? Rhof ddwy fil o feirch iti, os gelli di gael marchogion iddynt.
9ואיך תשיב את פני פחת אחד עבדי אדני הקטנים ותבטח לך על מצרים לרכב ולפרשים׃
9 Neu sut y gelli wrthod un capten o blith gweision lleiaf fy meistr, a dibynnu ar yr Aifft am gerbydau a marchogion?
10ועתה המבלעדי יהוה עליתי על הארץ הזאת להשחיתה יהוה אמר אלי עלה אל הארץ הזאת והשחיתה׃
10 Heblaw hyn, ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y wlad hon i'w dinistrio? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, "Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi".'"
11ויאמר אליקים ושבנא ויואח אל רב שקה דבר נא אל עבדיך ארמית כי שמעים אנחנו ואל תדבר אלינו יהודית באזני העם אשר על החומה׃
11 Dywedodd Eliacim a Sebna a Joa wrth y prif swyddog, "Gwell gennym iti siarad � ni yn Aramaeg, oherwydd yr ydym yn ei deall, a pheidio � siarad yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y mur."
12ויאמר רב שקה האל אדניך ואליך שלחני אדני לדבר את הדברים האלה הלא על האנשים הישבים על החומה לאכל את חראיהם ולשתות את שיניהם עמכם׃
12 Ond atebodd y prif swyddog, "Ai at dy feistr a thithau yr anfonodd fy meistr fi i ddweud fy neges, yn hytrach nag at y bobl sydd ar y mur, a fydd, fel chwithau, yn bwyta eu tom ac yn yfed eu du373?r eu hunain?"
13ויעמד רב שקה ויקרא בקול גדול יהודית ויאמר שמעו את דברי המלך הגדול מלך אשור׃
13 Yna fe safodd y prif swyddog a gweiddi'n uchel mewn Hebraeg, "Clywch eiriau'r ymerawdwr, brenin Asyria;
14כה אמר המלך אל ישא לכם חזקיהו כי לא יוכל להציל אתכם׃
14 dyma y mae'n ei ddweud: 'Peidiwch � gadael i Heseceia eich twyllo; ni all ef eich gwaredu.
15ואל יבטח אתכם חזקיהו אל יהוה לאמר הצל יצילנו יהוה לא תנתן העיר הזאת ביד מלך אשור׃
15 Peidiwch � chymryd eich perswadio ganddo i ddibynnu ar yr ARGLWYDD pan yw'n dweud, "Bydd yr ARGLWYDD yn siu373?r o'n gwaredu, ac ni roddir y ddinas hon i afael brenin Asyria."
16אל תשמעו אל חזקיהו כי כה אמר המלך אשור עשו אתי ברכה וצאו אלי ואכלו איש גפנו ואיש תאנתו ושתו איש מי בורו׃
16 Peidiwch � gwrando ar Heseceia.' Dyma eiriau brenin Asyria: 'Gwnewch delerau heddwch � mi; dewch allan ataf; ac yna caiff pob un fwyta o'i winwydden ac o'i ffigysbren, ac yfed du373?r o'i ffynnon ei hun,
17עד באי ולקחתי אתכם אל ארץ כארצכם ארץ דגן ותירוש ארץ לחם וכרמים׃
17 nes i mi ddod i'ch dwyn i wlad debyg i'ch gwlad eich hun, gwlad u375?d a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd.
18פן יסית אתכם חזקיהו לאמר יהוה יצילנו ההצילו אלהי הגוים איש את ארצו מיד מלך אשור׃
18 Cymerwch ofal rhag i Heseceia eich hudo chwi trwy ddweud, "Bydd yr ARGLWYDD yn ein gwaredu." A yw duw unrhyw un o'r cenhedloedd wedi gwaredu ei wlad o afael brenin Asyria?
19איה אלהי חמת וארפד איה אלהי ספרוים וכי הצילו את שמרון מידי׃
19 Ple mae duwiau Hamath ac Arpad? Ple mae duwiau Seffarfaim? A wnaethant hwy waredu Samaria o'm gafael?
20מי בכל אלהי הארצות האלה אשר הצילו את ארצם מידי כי יציל יהוה את ירושלם מידי׃
20 Prun o holl dduwiau'r gwledydd hyn sydd wedi gwaredu ei wlad o'm gafael? Sut, ynteu, y mae'r ARGLWYDD yn mynd i waredu Jerwsalem o'm gafael?'"
21ויחרישו ולא ענו אתו דבר כי מצות המלך היא לאמר לא תענהו׃
21 Cadw'n ddistaw a wnaeth y bobl, heb ateb gair, oherwydd yr oedd y brenin wedi rhoi gorchymyn nad oeddent i'w ateb.
22ויבא אליקים בן חלקיהו אשר על הבית ושבנא הסופר ויואח בן אסף המזכיר אל חזקיהו קרועי בגדים ויגידו לו את דברי רב שקה׃
22 Yna daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd a Joa fab Asaff, y cofiadur, at Heseceia, a'u dillad wedi eu rhwygo, ac adrodd wrtho yr hyn yr oedd y prif swyddog wedi ei ddweud.