Hebrew: Modern

Welsh

Jeremiah

16

1ויהי דבר יהוה אלי לאמר׃
1 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf:
2לא תקח לך אשה ולא יהיו לך בנים ובנות במקום הזה׃
2 "Paid � chymryd iti wraig; na fydded i ti feibion na merched yn y lle hwn.
3כי כה אמר יהוה על הבנים ועל הבנות הילודים במקום הזה ועל אמתם הילדות אותם ועל אבותם המולדים אותם בארץ הזאת׃
3 Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y bechgyn a'r genethod a enir yn y lle hwn, ac am y mamau a'u dwg hwy a'r hynafiaid a'u cenhedla yn y wlad hon:
4ממותי תחלאים ימתו לא יספדו ולא יקברו לדמן על פני האדמה יהיו ובחרב וברעב יכלו והיתה נבלתם למאכל לעוף השמים ולבהמת הארץ׃
4 'Byddant farw o angau dychrynllyd. Ni fydd galaru ar eu h�l ac ni chleddir hwy; byddant fel tail ar wyneb y tir. Fe'u lleddir gan gleddyf a newyn, a bydd eu celanedd yn ymborth i adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt.'
5כי כה אמר יהוה אל תבוא בית מרזח ואל תלך לספוד ואל תנד להם כי אספתי את שלומי מאת העם הזה נאם יהוה את החסד ואת הרחמים׃
5 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Paid � mynd i du375? galar, na mynd i alaru na chydymdeimlo, oherwydd cymerais ymaith fy heddwch oddi wrth y bobl hyn,' medd yr ARGLWYDD, 'a hefyd fy nghariad a'm tosturi.
6ומתו גדלים וקטנים בארץ הזאת לא יקברו ולא יספדו להם ולא יתגדד ולא יקרח להם׃
6 Byddant farw, yn fawr a bach, yn y wlad hon; ni chleddir mohonynt ac ni alerir amdanynt; ni fyddant yn anafu eu cyrff nac yn eillio'u pennau o'u plegid.
7ולא יפרסו להם על אבל לנחמו על מת ולא ישקו אותם כוס תנחומים על אביו ועל אמו׃
7 Ni rennir bara galar i roi cysur iddynt am y marw, ac nid estynnir cwpan cysur am na thad na mam.
8ובית משתה לא תבוא לשבת אותם לאכל ולשתות׃
8 Ac nid ei di i du375? gwledd, i eistedd gyda hwy i fwyta ac yfed.'
9כי כה אמר יהוה צבאות אלהי ישראל הנני משבית מן המקום הזה לעיניכם ובימיכם קול ששון וקול שמחה קול חתן וקול כלה׃
9 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Yn y lle hwn, o flaen eich llygaid ac yn eich dyddiau, rwyf yn rhoi taw ar seiniau llawenydd a hapusrwydd, ar lais priodfab a phriodferch.'
10והיה כי תגיד לעם הזה את כל הדברים האלה ואמרו אליך על מה דבר יהוה עלינו את כל הרעה הגדולה הזאת ומה עוננו ומה חטאתנו אשר חטאנו ליהוה אלהינו׃
10 "Pan fynegi'r holl eiriau hyn i'r bobl, dywedant wrthyt, 'Pam y llefarodd yr ARGLWYDD yr holl ddrwg mawr hwn yn ein herbyn? Beth yw ein trosedd? Pa bechod a wnaethom yn erbyn yr ARGLWYDD ein Duw?'
11ואמרת אליהם על אשר עזבו אבותיכם אותי נאם יהוה וילכו אחרי אלהים אחרים ויעבדום וישתחוו להם ואתי עזבו ואת תורתי לא שמרו׃
11 Dywed dithau wrthynt, 'Oherwydd i'ch hynafiaid fy ngadael i,' medd yr ARGLWYDD, 'a rhodio ar �l duwiau eraill, a'u gwasanaethu a'u haddoli, a'm gwrthod i, heb gadw fy nghyfraith.
12ואתם הרעתם לעשות מאבותיכם והנכם הלכים איש אחרי שררות לבו הרע לבלתי שמע אלי׃
12 A gwnaethoch chwi yn waeth na'ch hynafiaid, gan rodio bob un yn �l ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus, heb wrando arnaf fi.
13והטלתי אתכם מעל הארץ הזאת על הארץ אשר לא ידעתם אתם ואבותיכם ועבדתם שם את אלהים אחרים יומם ולילה אשר לא אתן לכם חנינה׃
13 Am hynny, fe'ch hyrddiaf chwi allan o'r wlad hon i wlad nad adwaenoch chwi na'ch hynafiaid; yno gwasanaethwch dduwiau eraill, ddydd a nos, oherwydd ni wnaf unrhyw ffafr � chwi.'
14לכן הנה ימים באים נאם יהוה ולא יאמר עוד חי יהוה אשר העלה את בני ישראל מארץ מצרים׃
14 "Am hynny, y mae'r dyddiau ar ddod," medd yr ARGLWYDD, "pryd na ddywedir mwyach, 'Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft',
15כי אם חי יהוה אשר העלה את בני ישראל מארץ צפון ומכל הארצות אשר הדיחם שמה והשבתים על אדמתם אשר נתתי לאבותם׃
15 ond, 'Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, o'r holl wledydd lle gyrrodd hwy.' Ac fe'u dychwelaf i'w gwlad, y wlad a roddais i'w hynafiaid.
16הנני שלח לדוגים רבים נאם יהוה ודיגום ואחרי כן אשלח לרבים צידים וצדום מעל כל הר ומעל כל גבעה ומנקיקי הסלעים׃
16 "Yr wyf yn anfon am bysgotwyr lawer," medd yr ARGLWYDD, "ac fe'u daliant. Wedi hynny anfonaf am helwyr lawer, ac fe'u heliant oddi ar bob mynydd a phob bryn, ac o holltau'r creigiau.
17כי עיני על כל דרכיהם לא נסתרו מלפני ולא נצפן עונם מנגד עיני׃
17 Oherwydd y mae fy llygaid ar eu holl ffyrdd hwy; ni chuddiwyd hwy o'm gu373?ydd, ac nid yw eu drygioni wedi ei gelu o'm golwg.
18ושלמתי ראשונה משנה עונם וחטאתם על חללם את ארצי בנבלת שקוציהם ותועבותיהם מלאו את נחלתי׃
18 Yn gyntaf, mi dalaf yn ddwbl am eu drygioni a'u pechod, am iddynt halogi fy nhir � chelanedd eu duwiau ffiaidd; llanwodd eu ffieidd-dra fy etifeddiaeth."
19יהוה עזי ומעזי ומנוסי ביום צרה אליך גוים יבאו מאפסי ארץ ויאמרו אך שקר נחלו אבותינו הבל ואין בם מועיל׃
19 O ARGLWYDD, fy nerth a'm cadernid, fy noddfa mewn dydd o flinder, atat ti y daw'r cenhedloedd, o gyrion pellaf byd, a dweud, "Diau i'n hynafiaid etifeddu celwydd, oferedd, a phethau di-les.
20היעשה לו אדם אלהים והמה לא אלהים׃
20 A wna rhywun dduw iddo'i hun? Nid yw'r rhain yn dduwiau."
21לכן הנני מודיעם בפעם הזאת אודיעם את ידי ואת גבורתי וידעו כי שמי יהוה׃
21 "Am hynny, wele, paraf iddynt wybod; y waith hon mi ddangosaf iddynt fy nerth a'm grym. A deallant mai'r ARGLWYDD yw fy enw.