1מי זה בא מאדום חמוץ בגדים מבצרה זה הדור בלבושו צעה ברב כחו אני מדבר בצדקה רב להושיע׃
1 Pwy yw hwn sy'n dod o Edom, yn dod o Bosra, a'i ddillad yn goch; y mae ei wisg yn hardd, a'i gerddediad yn llawn o nerth? "Myfi yw, yn cyhoeddi cyfiawnder, ac yn abl i waredu."
2מדוע אדם ללבושך ובגדיך כדרך בגת׃
2 Pam y mae dy wisg yn goch, a'th ddillad fel un yn sathru mewn gwinwryf?
3פורה דרכתי לבדי ומעמים אין איש אתי ואדרכם באפי וארמסם בחמתי ויז נצחם על בגדי וכל מלבושי אגאלתי׃
3 "B�m yn sathru'r grawnwin fy hunan, ac nid oedd neb o'r bobl gyda mi; sethrais hwy yn fy llid, a'u mathru yn fy nicter. Ymdaenodd eu gwaed dros fy nillad nes cochi fy ngwisgoedd i gyd;
4כי יום נקם בלבי ושנת גאולי באה׃
4 oherwydd 'roedd fy mryd ar ddydd dial, a daeth fy mlwyddyn i waredu.
5ואביט ואין עזר ואשתומם ואין סומך ותושע לי זרעי וחמתי היא סמכתני׃
5 Edrychais, ond nid oedd neb i'm helpu, a synnais nad oedd neb i'm cynnal; fy mraich fy hun a'm gwaredodd, a chynhaliwyd fi gan fy nicter.
6ואבוס עמים באפי ואשכרם בחמתי ואוריד לארץ נצחם׃
6 Sethrais y bobl yn fy llid, a'u meddwi yn fy nicter, a thywallt eu gwaed ar lawr."
7חסדי יהוה אזכיר תהלת יהוה כעל כל אשר גמלנו יהוה ורב טוב לבית ישראל אשר גמלם כרחמיו וכרב חסדיו׃
7 Mynegaf ffyddlondeb yr ARGLWYDD, a chanu ei glodydd am y cyfan a roddodd yr ARGLWYDD i ni, a'i ddaioni mawr i du375? Israel, am y cyfan a roddodd iddynt o'i drugaredd, ac o lawnder ei gariad di-sigl.
8ויאמר אך עמי המה בנים לא ישקרו ויהי להם למושיע׃
8 Fe ddywedodd, "Yn awr, fy mhobl i ydynt, plant nad ydynt yn twyllo", a daeth yn waredydd iddynt yn eu holl gystuddiau.
9בכל צרתם לא צר ומלאך פניו הושיעם באהבתו ובחמלתו הוא גאלם וינטלם וינשאם כל ימי עולם׃
9 Nid cennad nac angel, ond ef ei hun a'u hachubodd; yn ei gariad ac yn ei dosturi y gwaredodd hwy, a'u codi a'u cario drwy'r dyddiau gynt.
10והמה מרו ועצבו את רוח קדשו ויהפך להם לאויב הוא נלחם בם׃
10 Ond buont yn wrthryfelgar, a gofidio'i ysbryd sanctaidd; troes yntau'n elyn iddynt, ac ymladd yn eu herbyn.
11ויזכר ימי עולם משה עמו איה המעלם מים את רעי צאנו איה השם בקרבו את רוח קדשו׃
11 Yna fe gofiwyd am y dyddiau gynt, am Moses a'i bobl. Ple mae'r un a ddygodd allan o'r m�r fugail ei braidd? Ple mae'r un a roes yn eu canol hwy ei ysbryd sanctaidd,
12מוליך לימין משה זרוע תפארתו בוקע מים מפניהם לעשות לו שם עולם׃
12 a pheri i'w fraich ogoneddus arwain deheulaw Moses, a hollti'r dyfroedd o'u blaen, i wneud iddo'i hun enw tragwyddol?
13מוליכם בתהמות כסוס במדבר לא יכשלו׃
13 Arweiniodd hwy trwy'r dyfnderoedd, fel arwain march yn yr anialwch;
14כבהמה בבקעה תרד רוח יהוה תניחנו כן נהגת עמך לעשות לך שם תפארת׃
14 mor sicr eu troed ag ych yn mynd i lawr i'r dyffryn y tywysodd ysbryd yr ARGLWYDD hwy. Felly yr arweiniaist dy bobl, a gwneud iti enw ardderchog.
15הבט משמים וראה מזבל קדשך ותפארתך איה קנאתך וגבורתך המון מעיך ורחמיך אלי התאפקו׃
15 Edrych i lawr o'r nefoedd, o'th annedd sanctaidd, ardderchog, a gw�l. Ple mae dy angerdd a'th nerth, tynerwch dy galon a'th dosturi? Paid ag ymatal rhagom,
16כי אתה אבינו כי אברהם לא ידענו וישראל לא יכירנו אתה יהוה אבינו גאלנו מעולם שמך׃
16 oherwydd ti yw ein tad. Er nad yw Abraham yn ein hadnabod, nac Israel yn ein cydnabod, tydi, yr ARGLWYDD, yw ein tad, Ein Gwaredydd yw dy enw erioed.
17למה תתענו יהוה מדרכיך תקשיח לבנו מיראתך שוב למען עבדיך שבטי נחלתך׃
17 Pam, ARGLWYDD, y gadewaist i ni grwydro oddi ar dy ffyrdd, a chaledu ein calonnau rhag dy ofni? Dychwel, er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth.
18למצער ירשו עם קדשך צרינו בוססו מקדשך׃
18 Pam y sathrodd annuwiolion dy gysegr, ac y sarnodd ein gelynion dy le sanctaidd?
19היינו מעולם לא משלת בם לא נקרא שמך עליהם׃
19 Eiddot ti ydym ni erioed; ond ni fuost yn rheoli drostynt hwy, ac ni alwyd dy enw arnynt.