Hebrew: Modern

Welsh

Jeremiah

13

1כה אמר יהוה אלי הלוך וקנית לך אזור פשתים ושמתו על מתניך ובמים לא תבאהו׃
1 Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf: "Dos a phryn wregys lliain, a'i roi am dy lwynau; paid �'i ddodi mewn du373?r."
2ואקנה את האזור כדבר יהוה ואשם על מתני׃
2 Prynais wregys ar air yr ARGLWYDD, a'i roi am fy llwynau.
3ויהי דבר יהוה אלי שנית לאמר׃
3 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf eilwaith, a dweud,
4קח את האזור אשר קנית אשר על מתניך וקום לך פרתה וטמנהו שם בנקיק הסלע׃
4 "Cymer y gwregys a brynaist, ac sydd am dy lwynau, a dos i ymyl afon Ewffrates a'i guddio yno mewn hollt yn y graig."
5ואלך ואטמנהו בפרת כאשר צוה יהוה אותי׃
5 Felly euthum a'i guddio wrth ymyl afon Ewffrates, yn �l gorchymyn yr ARGLWYDD i mi.
6ויהי מקץ ימים רבים ויאמר יהוה אלי קום לך פרתה וקח משם את האזור אשר צויתיך לטמנו שם׃
6 Ar �l dyddiau lawer dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Dos i ymyl afon Ewffrates, a chymer oddi yno y gwregys y gorchmynnais iti ei guddio yno."
7ואלך פרתה ואחפר ואקח את האזור מן המקום אשר טמנתיו שמה והנה נשחת האזור לא יצלח לכל׃
7 Euthum innau yno, a chloddio a chymryd y gwregys o'r lle y cuddiais ef; ac wele, yr oedd y gwregys wedi ei ddifetha, ac nid oedd yn dda i ddim.
8ויהי דבר יהוה אלי לאמר׃
8 Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
9כה אמר יהוה ככה אשחית את גאון יהודה ואת גאון ירושלם הרב׃
9 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Felly y difethaf finnau falchder Jwda a balchder mawr Jerwsalem.
10העם הזה הרע המאנים לשמוע את דברי ההלכים בשררות לבם וילכו אחרי אלהים אחרים לעבדם ולהשתחות להם ויהי כאזור הזה אשר לא יצלח לכל׃
10 Fel y gwregys yma, nad yw'n dda i ddim, y bydd y bobl ddrygionus hyn, sy'n gwrthod gwrando ar fy ngeiriau, ond yn rhodio yn ystyfnigrwydd eu calon, ac yn dilyn duwiau eraill i'w gwasanaethu a'u haddoli.
11כי כאשר ידבק האזור אל מתני איש כן הדבקתי אלי את כל בית ישראל ואת כל בית יהודה נאם יהוה להיות לי לעם ולשם ולתהלה ולתפארת ולא שמעו׃
11 Oherwydd fel y gafael gwregys am lwynau rhywun, felly y perais i holl du375? Israel a holl du375? Jwda afael ynof fi," medd yr ARGLWYDD, "i fod yn bobl i mi, ac yn enw, ac yn foliant ac yn ogoniant; ond ni wrandawsant.
12ואמרת אליהם את הדבר הזה כה אמר יהוה אלהי ישראל כל נבל ימלא יין ואמרו אליך הידע לא נדע כי כל נבל ימלא יין׃
12 "Dywed wrthynt y gair yma: 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Llenwir pob costrel � gwin.' A dywedant wrthyt, 'Oni wyddom ni'n iawn y llenwir pob costrel � gwin?'
13ואמרת אליהם כה אמר יהוה הנני ממלא את כל ישבי הארץ הזאת ואת המלכים הישבים לדוד על כסאו ואת הכהנים ואת הנביאים ואת כל ישבי ירושלם שכרון׃
13 Yna dywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Dyma fi'n llenwi'n feddw holl drigolion y tir hwn, yn frenhinoedd sy'n eistedd ar orseddfainc Dafydd, yn offeiriaid ac yn broffwydi, a holl drigolion Jerwsalem.
14ונפצתים איש אל אחיו והאבות והבנים יחדו נאם יהוה לא אחמול ולא אחוס ולא ארחם מהשחיתם׃
14 Drylliaf hwy y naill yn erbyn y llall, rhieni a phlant ynghyd, medd yr ARGLWYDD; nid arbedaf ac ni thosturiaf ac ni thrugarhaf, eithr difethaf hwy.'"
15שמעו והאזינו אל תגבהו כי יהוה דבר׃
15 Clywch a gwrandewch; peidiwch ag ymfalch�o, canys llefarodd yr ARGLWYDD.
16תנו ליהוה אלהיכם כבוד בטרם יחשך ובטרם יתנגפו רגליכם על הרי נשף וקויתם לאור ושמה לצלמות ישית לערפל׃
16 Rhowch ogoniant i'r ARGLWYDD eich Duw cyn iddo beri tywyllwch, a chyn i'ch traed faglu yn y gwyll ar y mynyddoedd; a thra byddwch yn disgwyl am olau, bydd yntau'n ei droi yn dywyllwch dudew, ac yn ei wneud yn nos ddu.
17ואם לא תשמעוה במסתרים תבכה נפשי מפני גוה ודמע תדמע ותרד עיני דמעה כי נשבה עדר יהוה׃
17 Ac os na wrandewch ar hyn, mi wylaf yn y dirgel am eich balchder; fe ffrydia fy llygaid ddagrau chwerw, oherwydd dwyn diadell yr ARGLWYDD i gaethiwed.
18אמר למלך ולגבירה השפילו שבו כי ירד מראשותיכם עטרת תפארתכם׃
18 "Dywed wrth y brenin a'r fam frenhines, 'Eisteddwch yn ostyngedig, oherwydd syrthiodd eich coron anrhydeddus oddi ar eich pen.'
19ערי הנגב סגרו ואין פתח הגלת יהודה כלה הגלת שלומים׃
19 Caeir dinasoedd y Negef, heb neb i'w hagor; caethgludir Jwda gyfan, caethgludir hi yn llwyr."
20שאי עיניכם וראי הבאים מצפון איה העדר נתן לך צאן תפארתך׃
20 Dyrchafwch eich llygaid, a gwelwch y rhai a ddaw o'r gogledd. Ple mae'r praidd a roddwyd i ti, dy ddiadell braf?
21מה תאמרי כי יפקד עליך ואת למדת אתם עליך אלפים לראש הלוא חבלים יאחזוך כמו אשת לדה׃
21 Beth a ddywedi pan roddir y rhai a ddysgaist yn feistri arnat, a'r rhai a fegaist yn ben arnat? Oni chydia ynot ofidiau, fel gwraig wrth esgor?
22וכי תאמרי בלבבך מדוע קראני אלה ברב עונך נגלו שוליך נחמסו עקביך׃
22 A phan feddyli, "Pam y digwyddodd hyn i mi?", yn �l amlder dy gamwedd y codwyd godre dy wisg, ac y dinoethwyd dy gorff.
23היהפך כושי עורו ונמר חברברתיו גם אתם תוכלו להיטיב למדי הרע׃
23 A newidia'r Ethiopiad ei groen, neu'r llewpard ei frychni? A allwch chwithau wneud daioni, chwi a fagwyd mewn drygioni?
24ואפיצם כקש עובר לרוח מדבר׃
24 "Fe'u chwalaf hwy fel us a chwythir gan wynt y diffeithwch.
25זה גורלך מנת מדיך מאתי נאם יהוה אשר שכחת אותי ותבטחי בשקר׃
25 Hyn fydd dy ran, yr hyn a fesurais i ti," medd yr ARGLWYDD, "am i ti fy anghofio, ac ymddiried mewn celwydd.
26וגם אני חשפתי שוליך על פניך ונראה קלונך׃
26 Mi godaf odre dy wisg dros dy wyneb, ac amlygir dy warth.
27נאפיך ומצהלותיך זמת זנותך על גבעות בשדה ראיתי שקוציך אוי לך ירושלם לא תטהרי אחרי מתי עד׃
27 Gwelais dy anlladrwydd, dy odineb, dy weryriad nwydus, a budreddi dy buteindra ar fryn a maes. Gwae di, Jerwsalem! Ni fyddi'n l�n! Pa hyd, eto, y pery hyn?"