1הדבר אשר היה אל ירמיהו מאת יהוה ונבוכדראצר מלך בבל וכל חילו וכל ממלכות ארץ ממשלת ידו וכל העמים נלחמים על ירושלם ועל כל עריה לאמר׃
1 Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD pan oedd Nebuchadnesar brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem a'i holl faestrefi, gyda'i holl lu a holl deyrnasoedd y byd oedd dan ei lywodraeth, a'r holl bobloedd.
2כה אמר יהוה אלהי ישראל הלך ואמרת אל צדקיהו מלך יהודה ואמרת אליו כה אמר יהוה הנני נתן את העיר הזאת ביד מלך בבל ושרפה באש׃
2 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: "Dos a llefara wrth Sedeceia brenin Jwda, a dweud wrtho, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn rhoi'r ddinas hon yng ngafael brenin Babilon, a bydd ef yn ei llosgi � th�n.
3ואתה לא תמלט מידו כי תפש תתפש ובידו תנתן ועיניך את עיני מלך בבל תראינה ופיהו את פיך ידבר ובבל תבוא׃
3 Ac ni ddihengi dithau o'i afael, ond yr wyt yn sicr o gael dy ddal, a'th roi yn ei afael; byddi'n edrych arno lygad yn llygad, ac yntau'n ymddiddan � thi wyneb yn wyneb, a byddi'n mynd i Fabilon.
4אך שמע דבר יהוה צדקיהו מלך יהודה כה אמר יהוה עליך לא תמות בחרב׃
4 Ond clyw air yr ARGLWYDD, Sedeceia brenin Jwda. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD amdanat: Ni fyddi farw drwy'r cleddyf.
5בשלום תמות וכמשרפות אבותיך המלכים הראשנים אשר היו לפניך כן ישרפו לך והוי אדון יספדו לך כי דבר אני דברתי נאם יהוה׃
5 Mewn hedd y byddi farw, ac fel y llosgwyd peraroglau i'th ragflaenwyr, y bren-hinoedd gynt a fu o'th flaen, felly y llosgir hwy i ti; a bydd galar amdanat fel eu harglwydd. Dyma'r gair a leferais i,'" medd yr ARGLWYDD.
6וידבר ירמיהו הנביא אל צדקיהו מלך יהודה את כל הדברים האלה בירושלם׃
6 Llefarodd y proffwyd Jeremeia yr holl eiriau hyn yn Jerwsalem wrth Sedeceia brenin Jwda,
7וחיל מלך בבל נלחמים על ירושלם ועל כל ערי יהודה הנותרות אל לכיש ואל עזקה כי הנה נשארו בערי יהודה ערי מבצר׃
7 pan oedd llu brenin Babilon yn rhyfela yn erbyn Jerwsalem ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda oedd yn weddill, sef Lachis ac Aseca; oherwydd hwy oedd yr unig ddinasoedd caerog a adawyd o blith dinasoedd Jwda.
8הדבר אשר היה אל ירמיהו מאת יהוה אחרי כרת המלך צדקיהו ברית את כל העם אשר בירושלם לקרא להם דרור׃
8 Daeth gair at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD, wedi i'r Brenin Sedeceia wneud cyfamod �'r holl bobl yn Jerwsalem i gyhoeddi rhyddhad,
9לשלח איש את עבדו ואיש את שפחתו העברי והעבריה חפשים לבלתי עבד בם ביהודי אחיהו איש׃
9 sef bod pob un i ollwng ei gaethion o Hebreaid yn rhydd, boed wryw neu fenyw, rhag bod neb yn cadw Iddew arall yn gaeth.
10וישמעו כל השרים וכל העם אשר באו בברית לשלח איש את עבדו ואיש את שפחתו חפשים לבלתי עבד בם עוד וישמעו וישלחו׃
10 Cytunodd pob un o'r tywysogion, a'r bobl a dderbyniodd y cyfamod, i ryddhau ei gaethwas a'i gaethferch, rhag iddynt fod yn gaeth mwyach; ac ar �l cytuno, gollyngasant hwy yn rhydd.
11וישובו אחרי כן וישבו את העבדים ואת השפחות אשר שלחו חפשים ויכבישום לעבדים ולשפחות׃
11 Ond wedi hynny bu edifar ganddynt, a dygasant yn �l y gweision a'r morynion a ollyngwyd yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.
12ויהי דבר יהוה אל ירמיהו מאת יהוה לאמר׃
12 A dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD:
13כה אמר יהוה אלהי ישראל אנכי כרתי ברית את אבותיכם ביום הוצאי אותם מארץ מצרים מבית עבדים לאמר׃
13 "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: 'Gwneuthum gyfamod �'ch hynafiaid, y dydd y dygais hwy o wlad yr Aifft, o du375? caethiwed, a dweud,
14מקץ שבע שנים תשלחו איש את אחיו העברי אשר ימכר לך ועבדך שש שנים ושלחתו חפשי מעמך ולא שמעו אבותיכם אלי ולא הטו את אזנם׃
14 "Cyn pen saith mlynedd yr ydych i ollwng yn rhydd bob un ei frawd o Hebr�wr a werthwyd iddo ac a'i gwasanaethodd am chwe blynedd, a'i ollwng yn rhydd oddi wrtho." Ond ni wrandawodd eich hynafiaid arnaf, na rhoi clust.
15ותשבו אתם היום ותעשו את הישר בעיני לקרא דרור איש לרעהו ותכרתו ברית לפני בבית אשר נקרא שמי עליו׃
15 A heddiw bu edifar gennych chwi, a gwnaethoch yr hyn sydd uniawn yn fy ngolwg trwy gyhoeddi bod pob un i ryddhau ei gymydog, a gwneud cyfamod ger fy mron yn y tu375? y galwyd fy enw arno.
16ותשבו ותחללו את שמי ותשבו איש את עבדו ואיש את שפחתו אשר שלחתם חפשים לנפשם ותכבשו אתם להיות לכם לעבדים ולשפחות׃
16 Ond wedyn bu edifar gennych am hyn, a halogasoch fy enw trwy i bob un ddwyn yn �l ei was a'i forwyn y dymunai eu gollwng yn rhydd, a'u caethiwo eilwaith.
17לכן כה אמר יהוה אתם לא שמעתם אלי לקרא דרור איש לאחיו ואיש לרעהו הנני קרא לכם דרור נאם יהוה אל החרב אל הדבר ואל הרעב ונתתי אתכם לזועה לכל ממלכות הארץ׃
17 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Ni wrandawsoch arnaf fi i gyhoeddi diwrnod rhyddhad i'ch gilydd, yn berthnasau a chymdogion; yn awr dyma fi'n cyhoeddi diwrnod rhyddhad i'r cleddyf a haint a newyn!' medd yr ARGLWYDD. 'Fe'ch gwnaf yn arswyd i holl deyrnasoedd y ddaear.
18ונתתי את האנשים העברים את ברתי אשר לא הקימו את דברי הברית אשר כרתו לפני העגל אשר כרתו לשנים ויעברו בין בתריו׃
18 A'r rhai a dorrodd fy nghyfamod, heb gyflawni'r amodau a wnaethant yn fy ngu373?ydd, gwnaf hwy fel y llo a holltwyd yn ddau er mwyn iddynt gerdded rhwng y ddwy ran.
19שרי יהודה ושרי ירושלם הסרסים והכהנים וכל עם הארץ העברים בין בתרי העגל׃
19 Am dywysogion Jwda a thywysogion Jerwsalem, y gweinyddwyr a'r offeiriaid a holl bobl y wlad a gerddodd rhwng dwy ran y llo a holltwyd,
20ונתתי אותם ביד איביהם וביד מבקשי נפשם והיתה נבלתם למאכל לעוף השמים ולבהמת הארץ׃
20 fe'u rhof yn llaw eu gelynion ac yn llaw y rhai sy'n ceisio'u heinioes; bydd eu celanedd yn fwyd i adar y nefoedd ac i anifeiliaid gwyllt.
21ואת צדקיהו מלך יהודה ואת שריו אתן ביד איביהם וביד מבקשי נפשם וביד חיל מלך בבל העלים מעליכם׃
21 Rhof Sedeceia brenin Jwda, a'i holl dywysogion, yn llaw eu gelynion a'r rhai sy'n ceisio'u heinioes, ac yn llaw llu brenin Babilon sydd yn awr yn cilio oddi wrthych.
22הנני מצוה נאם יהוה והשבתים אל העיר הזאת ונלחמו עליה ולכדוה ושרפה באש ואת ערי יהודה אתן שממה מאין ישב׃
22 Dyma fi'n gorchymyn,' medd yr ARGLWYDD, 'iddynt droi'n �l at y ddinas hon ac ymladd yn ei herbyn; byddant yn ei goresgyn ac yn ei llosgi � th�n; ie, gwnaf ddinasoedd Jwda yn anghyfannedd, heb breswylydd ynddynt.'"