Hebrew: Modern

Welsh

Jeremiah

23

1הוי רעים מאבדים ומפצים את צאן מרעיתי נאם יהוה׃
1 Gwae chwi fugeiliaid, sydd yn gwasgaru defaid fy mhorfa ac yn eu harwain ar grwydr," medd yr ARGLWYDD.
2לכן כה אמר יהוה אלהי ישראל על הרעים הרעים את עמי אתם הפצתם את צאני ותדחום ולא פקדתם אתם הנני פקד עליכם את רע מעלליכם נאם יהוה׃
2 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, am y bugeiliaid sy'n bugeilio fy mhobl: "Gwasgarasoch fy mhraidd, a'u hymlid ymaith, heb wylio drostynt; ond yr wyf fi am ymweld � chwi am eich gwaith drygionus," medd yr ARGLWYDD.
3ואני אקבץ את שארית צאני מכל הארצות אשר הדחתי אתם שם והשבתי אתהן על נוהן ופרו ורבו׃
3 "Yr wyf fi am gasglu ynghyd weddill fy mhraidd o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, a'u dwyn drachefn i'w corlan; ac fe amlh�nt yn ffrwythlon.
4והקמתי עליהם רעים ורעום ולא ייראו עוד ולא יחתו ולא יפקדו נאם יהוה׃
4 Gosodaf arnynt fugeiliaid a'u bugeilia, ac nid ofnant mwyach, na chael braw; ac ni chosbir hwy," medd yr ARGLWYDD.
5הנה ימים באים נאם יהוה והקמתי לדוד צמח צדיק ומלך מלך והשכיל ועשה משפט וצדקה בארץ׃
5 "Wele'r dyddiau yn dod," medd yr ARGLWYDD, "y cyfodaf i Ddafydd Flaguryn cyfiawn, brenin a fydd yn llywodraethu'n ddoeth, yn gwneud barn a chyfiawnder yn y tir.
6בימיו תושע יהודה וישראל ישכן לבטח וזה שמו אשר יקראו יהוה צדקנו׃
6 Yn ei ddyddiau ef fe achubir Jwda ac fe drig Israel mewn diogelwch; dyma'r enw a roddir iddo: 'Yr ARGLWYDD ein Cyfiawnder.'
7לכן הנה ימים באים נאם יהוה ולא יאמרו עוד חי יהוה אשר העלה את בני ישראל מארץ מצרים׃
7 "Am hynny, wele'r dyddiau'n dod," medd yr ARGLWYDD, "pryd na ddywed neb mwyach, 'Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft',
8כי אם חי יהוה אשר העלה ואשר הביא את זרע בית ישראל מארץ צפונה ומכל הארצות אשר הדחתים שם וישבו על אדמתם׃
8 ond, 'Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, a'u tywys o'r holl wledydd lle y gyrrais hwy, i drigo eto yn eu gwlad eu hunain.'"
9לנבאים נשבר לבי בקרבי רחפו כל עצמותי הייתי כאיש שכור וכגבר עברו יין מפני יהוה ומפני דברי קדשו׃
9 Am y proffwydi: Torrodd fy nghalon, y mae fy esgyrn i gyd yn crynu; yr wyf fel dyn mewn diod, gu373?r wedi ei orchfygu gan win, oherwydd yr ARGLWYDD ac oherwydd ei eiriau sanctaidd.
10כי מנאפים מלאה הארץ כי מפני אלה אבלה הארץ יבשו נאות מדבר ותהי מרוצתם רעה וגבורתם לא כן׃
10 Y mae'r tir yn llawn o odinebwyr, ac o'u herwydd hwy y mae'r wlad wedi ei deifio, y mae porfeydd yr anialwch wedi crino; y mae eu hynt yn ddrwg a'u cadernid yn ddim.
11כי גם נביא גם כהן חנפו גם בביתי מצאתי רעתם נאם יהוה׃
11 "Aeth proffwyd ac offeiriad yn annuwiol; o fewn fy nhu375? y cefais eu drygioni," medd yr ARGLWYDD.
12לכן יהיה דרכם להם כחלקלקות באפלה ידחו ונפלו בה כי אביא עליהם רעה שנת פקדתם נאם יהוה׃
12 "Am hynny bydd eu ffyrdd fel mannau llithrig; gyrrir hwy i'r tywyllwch, a byddant yn syrthio yno. Canys dygaf ddrygioni arnynt ym mlwyddyn eu cosbi," medd yr ARGLWYDD.
13ובנביאי שמרון ראיתי תפלה הנבאו בבעל ויתעו את עמי את ישראל׃
13 "Ymhlith proffwydi Samaria gwelais beth anweddus: y maent yn proffwydo yn enw Baal, ac yn hudo fy mhobl Israel ar gyfeiliorn.
14ובנבאי ירושלם ראיתי שערורה נאוף והלך בשקר וחזקו ידי מרעים לבלתי שבו איש מרעתו היו לי כלם כסדם וישביה כעמרה׃
14 Ymhlith proffwydi Jerwsalem gwelais beth erchyll: godinebu a rhodio mewn anwiredd; y maent yn cynnal breichiau'r rhai drygionus, fel na thry neb oddi wrth ei ddrygioni. I mi aethant oll fel Sodom, a'u trigolion fel Gomorra."
15לכן כה אמר יהוה צבאות על הנבאים הנני מאכיל אותם לענה והשקתים מי ראש כי מאת נביאי ירושלם יצאה חנפה לכל הארץ׃
15 Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, am y proffwydi: "Wele, rhof wermod yn fwyd iddynt, a du373?r bustl yn ddiod, canys o blith proffwydi Jerwsalem aeth annuwioldeb allan trwy'r holl dir."
16כה אמר יהוה צבאות אל תשמעו על דברי הנבאים הנבאים לכם מהבלים המה אתכם חזון לבם ידברו לא מפי יהוה׃
16 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Peidiwch � gwrando ar eiriau'r proffwydi sy'n proffwydo i chwi, gan addo i chwi bethau ffals; y maent yn llefaru gweledigaeth o'u dychymyg eu hunain, ac nid o enau yr ARGLWYDD.
17אמרים אמור למנאצי דבר יהוה שלום יהיה לכם וכל הלך בשררות לבו אמרו לא תבוא עליכם רעה׃
17 Parh�nt i ddweud wrth y rhai sy'n dirmygu gair yr ARGLWYDD, 'Heddwch fo i chwi'; ac wrth bob un sy'n rhodio yn �l ystyfnigrwydd ei galon dywedant, 'Ni ddaw arnoch niwed.'
18כי מי עמד בסוד יהוה וירא וישמע את דברו מי הקשיב דברי וישמע׃
18 "Pwy a safodd yng nghyngor yr ARGLWYDD, a gweld a chlywed ei air? Pwy a ddaliodd ar ei air, a'i wrando?
19הנה סערת יהוה חמה יצאה וסער מתחולל על ראש רשעים יחול׃
19 Wele gorwynt yr ARGLWYDD yn mynd allan yn ffyrnig, gan chwyrl�o fel tymestl, a throelli uwchben yr annuwiol.
20לא ישוב אף יהוה עד עשתו ועד הקימו מזמות לבו באחרית הימים תתבוננו בה בינה׃
20 Ni phaid digofaint yr ARGLWYDD nes iddo gwblhau ei fwriadau a'u cyflawni. Yn y dyddiau diwethaf y deallwch hyn yn eglur.
21לא שלחתי את הנבאים והם רצו לא דברתי אליהם והם נבאו׃
21 Nid anfonais y proffwydi, ond eto fe redant; ni leferais wrthynt, ond eto fe broffwydant.
22ואם עמדו בסודי וישמעו דברי את עמי וישבום מדרכם הרע ומרע מעלליהם׃
22 Pe baent wedi sefyll yn fy nghyngor, byddent wedi peri i'm pobl wrando ar fy ngeiriau, a'u troi o'u ffyrdd drygionus ac o'u gweithredoedd drwg.
23האלהי מקרב אני נאם יהוה ולא אלהי מרחק׃
23 "Onid Duw agos wyf fi," medd yr ARGLWYDD, "ac nid Duw pell?
24אם יסתר איש במסתרים ואני לא אראנו נאם יהוה הלוא את השמים ואת הארץ אני מלא נאם יהוה׃
24 A all unrhyw un lechu yn y dirgel fel na welaf mohono?" medd yr ARGLWYDD. "Onid wyf yn llenwi'r nefoedd a'r ddaear?" medd yr ARGLWYDD.
25שמעתי את אשר אמרו הנבאים הנבאים בשמי שקר לאמר חלמתי חלמתי׃
25 "Clywais yr hyn a ddywedodd y proffwydi sy'n proffwydo celwydd yn fy enw gan ddweud, 'Breuddwydiais, breuddwydiais!'
26עד מתי היש בלב הנבאים נבאי השקר ונביאי תרמת לבם׃
26 Pa hyd yr erys ym mwriad y proffwydi broffwydo celwydd � proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain?
27החשבים להשכיח את עמי שמי בחלומתם אשר יספרו איש לרעהו כאשר שכחו אבותם את שמי בבעל׃
27 Bwriadant beri i'm pobl anghofio fy enw trwy adrodd eu breuddwydion y naill wrth y llall, fel y bu i'w hynafiaid anghofio fy enw o achos Baal.
28הנביא אשר אתו חלום יספר חלום ואשר דברי אתו ידבר דברי אמת מה לתבן את הבר נאם יהוה׃
28 Y proffwyd sydd � breuddwyd ganddo, myneged ei freuddwyd, a'r hwn sydd �'m gair i ganddo, llefared fy ngair yn ffyddlon. Beth sy'n gyffredin rhwng gwellt a gwenith?" medd yr ARGLWYDD.
29הלוא כה דברי כאש נאם יהוה וכפטיש יפצץ סלע׃
29 "Onid yw fy ngair fel t�n," medd yr ARGLWYDD, "ac fel gordd sy'n dryllio'r graig?
30לכן הנני על הנבאים נאם יהוה מגנבי דברי איש מאת רעהו׃
30 Am hynny, wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n lladrata fy ngeiriau oddi ar ei gilydd," medd yr ARGLWYDD.
31הנני על הנביאם נאם יהוה הלקחים לשונם וינאמו נאם׃
31 "Wele fi yn erbyn y proffwydi sy'n llunio geiriau ac yn eu cyhoeddi fel oracl," medd yr ARGLWYDD.
32הנני על נבאי חלמות שקר נאם יהוה ויספרום ויתעו את עמי בשקריהם ובפחזותם ואנכי לא שלחתים ולא צויתים והועיל לא יועילו לעם הזה נאם יהוה׃
32 "Wele fi yn erbyn y rhai sy'n proffwydo breuddwydion gau, yn eu hadrodd, ac yn hudo fy mhobl �'u hanwiredd a'u gwagedd," medd yr ARGLWYDD. "Nid anfonais i mohonynt, na rhoi gorchymyn iddynt; ni wn�nt ddim lles i'r bobl hyn," medd yr ARGLWYDD.
33וכי ישאלך העם הזה או הנביא או כהן לאמר מה משא יהוה ואמרת אליהם את מה משא ונטשתי אתכם נאם יהוה׃
33 "Pan ofynnir iti gan y bobl hyn, neu gan broffwyd neu offeiriad, 'Beth yw baich yr ARGLWYDD?' dywedi wrthynt, 'Chwi yw'r baich; ac fe'ch bwriaf ymaith, medd yr ARGLWYDD.'
34והנביא והכהן והעם אשר יאמר משא יהוה ופקדתי על האיש ההוא ועל ביתו׃
34 Os dywed proffwyd neu offeiriad neu'r bobl, 'Baich yr ARGLWYDD', mi gosbaf hwnnw a'i du375?.
35כה תאמרו איש על רעהו ואיש אל אחיו מה ענה יהוה ומה דבר יהוה׃
35 Fel hyn y bydd pob un ohonoch yn dweud wrth siarad ymhlith eich gilydd: 'Beth a etyb yr ARGLWYDD?' neu, 'Beth a lefara'r ARGLWYDD?'
36ומשא יהוה לא תזכרו עוד כי המשא יהיה לאיש דברו והפכתם את דברי אלהים חיים יהוה צבאות אלהינו׃
36 Ond ni fyddwch yn s�n eto am 'faich yr ARGLWYDD', oherwydd daeth 'baich' i olygu eich gair chwi eich hunain; yr ydych wedi gwyrdroi geiriau'r Duw byw, ARGLWYDD y Lluoedd, ein Duw ni.
37כה תאמר אל הנביא מה ענך יהוה ומה דבר יהוה׃
37 Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd hwnnw: 'Pa ateb a roes yr ARGLWYDD iti?', neu, 'Beth a lefarodd wrthyt?'
38ואם משא יהוה תאמרו לכן כה אמר יהוה יען אמרכם את הדבר הזה משא יהוה ואשלח אליכם לאמר לא תאמרו משא יהוה׃
38 Ac os dywedwch, 'Baich yr ARGLWYDD', yna, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Am i chwi ddefnyddio'r gair hwn, 'Baich yr ARGLWYDD', er i mi anfon atoch a dweud, 'Peidiwch � defnyddio "Baich yr ARGLWYDD",'
39לכן הנני ונשיתי אתכם נשא ונטשתי אתכם ואת העיר אשר נתתי לכם ולאבותיכם מעל פני׃
39 fe'ch codaf chwi fel baich a'ch taflu o'm gu373?ydd, chwi a'r ddinas a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid.
40ונתתי עליכם חרפת עולם וכלמות עולם אשר לא תשכח׃
40 Rhof arnoch warth tragwyddol a gwaradwydd tragwyddol nas anghofir."