1הדבר אשר היה על ירמיהו על כל עם יהודה בשנה הרבעית ליהויקים בן יאשיהו מלך יהודה היא השנה הראשנית לנבוכדראצר מלך בבל׃
1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda ym mhedwaredd flwyddyn Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, a blwyddyn gyntaf Nebuchadnesar brenin Babilon.
2אשר דבר ירמיהו הנביא על כל עם יהודה ואל כל ישבי ירושלם לאמר׃
2 Llefarodd Jeremeia y proffwyd wrth holl bobl Jwda a holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddweud,
3מן שלש עשרה שנה ליאשיהו בן אמון מלך יהודה ועד היום הזה זה שלש ועשרים שנה היה דבר יהוה אלי ואדבר אליכם אשכים ודבר ולא שמעתם׃
3 "o'r drydedd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Joseia fab Amon, brenin Jwda, hyd heddiw, hynny yw, tair blynedd ar hugain, daeth gair yr ARGLWYDD ataf a lleferais wrthych yn gyson, ond ni wrandawsoch.
4ושלח יהוה אליכם את כל עבדיו הנבאים השכם ושלח ולא שמעתם ולא הטיתם את אזנכם לשמע׃
4 Anfonodd yr ARGLWYDD ei holl weision y proffwydi atoch yn gyson; ond ni wrandawsoch, na gogwyddo clust i wrando,
5לאמר שובו נא איש מדרכו הרעה ומרע מעלליכם ושבו על האדמה אשר נתן יהוה לכם ולאבותיכם למן עולם ועד עולם׃
5 pan ddywedwyd, 'Dychwelwch, yn awr, bob un o'i ffordd annuwiol, ac o'ch gweithredoedd drwg, a thrigwch yn y tir a roes yr ARGLWYDD i chwi ac i'ch hynafiaid byth ac yn dragywydd.
6ואל תלכו אחרי אלהים אחרים לעבדם ולהשתחות להם ולא תכעיסו אותי במעשה ידיכם ולא ארע לכם׃
6 Peidiwch � mynd ar �l duwiau eraill, i'w gwasanaethu a'u haddoli, a pheidiwch �'m digio � gwaith eich dwylo; yna ni wnaf niwed i chwi.'
7ולא שמעתם אלי נאם יהוה למען הכעסוני במעשה ידיכם לרע לכם׃
7 Ond ni wrandawsoch arnaf," medd yr ARGLWYDD, "ond fy nigio � gwaith eich dwylo, er niwed i chwi.
8לכן כה אמר יהוה צבאות יען אשר לא שמעתם את דברי׃
8 "Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: 'Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau,
9הנני שלח ולקחתי את כל משפחות צפון נאם יהוה ואל נבוכדראצר מלך בבל עבדי והבאתים על הארץ הזאת ועל ישביה ועל כל הגוים האלה סביב והחרמתים ושמתים לשמה ולשרקה ולחרבות עולם׃
9 yr wyf yn anfon am holl lwythau'r gogledd,' medd yr ARGLWYDD, 'ac am Nebuchadnesar brenin Babilon, fy ngwas, a'u dwyn yn erbyn y wlad hon a'i phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; a difrodaf hwy a'u gosod yn ddychryn ac yn syndod ac yn anghyfanedd-dra hyd byth.
10והאבדתי מהם קול ששון וקול שמחה קול חתן וקול כלה קול רחים ואור נר׃
10 Ataliaf o'u plith bob sain hyfryd a llawen, sain priodfab a phriodferch, sain meini melin yn malu, a golau llusern.
11והיתה כל הארץ הזאת לחרבה לשמה ועבדו הגוים האלה את מלך בבל שבעים שנה׃
11 Bydd yr holl wlad hon yn ddiffaith ac yn ddychryn, a bydd y cenhedloedd hyn yn gwasanaethu brenin Babilon am ddeng mlynedd a thrigain.
12והיה כמלאות שבעים שנה אפקד על מלך בבל ועל הגוי ההוא נאם יהוה את עונם ועל ארץ כשדים ושמתי אתו לשממות עולם׃
12 Ar ddiwedd y deng mlynedd a thrigain hyn cosbaf frenin Babilon a'r genedl honno am eu camwedd,' medd yr ARGLWYDD, 'a chosbaf wlad y Caldeaid, a gwnaf hi yn anghyfannedd hyd byth.
13והבאיתי על הארץ ההיא את כל דברי אשר דברתי עליה את כל הכתוב בספר הזה אשר נבא ירמיהו על כל הגוים׃
13 Dygaf ar y wlad honno yr holl eiriau a leferais yn ei herbyn, a phob peth sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr hwn, pob peth a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd.
14כי עבדו בם גם המה גוים רבים ומלכים גדולים ושלמתי להם כפעלם וכמעשה ידיהם׃
14 Canys fe'u caethiwir hwythau gan genhedloedd cryfion a brenhinoedd mawrion, ac felly y talaf iddynt yn �l eu gweithredoedd a gwaith eu dwylo.'"
15כי כה אמר יהוה אלהי ישראל אלי קח את כוס היין החמה הזאת מידי והשקיתה אתו את כל הגוים אשר אנכי שלח אותך אליהם׃
15 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel, wrthyf: "Cymer y cwpan hwn o win llidiog o'm llaw, a rho ef i'w yfed i'r holl genhedloedd yr anfonaf di atynt.
16ושתו והתגעשו והתהללו מפני החרב אשר אנכי שלח בינתם׃
16 Byddant yn ei yfed, ac yn gwegian, ac yn gwallgofi oherwydd y cleddyf a anfonaf i'w plith."
17ואקח את הכוס מיד יהוה ואשקה את כל הגוים אשר שלחני יהוה אליהם׃
17 Cymerais y cwpan o law yr ARGLWYDD, a diodais yr holl genhedloedd yr anfonodd yr ARGLWYDD fi atynt:
18את ירושלם ואת ערי יהודה ואת מלכיה את שריה לתת אתם לחרבה לשמה לשרקה ולקללה כיום הזה׃
18 Jerwsalem a dinasoedd Jwda, ei brenhinoedd a'i thywysogion, i'w gwneud yn ddiffeithwch, yn ddychryn, yn syndod, ac yn felltith, fel y maent heddiw;
19את פרעה מלך מצרים ואת עבדיו ואת שריו ואת כל עמו׃
19 hefyd Pharo brenin yr Aifft, a'i weision a'i dywysogion a'i holl bobl,
20ואת כל הערב ואת כל מלכי ארץ העוץ ואת כל מלכי ארץ פלשתים ואת אשקלון ואת עזה ואת עקרון ואת שארית אשדוד׃
20 a'u holl estroniaid; holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac Ascalon a Gasa ac Ecron a gweddill Asdod;
21את אדום ואת מואב ואת בני עמון׃
21 Edom a Moab a phobl Ammon;
22ואת כל מלכי צר ואת כל מלכי צידון ואת מלכי האי אשר בעבר הים׃
22 holl frenhinoedd Tyrus a holl frenhinoedd Sidon, a brenhinoedd yr ynysoedd dros y m�r;
23ואת דדן ואת תימא ואת בוז ואת כל קצוצי פאה׃
23 Dedan a Tema a Bus; pawb sydd �'u talcennau'n foel;
24ואת כל מלכי ערב ואת כל מלכי הערב השכנים במדבר׃
24 holl frenhinoedd Arabia, a holl frenhinoedd y llwythau cymysg sy'n trigo yn yr anialwch;
25ואת כל מלכי זמרי ואת כל מלכי עילם ואת כל מלכי מדי׃
25 holl frenhinoedd Simri, a holl frenhinoedd Elam, a holl frenhinoedd Media;
26ואת כל מלכי הצפון הקרבים והרחקים איש אל אחיו ואת כל הממלכות הארץ אשר על פני האדמה ומלך ששך ישתה אחריהם׃
26 holl frenhinoedd y gogledd, yn agos ac ymhell, y naill ar �l y llall, a holl deyrnasoedd byd ar wyneb y ddaear; brenin Sesach a gaiff yfed ar eu h�l hwy.
27ואמרת אליהם כה אמר יהוה צבאות אלהי ישראל שתו ושכרו וקיו ונפלו ולא תקומו מפני החרב אשר אנכי שלח ביניכם׃
27 "Dywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Yfwch, a meddwi a chyfogi, a syrthio heb godi, oherwydd y cleddyf a anfonaf i'ch plith.'
28והיה כי ימאנו לקחת הכוס מידך לשתות ואמרת אליהם כה אמר יהוה צבאות שתו תשתו׃
28 Os gwrthodant gymryd y cwpan o'th law i'w yfed, yna dywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Y mae'n rhaid ei yfed.
29כי הנה בעיר אשר נקרא שמי עליה אנכי מחל להרע ואתם הנקה תנקו לא תנקו כי חרב אני קרא על כל ישבי הארץ נאם יהוה צבאות׃
29 Canys wele, yr wyf yn dechrau niweidio'r ddinas y galwyd fy enw arni; a ddihangwch chwi? Ni ddihangwch; canys yr wyf yn galw am gleddyf yn erbyn holl breswylwyr y wlad, medd ARGLWYDD y Lluoedd.'
30ואתה תנבא אליהם את כל הדברים האלה ואמרת אליהם יהוה ממרום ישאג וממעון קדשו יתן קולו שאג ישאג על נוהו הידד כדרכים יענה אל כל ישבי הארץ׃
30 Proffwydi dithau yn eu herbyn yr holl eiriau hyn a dweud, 'Y mae'r ARGLWYDD yn rhuo o'r uchelder; o'i drigfan sanctaidd fe gyfyd ei lef; rhua'n chwyrn yn erbyn ei drigle; gwaedda, fel gwaedd rhai yn sathru grawnwin, yn erbyn holl breswylwyr y tir.
31בא שאון עד קצה הארץ כי ריב ליהוה בגוים נשפט הוא לכל בשר הרשעים נתנם לחרב נאם יהוה׃
31 Atseinia'r twrf hyd eithafoedd byd, canys bydd Duw'n dwyn achos yn erbyn y cenhedloedd, ac yn mynd i farn yn erbyn pob cnawd, ac yn rhoi'r drygionus i'r cleddyf, medd yr ARGLWYDD.'"
32כה אמר יהוה צבאות הנה רעה יצאת מגוי אל גוי וסער גדול יעור מירכתי ארץ׃
32 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: "Y mae dinistr ar gerdded allan o'r naill genedl i'r llall; cyfyd tymestl fawr o eithafoedd byd.
33והיו חללי יהוה ביום ההוא מקצה הארץ ועד קצה הארץ לא יספדו ולא יאספו ולא יקברו לדמן על פני האדמה יהיו׃
33 Y dydd hwnnw, bydd lladdedigion yr ARGLWYDD yn ymestyn o'r naill gwr i'r ddaear hyd y llall; ni fydd galaru amdanynt, ac nis cesglir na'u claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear."
34הילילו הרעים וזעקו והתפלשו אדירי הצאן כי מלאו ימיכם לטבוח ותפוצותיכם ונפלתם ככלי חמדה׃
34 Udwch, fugeiliaid, gwaeddwch; ymdreiglwch yn y lludw, chwi bendefigion y praidd; canys cyflawnwyd y dyddiau i'ch lladd a'ch gwasgaru, ac fe gwympwch fel llydnod dethol.
35ואבד מנוס מן הרעים ופליטה מאדירי הצאן׃
35 Collir lloches gan y bugeiliaid, a dihangfa gan bendefigion y praidd.
36קול צעקת הרעים ויללת אדירי הצאן כי שדד יהוה את מרעיתם׃
36 Clyw gri'r bugeiliaid, a n�d pendefigion y praidd! Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn difa'u porfa;
37ונדמו נאות השלום מפני חרון אף יהוה׃
37 dryllir corlannau heddychlon gan lid digofaint yr ARGLWYDD.
38עזב ככפיר סכו כי היתה ארצם לשמה מפני חרון היונה ומפני חרון אפו׃
38 Fel llew, gadawodd ei loches; aeth eu tir yn anghyfannedd gan lid gorthrymwr, a llid digofaint yr ARGLWYDD.