Hebrew: Modern

Welsh

Isaiah

43

1ועתה כה אמר יהוה בראך יעקב ויצרך ישראל אל תירא כי גאלתיך קראתי בשמך לי אתה׃
1 Yn awr, dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th greodd, Jacob, ac a'th luniodd, Israel: "Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di; galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt.
2כי תעבר במים אתך אני ובנהרות לא ישטפוך כי תלך במו אש לא תכוה ולהבה לא תבער בך׃
2 Pan fyddi'n mynd trwy'r dyfroedd, byddaf gyda thi; a thrwy'r afonydd, ni ruthrant drosot. Pan fyddi'n rhodio trwy'r t�n, ni'th ddeifir, a thrwy'r fflamau, ni losgant di.
3כי אני יהוה אלהיך קדוש ישראל מושיעך נתתי כפרך מצרים כוש וסבא תחתיך׃
3 Oherwydd myfi, yr ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel, yw dy waredydd; rhof yr Aifft yn iawn trosot, Ethiopia a Seba yn gyfnewid amdanat.
4מאשר יקרת בעיני נכבדת ואני אהבתיך ואתן אדם תחתיך ולאמים תחת נפשך׃
4 Am dy fod yn werthfawr yn fy ngolwg, yn ogoneddus, a minnau'n dy garu, rhof eraill yn gyfnewid amdanat, a phobloedd am dy einioes.
5אל תירא כי אתך אני ממזרח אביא זרעך וממערב אקבצך׃
5 Paid ag ofni; yr wyf fi gyda thi. Dygaf dy had o'r dwyrain, casglaf di o'r gorllewin;
6אמר לצפון תני ולתימן אל תכלאי הביאי בני מרחוק ובנותי מקצה הארץ׃
6 gorchmynnaf i'r gogledd, 'Rho', ac i'r de, 'Paid � dal yn �l; tyrd �'m meibion o bell, a'm merched o eithafoedd byd �
7כל הנקרא בשמי ולכבודי בראתיו יצרתיו אף עשיתיו׃
7 pob un sydd �'m henw arno, ac a greais i'm gogoniant, ac a luniais, ac a wneuthum.'"
8הוציא עם עור ועינים יש וחרשים ואזנים למו׃
8 Dygwch allan y bobl sy'n ddall, er bod llygaid ganddynt, y rhai sy'n fyddar, er bod clustiau ganddynt.
9כל הגוים נקבצו יחדו ויאספו לאמים מי בהם יגיד זאת וראשנות ישמיענו יתנו עדיהם ויצדקו וישמעו ויאמרו אמת׃
9 Y mae'r holl bobl wedi eu casglu ynghyd, a'r bobloedd wedi eu cynnull. Pwy yn eu plith a fynega hyn, a chyhoeddi i ni y pethau gynt? Gadewch iddynt alw tystion i brofi'r achos, a gwrando, a dyfarnu ei fod yn wir.
10אתם עדי נאם יהוה ועבדי אשר בחרתי למען תדעו ותאמינו לי ותבינו כי אני הוא לפני לא נוצר אל ואחרי לא יהיה׃
10 "Chwi yw fy nhystion," medd yr ARGLWYDD, "fy ngwas, a etholais er mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof, a deall mai myfi yw Duw. Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen, ac ni fydd yr un ar fy �l.
11אנכי אנכי יהוה ואין מבלעדי מושיע׃
11 Myfi, myfi yw'r ARGLWYDD; nid oes waredydd ond myfi.
12אנכי הגדתי והושעתי והשמעתי ואין בכם זר ואתם עדי נאם יהוה ואני אל׃
12 Myfi a fu'n mynegi, yn achub ac yn cyhoeddi, pan nad oedd duw dieithr yn eich plith; ac yr ydych chwi'n dystion i mi," medd yr ARGLWYDD, "mai myfi yw Duw.
13גם מיום אני הוא ואין מידי מציל אפעל ומי ישיבנה׃
13 o'r dydd hwn, myfi yw Duw; ni all neb waredu o'm llaw. Beth bynnag a wnaf, ni all neb ei ddadwneud."
14כה אמר יהוה גאלכם קדוש ישראל למענכם שלחתי בבלה והורדתי בריחים כלם וכשדים באניות רנתם׃
14 Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, eich Gwaredydd, Sanct Israel: "Er eich mwyn chwi byddaf yn anfon i Fabilon, ac yn dryllio'r barrau i gyd, a throi c�n y Caldeaid yn wylofain.
15אני יהוה קדושכם בורא ישראל מלככם׃
15 Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct; creawdwr Israel yw eich brenin."
16כה אמר יהוה הנותן בים דרך ובמים עזים נתיבה׃
16 Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, a agorodd ffordd yn y m�r a llwybr yn y dyfroedd enbyd;
17המוציא רכב וסוס חיל ועזוז יחדו ישכבו בל יקומו דעכו כפשתה כבו׃
17 a ddug allan gerbyd a march, byddin a dewrion, a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi, yn darfod ac yn diffodd fel llin:
18אל תזכרו ראשנות וקדמניות אל תתבננו׃
18 "Peidiwch � meddwl am y pethau gynt, peidiwch ag aros gyda'r hen hanes.
19הנני עשה חדשה עתה תצמח הלוא תדעוה אף אשים במדבר דרך בישמון נהרות׃
19 Edrychwch, 'rwyf yn gwneud peth newydd; y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod? Yn wir, 'rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch.
20תכבדני חית השדה תנים ובנות יענה כי נתתי במדבר מים נהרות בישימן להשקות עמי בחירי׃
20 Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu, y bleiddiaid a'r estrys, am imi roi du373?r yn yr anialwch ac afonydd yn y diffeithwch, er mwyn rhoi du373?r i'm pobl, f'etholedig,
21עם זו יצרתי לי תהלתי יספרו׃
21 sef y bobl a luniais i mi fy hun, iddynt fynegi fy nghlod.
22ולא אתי קראת יעקב כי יגעת בי ישראל׃
22 "Jacob, ni elwaist arnaf fi, ond blinaist arnaf, Israel.
23לא הביאת לי שה עלתיך וזבחיך לא כבדתני לא העבדתיך במנחה ולא הוגעתיך בלבונה׃
23 Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm, na'm hanrhydeddu �'th ebyrth; ni roddais faich bwydoffrwm arnat, na'th flino am arogldarth.
24לא קנית לי בכסף קנה וחלב זבחיך לא הרויתני אך העבדתני בחטאותיך הוגעתני בעונתיך׃
24 Ni phrynaist i mi galamus ag arian, na'm llenwi �'th ebyrth breision; ond rhoddaist dy bechodau yn faich arnaf, blinaist fi �'th gamweddau.
25אנכי אנכי הוא מחה פשעיך למעני וחטאתיך לא אזכר׃
25 "Myfi, myfi yw Duw, sy'n dileu dy droseddau er fy mwyn fy hun, heb alw i gof dy bechodau.
26הזכירני נשפטה יחד ספר אתה למען תצדק׃
26 Cyhudda fi, dadleuwn �'n gilydd; gosod dy achos gerbron, iti gael dyfarniad.
27אביך הראשון חטא ומליציך פשעו בי׃
27 Pechodd dy dad cyntaf, a chododd d'arweinwyr yn f'erbyn,
28ואחלל שרי קדש ואתנה לחרם יעקב וישראל לגדופים׃
28 a halogodd dy dywysogion fy nghysegr; felly rhoddais Jacob i'w ddinistrio, ac Israel yn waradwydd."