Hebrew: Modern

Welsh

Jeremiah

28

1ויהי בשנה ההיא בראשית ממלכת צדקיה מלך יהודה בשנת הרבעית בחדש החמישי אמר אלי חנניה בן עזור הנביא אשר מגבעון בבית יהוה לעיני הכהנים וכל העם לאמר׃
1 Yn yr un flwyddyn, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, sef y bedwaredd flwyddyn a'r pumed mis, llefarodd Hananeia fab Assur, y proffwyd o Gibeon, wrthyf yn nhu375?'r ARGLWYDD, yng ngu373?ydd yr offeiriaid a'r holl bobl, gan ddweud,
2כה אמר יהוה צבאות אלהי ישראל לאמר שברתי את על מלך בבל׃
2 "Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: 'Torraf iau brenin Babilon.
3בעוד שנתים ימים אני משיב אל המקום הזה את כל כלי בית יהוה אשר לקח נבוכדנאצר מלך בבל מן המקום הזה ויביאם בבל׃
3 O fewn dwy flynedd adferaf i'r lle hwn holl lestri tu375?'r ARGLWYDD, a gymerodd Nebuchadnesar brenin Babilon o'r lle hwn a'u dwyn i Fabilon.
4ואת יכניה בן יהויקים מלך יהודה ואת כל גלות יהודה הבאים בבלה אני משיב אל המקום הזה נאם יהוה כי אשבר את על מלך בבל׃
4 Adferaf hefyd i'r lle hwn Jechoneia fab Jehoiacim, brenin Jwda, a holl gaethglud Jwda a aeth i Fabilon,' medd yr ARGLWYDD, 'canys torraf iau brenin Babilon.'"
5ויאמר ירמיה הנביא אל חנניה הנביא לעיני הכהנים ולעיני כל העם העמדים בבית יהוה׃
5 Yna llefarodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, yng ngu373?ydd yr offeiriaid a'r holl bobl a safai yn nhu375?'r ARGLWYDD,
6ויאמר ירמיה הנביא אמן כן יעשה יהוה יקם יהוה את דבריך אשר נבאת להשיב כלי בית יהוה וכל הגולה מבבל אל המקום הזה׃
6 gan ddweud, "Amen, gwnaed yr ARGLWYDD felly; cadarnhaed yr ARGLWYDD y geiriau a broffwydaist, ac adfer o Fabilon i'r lle hwn lestri tu375?'r ARGLWYDD, a'r holl gaethglud.
7אך שמע נא הדבר הזה אשר אנכי דבר באזניך ובאזני כל העם׃
7 Ond gwrando yn awr ar y gair hwn a lefaraf yn dy glyw, ac yng nghlyw'r holl bobl:
8הנביאים אשר היו לפני ולפניך מן העולם וינבאו אל ארצות רבות ועל ממלכות גדלות למלחמה ולרעה ולדבר׃
8 bu'r proffwydi a fu o'm blaen i ac o'th flaen di, o'r amser gynt, yn proffwydo rhyfeloedd a newyn a haint yn erbyn gwledydd lawer a theyrnasoedd mawrion.
9הנביא אשר ינבא לשלום בבא דבר הנביא יודע הנביא אשר שלחו יהוה באמת׃
9 Am y sawl sy'n proffwydo heddwch, gwyddys am y proffwyd hwnnw, mai'r ARGLWYDD yn wir a'i hanfonodd, os daw ei air i ben."
10ויקח חנניה הנביא את המוטה מעל צואר ירמיה הנביא וישברהו׃
10 Yna cymerodd Hananeia y barrau oddi ar war y proffwyd Jeremeia, a'u torri.
11ויאמר חנניה לעיני כל העם לאמר כה אמר יהוה ככה אשבר את על נבכדנאצר מלך בבל בעוד שנתים ימים מעל צואר כל הגוים וילך ירמיה הנביא לדרכו׃
11 Dywedodd Hananeia yng ngu373?ydd yr holl bobl, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Felly, o fewn dwy flynedd, torraf iau Nebuchadnesar brenin Babilon oddi ar war yr holl genhedloedd.'" Yna aeth y proffwyd Jeremeia ymaith.
12ויהי דבר יהוה אל ירמיה אחרי שבור חנניה הנביא את המוטה מעל צואר ירמיה הנביא לאמר׃
12 Wedi i Hananeia y proffwyd dorri'r iau oddi ar war y proffwyd Jeremeia, daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia,
13הלוך ואמרת אל חנניה לאמר כה אמר יהוה מוטת עץ שברת ועשית תחתיהן מטות ברזל׃
13 "Dos, a dywed wrth Hananeia, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Fe dorraist farrau pren; mi wnaf yn eu lle farrau haearn.
14כי כה אמר יהוה צבאות אלהי ישראל על ברזל נתתי על צואר כל הגוים האלה לעבד את נבכדנאצר מלך בבל ועבדהו וגם את חית השדה נתתי לו׃
14 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Rhof iau haearn ar war yr holl genhedloedd hyn, i wasanaethu Nebuchadnesar brenin Babilon, ac fe'i gwasanaethant; a rhof iddo hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt.'"
15ויאמר ירמיה הנביא אל חנניה הנביא שמע נא חנניה לא שלחך יהוה ואתה הבטחת את העם הזה על שקר׃
15 Dywedodd y proffwyd Jeremeia wrth Hananeia y proffwyd, "Clyw yn awr, Hananeia! Nid anfonodd yr ARGLWYDD di; ond peraist i'r bobl hyn ymddiried mewn celwydd.
16לכן כה אמר יהוה הנני משלחך מעל פני האדמה השנה אתה מת כי סרה דברת אל יהוה׃
16 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: 'Yr wyf yn dy yrru di oddi ar wyneb y ddaear; o fewn blwyddyn byddi farw, oherwydd dysgaist wrthryfel yn erbyn yr ARGLWYDD.'"
17וימת חנניה הנביא בשנה ההיא בחדש השביעי׃
17 Bu farw Hananeia y proffwyd y flwyddyn honno, yn y seithfed mis.