1שמעו את הדבר אשר דבר יהוה עליכם בית ישראל׃
1 Clywch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych, du375? Israel.
2כה אמר יהוה אל דרך הגוים אל תלמדו ומאתות השמים אל תחתו כי יחתו הגוים מהמה׃
2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Peidiwch � dysgu ffordd y cenhedloedd, na chael eich dychryn gan arwyddion y nefoedd, fel y dychrynir y cenhedloedd ganddynt.
3כי חקות העמים הבל הוא כי עץ מיער כרתו מעשה ידי חרש במעצד׃
3 Y mae arferion y bobloedd fel eilun � pren wedi ei gymynu o'r goedwig, gwaith dwylo saer � bwyell;
4בכסף ובזהב ייפהו במסמרות ובמקבות יחזקום ולוא יפיק׃
4 ac wedi iddynt ei harddu ag arian ac aur, y maent yn ei sicrhau � morthwyl a hoelion, rhag iddo symud.
5כתמר מקשה המה ולא ידברו נשוא ינשוא כי לא יצעדו אל תיראו מהם כי לא ירעו וגם היטיב אין אותם׃
5 Fel bwgan brain mewn gardd cucumerau, ni all eilunod lefaru; rhaid eu cludo am na allant gerdded. Peidiwch �'u hofni; ni allant wneud niwed, na gwneud da chwaith."
6מאין כמוך יהוה גדול אתה וגדול שמך בגבורה׃
6 Nid oes neb fel tydi, ARGLWYDD; mawr wyt, mawr yw dy enw mewn nerth.
7מי לא יראך מלך הגוים כי לך יאתה כי בכל חכמי הגוים ובכל מלכותם מאין כמוך׃
7 Pwy ni'th ofna, Frenin y cenhedloedd? Hyn sy'n gweddu i ti. Canys ymhlith holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd, nid oes neb fel tydi.
8ובאחת יבערו ויכסלו מוסר הבלים עץ הוא׃
8 Y maent bob un yn ddwl ac ynfyd, wedi eu dysgu gan eilunod o bren!
9כסף מרקע מתרשיש יובא וזהב מאופז מעשה חרש וידי צורף תכלת וארגמן לבושם מעשה חכמים כלם׃
9 Dygir arian gyr o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y saer a dwylo'r eurych; a'u gwisg o ddeunydd fioled a phorffor � gwaith crefftwyr ydyw i gyd.
10ויהוה אלהים אמת הוא אלהים חיים ומלך עולם מקצפו תרעש הארץ ולא יכלו גוים זעמו׃
10 Ond yr ARGLWYDD yw'r gwir Dduw; ef yw'r Duw byw a'r brenin tragwyddol; y mae'r ddaear yn crynu rhag ei lid, ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter.
11כדנה תאמרון להום אלהיא די שמיא וארקא לא עבדו יאבדו מארעא ומן תחות שמיא אלה׃
11 Fel hyn y dywedwch wrthynt: "Y duwiau na wnaethant y nefoedd a'r ddaear, fe g�nt eu difa o'r ddaear ac oddi tan y nefoedd."
12עשה ארץ בכחו מכין תבל בחכמתו ובתבונתו נטה שמים׃
12 Gwnaeth ef y ddaear trwy ei nerth, sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, estynnodd y nefoedd trwy ei ddeall.
13לקול תתו המון מים בשמים ויעלה נשאים מקצה ארץ ברקים למטר עשה ויוצא רוח מאצרתיו׃
13 Pan rydd ei lais, daw twrf dyfroedd yn y nefoedd, fe bair godi tarth o eithafoedd y ddaear. Gwna fellt gyda'r glaw, a dwg allan wyntoedd o'i ystordai.
14נבער כל אדם מדעת הביש כל צורף מפסל כי שקר נסכו ולא רוח בם׃
14 Ynfyd yw pob un, a heb wybodaeth. Cywilyddir pob eurych gan ei eilun, canys celwydd yw ei ddelwau tawdd, ac nid oes anadl ynddynt.
15הבל המה מעשה תעתעים בעת פקדתם יאבדו׃
15 Oferedd u375?nt, a gwaith i'w wawdio; yn amser eu cosbi fe'u difethir.
16לא כאלה חלק יעקב כי יוצר הכל הוא וישראל שבט נחלתו יהוה צבאות שמו׃
16 Nid yw Duw Jacob fel y rhain, oherwydd ef yw lluniwr pob peth, ac Israel yw ei lwyth dewisol. ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
17אספי מארץ כנעתך ישבתי במצור׃
17 Casgla dy bwn a dos allan o'r wlad, ti, yr hon sy'n trigo dan warchae.
18כי כה אמר יהוה הנני קולע את יושבי הארץ בפעם הזאת והצרותי להם למען ימצאו׃
18 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Dyma fi'n taflu allan drigolion y wlad y tro hwn; dygaf arnynt gyfyngder, ac fe deimlant hynny."
19אוי לי על שברי נחלה מכתי ואני אמרתי אך זה חלי ואשאנו׃
19 Gwae fi am fy mriw! Y mae fy archoll yn ddwfn, ond dywedais, "Dyma ofid yn wir, a rhaid i mi ei oddef."
20אהלי שדד וכל מיתרי נתקו בני יצאני ואינם אין נטה עוד אהלי ומקים יריעותי׃
20 Drylliwyd fy mhabell, torrwyd fy rhaffau i gyd; aeth fy mhlant oddi wrthyf, nid oes neb ohonynt mwy; nid oes neb a estyn fy mhabell eto, na chodi fy llenni.
21כי נבערו הרעים ואת יהוה לא דרשו על כן לא השכילו וכל מרעיתם נפוצה׃
21 Aeth y bugeiliaid yn ynfyd; nid ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD; am hynny nid ydynt yn llwyddo, ac y mae eu holl braidd ar wasgar.
22קול שמועה הנה באה ורעש גדול מארץ צפון לשום את ערי יהודה שממה מעון תנים׃
22 Clyw! Neges! Wele, y mae'n dod! Cynnwrf mawr o dir y gogledd, i wneud dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch ac yn drigfa bleiddiaid.
23ידעתי יהוה כי לא לאדם דרכו לא לאיש הלך והכין את צעדו׃
23 Gwn, O ARGLWYDD, nad eiddo neb ei ffordd; ni pherthyn i'r teithiwr drefnu ei gamre.
24יסרני יהוה אך במשפט אל באפך פן תמעטני׃
24 Cosba fi, ARGLWYDD, ond mewn barn, nid yn �l dy lid, rhag iti fy niddymu.
25שפך חמתך על הגוים אשר לא ידעוך ועל משפחות אשר בשמך לא קראו כי אכלו את יעקב ואכלהו ויכלהו ואת נוהו השמו׃
25 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd nad ydynt yn dy adnabod, ac ar y teuluoedd nad ydynt yn galw ar dy enw. Canys y maent wedi bwyta Jacob, ei fwyta a'i ddifetha, ac wedi difodi ei drigfan.