Hebrew: Modern

Welsh

Isaiah

51

1שמעו אלי רדפי צדק מבקשי יהוה הביטו אל צור חצבתם ואל מקבת בור נקרתם׃
1 "Gwrandewch arnaf, chwi sy'n dilyn cyfiawnder, sy'n ceisio'r ARGLWYDD. Edrychwch ar y graig y'ch naddwyd ohoni, ac ar y chwarel lle'ch cloddiwyd;
2הביטו אל אברהם אביכם ואל שרה תחוללכם כי אחד קראתיו ואברכהו וארבהו׃
2 edrychwch at Abraham eich tad, ac at Sara, a'ch dygodd i'r byd; un ydoedd pan elwais ef, ond fe'i bendithiais a'i amlhau.
3כי נחם יהוה ציון נחם כל חרבתיה וישם מדברה כעדן וערבתה כגן יהוה ששון ושמחה ימצא בה תודה וקול זמרה׃
3 Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, yn cysuro ei holl fannau anghyfannedd; bydd yn gwneud ei hanialwch yn Eden, a'i diffeithwch yn ardd yr ARGLWYDD; ceir o'i mewn lawenydd a gorfoledd, emyn diolch a sain c�n.
4הקשיבו אלי עמי ולאומי אלי האזינו כי תורה מאתי תצא ומשפטי לאור עמים ארגיע׃
4 "Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clywch fi, fy nghenedl; oherwydd daw cyfraith allan oddi wrthyf, a bydd fy marn yn goleuo pobloedd.
5קרוב צדקי יצא ישעי וזרעי עמים ישפטו אלי איים יקוו ואל זרעי ייחלון׃
5 Y mae fy muddugoliaeth gerllaw, a'm hiachawdwriaeth ar ddod; bydd fy mraich yn rheoli'r bobloedd; bydd yr ynysoedd yn disgwyl wrthyf, ac yn ymddiried yn fy mraich.
6שאו לשמים עיניכם והביטו אל הארץ מתחת כי שמים כעשן נמלחו והארץ כבגד תבלה וישביה כמו כן ימותון וישועתי לעולם תהיה וצדקתי לא תחת׃
6 Codwch eich golwg i'r nefoedd, edrychwch ar y ddaear islaw; y mae'r nefoedd yn diflannu fel mwg, a'r ddaear yn treulio fel dilledyn, a'i thrigolion yn marw fel gwybed; ond bydd fy iachawdwriaeth yn parhau byth, ac ni phalla fy muddugoliaeth.
7שמעו אלי ידעי צדק עם תורתי בלבם אל תיראו חרפת אנוש ומגדפתם אל תחתו׃
7 "Gwrandewch arnaf, chwi sy'n adnabod cyfiawnder, rhai sydd �'m cyfraith yn eu calon: Peidiwch ag ofni gwaradwydd pobl, nac arswydo rhag eu gwatwar;
8כי כבגד יאכלם עש וכצמר יאכלם סס וצדקתי לעולם תהיה וישועתי לדור דורים׃
8 oherwydd bydd y pryf yn eu hysu fel dilledyn, a'r gwyfyn yn eu bwyta fel gwl�n; ond bydd fy muddugoliaeth yn parhau byth, a'm hiachawdwriaeth i bob cenhedlaeth."
9עורי עורי לבשי עז זרוע יהוה עורי כימי קדם דרות עולמים הלוא את היא המחצבת רהב מחוללת תנין׃
9 Deffro, deffro, gwisg dy nerth, O fraich yr ARGLWYDD; deffro, fel yn y dyddiau gynt, a'r oesoedd o'r blaen. Onid ti a ddrylliodd Rahab, a thrywanu'r ddraig?
10הלוא את היא המחרבת ים מי תהום רבה השמה מעמקי ים דרך לעבר גאולים׃
10 Onid ti a sychodd y m�r, dyfroedd y dyfnder mawr? Onid ti a wnaeth ddyfnderau'r m�r yn ffordd i'r gwaredigion groesi?
11ופדויי יהוה ישובון ובאו ציון ברנה ושמחת עולם על ראשם ששון ושמחה ישיגון נסו יגון ואנחה׃
11 Fe ddychwel gwaredigion yr ARGLWYDD; d�nt i Seion dan ganu, a llawenydd tragwyddol ar bob un. Hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd, a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.
12אנכי אנכי הוא מנחמכם מי את ותיראי מאנוש ימות ומבן אדם חציר ינתן׃
12 "Myfi, myfi sy'n eich diddanu; pam, ynteu, yr ofnwch neb meidrol, neu rywun sydd fel glaswelltyn?
13ותשכח יהוה עשך נוטה שמים ויסד ארץ ותפחד תמיד כל היום מפני חמת המציק כאשר כונן להשחית ואיה חמת המציק׃
13 Pam yr ydych yn anghofio'r ARGLWYDD, eich creawdwr, yr un a ledodd y nefoedd, ac a sylfaenodd y ddaear? Pam yr ofnwch o hyd, drwy'r dydd, rhag llid gorthrymwr sy'n barod i ddistrywio? Ond ple mae llid y gorthrymwr?
14מהר צעה להפתח ולא ימות לשחת ולא יחסר לחמו׃
14 Caiff y caeth ei ryddhau yn y man; ni fydd yn marw yn y gell, ac ni fydd pall ar ei fara.
15ואנכי יהוה אלהיך רגע הים ויהמו גליו יהוה צבאות שמו׃
15 Myfi yw'r ARGLWYDD, dy Dduw, sy'n cynhyrfu'r m�r nes i'r tonnau ruo; ARGLWYDD y Lluoedd yw fy enw.
16ואשים דברי בפיך ובצל ידי כסיתיך לנטע שמים וליסד ארץ ולאמר לציון עמי אתה׃
16 Gosodais fy ngeiriau yn dy enau, cysgodais di yng nghledr fy llaw; taenais y nefoedd a sylfaenais y ddaear, a dweud wrth Seion, 'Fy mhobl wyt ti.'"
17התעוררי התעוררי קומי ירושלם אשר שתית מיד יהוה את כוס חמתו את קבעת כוס התרעלה שתית מצית׃
17 Deffro, deffro, cod, Jerwsalem; yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lid, yfaist bob dafn o waddod y cwpan meddwol.
18אין מנהל לה מכל בנים ילדה ואין מחזיק בידה מכל בנים גדלה׃
18 O blith yr holl blant yr esgorodd arnynt, nid oes un a all ei thywys; o'r holl rai a fagodd, nid oes un a afael yn ei llaw.
19שתים הנה קראתיך מי ינוד לך השד והשבר והרעב והחרב מי אנחמך׃
19 Daeth dau drychineb i'th gyfarfod � pwy a'th ddiddana? Dinistr a distryw, newyn a chleddyf � pwy a'th gysura?
20בניך עלפו שכבו בראש כל חוצות כתוא מכמר המלאים חמת יהוה גערת אלהיך׃
20 Gorwedd dy blant yn llesg ym mhen pob heol, fel gafrewig mewn magl; y maent yn llawn o lid yr ARGLWYDD, a cherydd dy Dduw.
21לכן שמעי נא זאת עניה ושכרת ולא מיין׃
21 Am hynny, gwrando'n awr, y druan, sy'n feddw, er nad trwy win.
22כה אמר אדניך יהוה ואלהיך יריב עמו הנה לקחתי מידך את כוס התרעלה את קבעת כוס חמתי לא תוסיפי לשתותה עוד׃
22 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, dy Arglwydd a'th Dduw di, yr un sy'n dadlau achos ei bobl: "Cymerais o'th law y cwpan meddwol, ac nid yfi mwyach waddod cwpan fy llid;
23ושמתיה ביד מוגיך אשר אמרו לנפשך שחי ונעברה ותשימי כארץ גוך וכחוץ לעברים׃
23 ond rhof hi yn llaw dy ormeswyr, a ddywedodd wrthyt, 'Plyga i lawr i ni gerdded trosot.' Ac fe roist dy gefn fel llawr, ac fel heol iddynt gerdded trosti."