Hebrew: Modern

Welsh

Jeremiah

18

1הדבר אשר היה אל ירמיהו מאת יהוה לאמר׃
1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:
2קום וירדת בית היוצר ושמה אשמיעך את דברי׃
2 "Cod a dos i lawr i du375?'r crochenydd; yno y paraf i ti glywed fy ngeiriau."
3וארד בית היוצר והנהו עשה מלאכה על האבנים׃
3 Euthum i lawr i du375?'r crochenydd, a'i gael yn gweithio ar y droell.
4ונשחת הכלי אשר הוא עשה בחמר ביד היוצר ושב ויעשהו כלי אחר כאשר ישר בעיני היוצר לעשות׃
4 A difwynwyd yn llaw'r crochenydd y llestr pridd yr oedd yn ei lunio, a gwnaeth ef yr eildro yn llestr gwahanol, fel y gwelai'n dda.
5ויהי דבר יהוה אלי לאמור׃
5 Yna daeth gair yr ARGLWYDD ataf,
6הכיוצר הזה לא אוכל לעשות לכם בית ישראל נאם יהוה הנה כחמר ביד היוצר כן אתם בידי בית ישראל׃
6 "Oni allaf fi eich trafod chwi, tu375? Israel, fel y mae'r crochenydd hwn yn ei wneud �'r clai?" medd yr ARGLWYDD. "Fel clai yn llaw'r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, tu375? Israel.
7רגע אדבר על גוי ועל ממלכה לנתוש ולנתוץ ולהאביד׃
7 Ar unrhyw funud gallaf benderfynu diwreiddio a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu deyrnas.
8ושב הגוי ההוא מרעתו אשר דברתי עליו ונחמתי על הרעה אשר חשבתי לעשות לו׃
8 Ac os bydd y genedl honno y lleferais yn ei herbyn yn troi oddi wrth ei drygioni, gallaf ailfeddwl am y drwg a fwriedais iddi.
9ורגע אדבר על גוי ועל ממלכה לבנת ולנטע׃
9 Ar unrhyw funud gallaf benderfynu adeiladu a phlannu cenedl neu deyrnas,
10ועשה הרעה בעיני לבלתי שמע בקולי ונחמתי על הטובה אשר אמרתי להיטיב אותו׃
10 ond os gwna'r genedl honno ddrygioni yn fy ngolwg, a gwrthod gwrando arnaf, gallaf ailfeddwl am y da a addewais iddi.
11ועתה אמר נא אל איש יהודה ועל יושבי ירושלם לאמר כה אמר יהוה הנה אנכי יוצר עליכם רעה וחשב עליכם מחשבה שובו נא איש מדרכו הרעה והיטיבו דרכיכם ומעלליכם׃
11 Yn awr dywed wrth bobl Jwda ac wrth breswylwyr Jerwsalem, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Wele fi'n llunio drwg yn eich erbyn, ac yn cynllunio yn eich erbyn. Dychwelwch, yn wir, bob un o'i ffordd ddrwg, a gwella'ch ffyrdd a'ch gweithredoedd.'
12ואמרו נואש כי אחרי מחשבותינו נלך ואיש שררות לבו הרע נעשה׃
12 Ond dywedant hwy, 'Y mae pethau wedi mynd yn rhy bell. Dilynwn ein bwriadau ein hunain, a gweithredwn bob un yn �l ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus.'"
13לכן כה אמר יהוה שאלו נא בגוים מי שמע כאלה שעררת עשתה מאד בתולת ישראל׃
13 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Ymofynnwch ymhlith y cenhedloedd, pwy a glywodd ddim tebyg i hyn. Gwnaeth y forwyn Israel beth erchyll iawn.
14היעזב מצור שדי שלג לבנון אם ינתשו מים זרים קרים נוזלים׃
14 A gilia eira Lebanon oddi ar greigiau'r llethrau? A sychir dyfroedd yr ucheldir, sy'n ffrydiau oerion?
15כי שכחני עמי לשוא יקטרו ויכשלום בדרכיהם שבילי עולם ללכת נתיבות דרך לא סלולה׃
15 Ond mae fy mhobl wedi f'anghofio, ac wedi arogldarthu i dduwiau gau a barodd iddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, yr hen rodfeydd, a cherdded llwybrau mewn ffyrdd heb eu trin.
16לשום ארצם לשמה שרוקת עולם כל עובר עליה ישם ויניד בראשו׃
16 Gwnaethant eu tir yn anghyfannedd, i rai chwibanu drosto hyd byth; bydd pob un sy'n mynd heibio iddo yn synnu, ac yn ysgwyd ei ben.
17כרוח קדים אפיצם לפני אויב ערף ולא פנים אראם ביום אידם׃
17 Fel gwynt y dwyrain y chwalaf hwy o flaen y gelyn; yn nydd eu trychineb dangosaf iddynt fy ngwegil, nid fy wyneb."
18ויאמרו לכו ונחשבה על ירמיהו מחשבות כי לא תאבד תורה מכהן ועצה מחכם ודבר מנביא לכו ונכהו בלשון ואל נקשיבה אל כל דבריו׃
18 A dywedodd y bobl, "Dewch, gwnawn gynllwyn yn erbyn Jeremeia; ni chiliodd cyfarwyddyd oddi wrth yr offeiriad, na chyngor oddi wrth y doeth, na gair oddi wrth y proffwyd; dewch, gadewch inni ei faeddu �'r tafod, a pheidio ag ystyried yr un o'i eiriau."
19הקשיבה יהוה אלי ושמע לקול יריבי׃
19 Ystyria fi, O ARGLWYDD, a chlyw beth y mae f'achwynwyr yn ei ddweud.
20הישלם תחת טובה רעה כי כרו שוחה לנפשי זכר עמדי לפניך לדבר עליהם טובה להשיב את חמתך מהם׃
20 A ad-delir drwg am dda? Cloddiasant bwll ar fy nghyfer. Cofia imi sefyll o'th flaen, i lefaru'n dda amdanynt ac i droi ymaith dy ddig oddi wrthynt.
21לכן תן את בניהם לרעב והגרם על ידי חרב ותהינה נשיהם שכלות ואלמנות ואנשיהם יהיו הרגי מות בחוריהם מכי חרב במלחמה׃
21 Am hynny rho'u plant i'r newyn, lladder hwy trwy rym y cleddyf; bydded eu gwragedd yn weddwon di-blant, a'u gwu375?r yn farw gelain, a'u gwu375?r ifainc wedi eu taro �'r cleddyf mewn rhyfel.
22תשמע זעקה מבתיהם כי תביא עליהם גדוד פתאם כי כרו שיחה ללכדני ופחים טמנו לרגלי׃
22 Bydded i waedd godi o'u tai, am i'r ysbeiliwr ddod yn ddisymwth ar eu gwarthaf; canys cloddiasant bwll i'm dal, a chuddio maglau i'm traed.
23ואתה יהוה ידעת את כל עצתם עלי למות אל תכפר על עונם וחטאתם מלפניך אל תמחי והיו מכשלים לפניך בעת אפך עשה בהם׃
23 Ond yr wyt ti, O ARGLWYDD, yn gwybod am eu holl gynllwyn yn f'erbyn, i'm lladd. Paid � maddau iddynt eu camwedd, na dileu eu pechod o'th u373?ydd. Bydded iddynt faglu o'th flaen; delia � hwy yn awr dy ddigofaint.