Hebrew: Modern

Welsh

Isaiah

49

1שמעו איים אלי והקשיבו לאמים מרחוק יהוה מבטן קראני ממעי אמי הזכיר שמי׃
1 Gwrandewch arnaf, chwi ynysoedd, rhowch sylw, chwi bobl o bell. Galwodd yr ARGLWYDD fi o'r groth; o fru fy mam fe'm henwodd.
2וישם פי כחרב חדה בצל ידו החביאני וישימני לחץ ברור באשפתו הסתירני׃
2 Gwnaeth fy ngenau fel cleddyf llym, a'm cadw yng nghysgod ei law; gwnaeth fi yn saeth loyw, a'm cuddio yng nghawell ei saethau.
3ויאמר לי עבדי אתה ישראל אשר בך אתפאר׃
3 Dywedodd wrthyf, "Fy ngwas wyt ti; ynot ti, Israel, y caf ogoniant."
4ואני אמרתי לריק יגעתי לתהו והבל כחי כליתי אכן משפטי את יהוה ופעלתי את אלהי׃
4 Dywedais innau, "Llafuriais yn ofer, a threuliais fy nerth i ddim; er hynny y mae fy achos gyda'r ARGLWYDD a'm gwobr gyda'm Duw."
5ועתה אמר יהוה יצרי מבטן לעבד לו לשובב יעקב אליו וישראל לא יאסף ואכבד בעיני יהוה ואלהי היה עזי׃
5 Ac yn awr, llefarodd yr ARGLWYDD, a'm lluniodd o'r groth yn was iddo, i adfer Jacob iddo a chasglu Israel ato, i'm gogoneddu yng ngu373?ydd yr ARGLWYDD, am fod fy Nuw yn gadernid i mi.
6ויאמר נקל מהיותך לי עבד להקים את שבטי יעקב ונצירי ישראל להשיב ונתתיך לאור גוים להיות ישועתי עד קצה הארץ׃
6 Dywedodd, "Peth bychan yw i ti fod yn was i mi, i godi llwythau Jacob ar eu traed, ac adfer rhai cadwedig Israel; fe'th wnaf di yn oleuni i'r cenhedloedd, i'm hiachawdwriaeth gyrraedd hyd eithaf y ddaear."
7כה אמר יהוה גאל ישראל קדושו לבזה נפש למתעב גוי לעבד משלים מלכים יראו וקמו שרים וישתחוו למען יהוה אשר נאמן קדש ישראל ויבחרך׃
7 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gwaredydd Israel, a'i Sanct, wrth yr un a ddirmygir ac a ffieiddir gan bobloedd, wrth gaethwas y trahaus: "Bydd brenhinoedd yn sefyll pan welant, a'r tywysogion yn ymgrymu, o achos yr ARGLWYDD, sy'n ffyddlon, a Sanct Israel, a'th ddewisodd di."
8כה אמר יהוה בעת רצון עניתיך וביום ישועה עזרתיך ואצרך ואתנך לברית עם להקים ארץ להנחיל נחלות שממות׃
8 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Atebaf di yn adeg ffafr, a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth; cadwaf di, a'th osod yn gyfamod i'r bobl; adferaf y tir a rhannu'r tiroedd anrhaith yn etifeddiaeth;
9לאמר לאסורים צאו לאשר בחשך הגלו על דרכים ירעו ובכל שפיים מרעיתם׃
9 a dywedaf wrth y carcharorion, 'Ewch allan', ac wrth y rhai mewn tywyllwch, 'Dewch i'r golau'. C�nt bori ar fin y ffyrdd a chael porfa ar y moelydd.
10לא ירעבו ולא יצמאו ולא יכם שרב ושמש כי מרחמם ינהגם ועל מבועי מים ינהלם׃
10 Ni newynant ac ni sychedant, ni fydd gwres na haul yn eu taro, oherwydd un sy'n tosturio wrthynt sy'n eu harwain, ac yn eu tywys at ffynhonnau o ddu373?r.
11ושמתי כל הרי לדרך ומסלתי ירמון׃
11 Gwnaf bob mynydd yn ffordd, a llenwi o dan fy llwybrau.
12הנה אלה מרחוק יבאו והנה אלה מצפון ומים ואלה מארץ סינים׃
12 Y mae rhai yn dod o bell, a rhai o'r gogledd a'r gorllewin, ac eraill o wlad Sinim."
13רנו שמים וגילי ארץ יפצחו הרים רנה כי נחם יהוה עמו ועניו ירחם׃
13 C�n, nefoedd; gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, fynyddoedd. Canys y mae'r ARGLWYDD yn cysuro ei bobl, ac yn tosturio wrth ei drueiniaid.
14ותאמר ציון עזבני יהוה ואדני שכחני׃
14 Dywedodd Seion, "Gwrthododd yr ARGLWYDD fi, ac anghofiodd fy Arglwydd fi."
15התשכח אשה עולה מרחם בן בטנה גם אלה תשכחנה ואנכי לא אשכחך׃
15 "A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, neu fam blentyn ei chroth? Fe allant hwy anghofio, ond nid anghofiaf fi di.
16הן על כפים חקתיך חומתיך נגדי תמיד׃
16 Edrych, 'rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo; y mae dy furiau bob amser o flaen fy llygaid;
17מהרו בניך מהרסיך ומחרביך ממך יצאו׃
17 y mae dy adeiladwyr yn gyflymach na'r rhai sy'n dy ddinistrio, ac y mae dy anrheithwyr wedi mynd ymaith.
18שאי סביב עיניך וראי כלם נקבצו באו לך חי אני נאם יהוה כי כלם כעדי תלבשי ותקשרים ככלה׃
18 Edrych o'th amgylch, a gw�l; y mae pawb yn ymgasglu ac yn dod atat. Cyn wired �'m bod yn fyw," medd yr ARGLWYDD, "byddi'n eu gwisgo i gyd fel addurn, ac yn eu rhwymo amdanat fel y gwna priodferch.
19כי חרבתיך ושממתיך וארץ הרסתיך כי עתה תצרי מיושב ורחקו מבלעיך׃
19 Bydd dy ddiffeithwch a'th anialwch a'th dir anrhaith yn rhy gyfyng bellach i'th breswylwyr, gan fod dy ddifodwyr ymhell i ffwrdd.
20עוד יאמרו באזניך בני שכליך צר לי המקום גשה לי ואשבה׃
20 Bydd y plant a anwyd yn nydd dy alar yn dweud eto'n hyglyw, 'Nid oes digon o le i mi; symud draw, i mi gael lle i fyw.'
21ואמרת בלבבך מי ילד לי את אלה ואני שכולה וגלמודה גלה וסורה ואלה מי גדל הן אני נשארתי לבדי אלה איפה הם׃
21 "Yna y dywedi ynot dy hun, 'Pwy a genhedlodd y rhain i mi, a minnau'n weddw ac yn ddi-blant? Yr oeddwn i mewn caethglud ac yn ddigartref; pwy a'u magodd hwy? Yn wir, 'roeddwn i wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun; o ble, ynteu, y daeth y rhain?'"
22כה אמר אדני יהוה הנה אשא אל גוים ידי ואל עמים ארים נסי והביאו בניך בחצן ובנתיך על כתף תנשאנה׃
22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: "Rhof arwydd �'m llaw i'r cenhedloedd, a chodaf fy maner i'r bobloedd, a dygant dy feibion yn eu mynwes, a chludo dy ferched ar eu hysgwydd.
23והיו מלכים אמניך ושרותיהם מיניקתיך אפים ארץ ישתחוו לך ועפר רגליך ילחכו וידעת כי אני יהוה אשר לא יבשו קוי׃
23 Bydd brenhinoedd yn dadau maeth iti, a'u tywysogesau yn famau maeth iti; plygant i'r llawr o'th flaen a llyfu llwch dy draed; yna y cei wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, ac na siomir neb sy'n disgwyl wrthyf."
24היקח מגבור מלקוח ואם שבי צדיק ימלט׃
24 A ddygir ysbail oddi ar y cadarn? A ryddheir carcharor o law'r gormeswr?
25כי כה אמר יהוה גם שבי גבור יקח ומלקוח עריץ ימלט ואת יריבך אנכי אריב ואת בניך אנכי אושיע׃
25 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Fe ddygir carcharor o law'r cadarn, ac fe ryddheir ysbail o law'r gormeswr; myfi fydd yn dadlau �'th gyhuddwr, ac yn gwaredu dy blant.
26והאכלתי את מוניך את בשרם וכעסיס דמם ישכרון וידעו כל בשר כי אני יהוה מושיעך וגאלך אביר יעקב׃
26 Gwnaf i'th orthrymwyr fwyta'u cnawd eu hunain, a meddwaf hwy �'u gwaed eu hunain fel � gwin; yna caiff pawb wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy Waredydd, ac mai Un Cadarn Jacob yw dy Achubydd."