Hebrew: Modern

Welsh

Isaiah

60

1קומי אורי כי בא אורך וכבוד יהוה עליך זרח׃
1 "Cod, llewyrcha, oherwydd daeth dy oleuni; llewyrchodd gogoniant yr ARGLWYDD arnat.
2כי הנה החשך יכסה ארץ וערפל לאמים ועליך יזרח יהוה וכבודו עליך יראה׃
2 Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear, a'r fagddu dros y bobloedd, bydd yr ARGLWYDD yn llewyrchu arnat ti, a gwelir ei ogoniant arnat.
3והלכו גוים לאורך ומלכים לנגה זרחך׃
3 Fe ddaw'r cenhedloedd at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy wawr.
4שאי סביב עיניך וראי כלם נקבצו באו לך בניך מרחוק יבאו ובנתיך על צד תאמנה׃
4 "Cod dy lygaid ac edrych o'th gwmpas; y maent i gyd yn ymgasglu i ddod atat, yn dwyn dy feibion a'th ferched o bell, ac yn eu cludo ar eu hystlys;
5אז תראי ונהרת ופחד ורחב לבבך כי יהפך עליך המון ים חיל גוים יבאו לך׃
5 pan weli, bydd dy wyneb yn gloywi, bydd dy galon yn llawn cyffro a llawenydd; troir atat gyflawnder y m�r, a daw golud y cenhedloedd yn eiddo iti.
6שפעת גמלים תכסך בכרי מדין ועיפה כלם משבא יבאו זהב ולבונה ישאו ותהלת יהוה יבשרו׃
6 Bydd gyrroedd o gamelod yn dy orchuddio, daw camelod masnach o Midian, Effa a Sheba; byddant i gyd yn cludo aur a thus, ac yn mynegi moliant yr ARGLWYDD.
7כל צאן קדר יקבצו לך אילי נביות ישרתונך יעלו על רצון מזבחי ובית תפארתי אפאר׃
7 Cesglir holl ddefaid Cedar atat, a bydd hyrddod Nebaioth at dy wasanaeth; offrymir hwy'n aberthau derbyniol ar fy allor, ac ychwanegaf at ogoniant fy nhu375? gogoneddus.
8מי אלה כעב תעופינה וכיונים אל ארבתיהם׃
8 "Pwy yw'r rhain sy'n ehedeg fel cwmwl, ac fel colomennod i'w nythle?
9כי לי איים יקוו ואניות תרשיש בראשנה להביא בניך מרחוק כספם וזהבם אתם לשם יהוה אלהיך ולקדוש ישראל כי פארך׃
9 Y mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu, a llongau Tarsis ar y blaen, i ddod �'th blant o bell, a'u harian a'u haur gyda hwy, er anrhydedd i'r ARGLWYDD dy Dduw, Sanct Israel; oherwydd y mae wedi dy ogoneddu.
10ובנו בני נכר חמתיך ומלכיהם ישרתונך כי בקצפי הכיתיך וברצוני רחמתיך׃
10 "Dieithriaid fydd yn codi dy furiau, a'u brenhinoedd yn dy wasanaethu, oherwydd, er i mi yn fy nig dy daro, penderfynais dosturio wrthyt.
11ופתחו שעריך תמיד יומם ולילה לא יסגרו להביא אליך חיל גוים ומלכיהם נהוגים׃
11 Bydd dy byrth yn agored bob amser, heb eu cau ddydd na nos, er mwyn dwyn golud y cenhedloedd atat, gyda'u brenhinoedd yn osgordd.
12כי הגוי והממלכה אשר לא יעבדוך יאבדו והגוים חרב יחרבו׃
12 Oherwydd difethir y genedl a'r deyrnas sy'n gwrthod dy wasanaethu; dinistrir y cenhedloedd hynny'n llwyr.
13כבוד הלבנון אליך יבוא ברוש תדהר ותאשור יחדו לפאר מקום מקדשי ומקום רגלי אכבד׃
13 Daw gogoniant Lebanon atat � y ffynidwydd, y ffawydd a'r pren bocs � i harddu man fy nghysegr, ac anrhydeddu'r lle y gosodaf fy nhraed.
14והלכו אליך שחוח בני מעניך והשתחוו על כפות רגליך כל מנאציך וקראו לך עיר יהוה ציון קדוש ישראל׃
14 Daw plant dy ormeswyr atat yn ostyngedig; bydd pob un a'th ddiystyrodd yn ymostwng wrth dy draed; galwant di yn Ddinas yr ARGLWYDD, Seion Sanct Israel.
15תחת היותך עזובה ושנואה ואין עובר ושמתיך לגאון עולם משוש דור ודור׃
15 "Yn lle dy fod yn wrthodedig ac yn atgas, heb neb yn tramwyo trwot, fe'th wnaf yn ogoniant tragwyddol, ac yn llawenydd o oes i oes.
16וינקת חלב גוים ושד מלכים תינקי וידעת כי אני יהוה מושיעך וגאלך אביר יעקב׃
16 Cei sugno llaeth cenhedloedd, a'th fagu ar fronnau brenhinoedd, a chei wybod mai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy achubydd, ac mai Duw cadarn Jacob yw dy waredydd.
17תחת הנחשת אביא זהב ותחת הברזל אביא כסף ותחת העצים נחשת ותחת האבנים ברזל ושמתי פקדתך שלום ונגשיך צדקה׃
17 "Yn lle pres dygaf aur, yn lle haearn dygaf arian, ac yn lle coed, bres, yn lle cerrig, haearn; gwnaf dy lywodraethwyr yn heddychol a'th feistradoedd yn gyfiawn.
18לא ישמע עוד חמס בארצך שד ושבר בגבוליך וקראת ישועה חומתיך ושעריך תהלה׃
18 Ni chlywir mwyach am drais yn dy wlad, nac am ddistryw na dinistr o fewn dy derfynau, ond gelwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a'th byrth yn Foliant.
19לא יהיה לך עוד השמש לאור יומם ולנגה הירח לא יאיר לך והיה לך יהוה לאור עולם ואלהיך לתפארתך׃
19 "Nid yr haul fydd mwyach yn goleuo i ti yn y dydd, ac nid y lleuad fydd yn llewyrchu i ti yn y nos; ond yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di�baid i ti, a'th Dduw fydd yn ddisgleirdeb i ti.
20לא יבוא עוד שמשך וירחך לא יאסף כי יהוה יהיה לך לאור עולם ושלמו ימי אבלך׃
20 Ni fachluda dy haul mwyach, ac ni phalla dy leuad; oherwydd yr ARGLWYDD fydd yn oleuni di-baid i ti, a daw diwedd ar ddyddiau dy alar.
21ועמך כלם צדיקים לעולם יירשו ארץ נצר מטעו מעשה ידי להתפאר׃
21 Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn, yn gwreiddio yn y tir am byth, yn flaguryn a blennais � fy ngwaith fy hun i'm gogoneddu.
22הקטן יהיה לאלף והצעיר לגוי עצום אני יהוה בעתה אחישנה׃
22 Daw'r lleiaf yn llwyth, a'r ychydig yn genedl gref. Myfi yw'r ARGLWYDD; brysiaf i wneud hyn yn ei amser."