1הדבר אשר היה אל ירמיהו מאת יהוה אחר שלח אתו נבוזראדן רב טבחים מן הרמה בקחתו אתו והוא אסור באזקים בתוך כל גלות ירושלם ויהודה המגלים בבלה׃
1 Dyma'r gair oddi wrth yr ARGLWYDD a ddaeth at Jeremeia wedi i Nebusaradan, pennaeth y milwyr, ei ollwng yn rhydd o Rama. Yr oedd wedi ei ddwyn yno mewn rhwymau yng nghanol yr holl garcharorion o Jerwsalem a Jwda oedd yn cael eu caethgludo i Fabilon.
2ויקח רב טבחים לירמיהו ויאמר אליו יהוה אלהיך דבר את הרעה הזאת אל המקום הזה׃
2 Cymerodd pennaeth y milwyr Jeremeia a dweud wrtho, "Rhag-fynegodd yr ARGLWYDD dy Dduw y drwg hwn yn erbyn y lle hwn,
3ויבא ויעש יהוה כאשר דבר כי חטאתם ליהוה ולא שמעתם בקולו והיה לכם דבר הזה׃
3 a chyflawnodd ei eiriau, oherwydd pechasoch yn erbyn yr ARGLWYDD; ni wrandawsoch arno, a daeth yr aflwydd hwn arnoch.
4ועתה הנה פתחתיך היום מן האזקים אשר על ידך אם טוב בעיניך לבוא אתי בבל בא ואשים את עיני עליך ואם רע בעיניך לבוא אתי בבל חדל ראה כל הארץ לפניך אל טוב ואל הישר בעיניך ללכת שמה לך׃
4 Edrych yn awr, yr wyf yn dy ryddhau di heddiw o'r cadwynau sydd arnat. Os wyt yn dewis dod gyda mi i Fabilon, tyrd, a gofalaf amdanat; os nad wyt yn dewis dod gyda mi, paid; edrych, y mae'r holl wlad o'th flaen, dos i'r fan sydd orau gennyt.
5ועודנו לא ישוב ושבה אל גדליה בן אחיקם בן שפן אשר הפקיד מלך בבל בערי יהודה ושב אתו בתוך העם או אל כל הישר בעיניך ללכת לך ויתן לו רב טבחים ארחה ומשאת וישלחהו׃
5 Os yw'n well gennyt aros, dychwel at Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, a osododd brenin Babilon yn arolygydd dros ddinasoedd Jwda, ac aros gydag ef ymhlith y bobl; neu dos i'r lle a fynni." Rhoddodd pennaeth y milwyr iddo ddogn o fwyd, a rhodd, a'i ollwng ymaith.
6ויבא ירמיהו אל גדליה בן אחיקם המצפתה וישב אתו בתוך העם הנשארים בארץ׃
6 Aeth Jeremeia i Mispa at Gedaleia fab Ahicam, ac aros gydag ef ymhlith y bobl oedd wedi eu gadael yn y wlad.
7וישמעו כל שרי החילים אשר בשדה המה ואנשיהם כי הפקיד מלך בבל את גדליהו בן אחיקם בארץ וכי הפקיד אתו אנשים ונשים וטף ומדלת הארץ מאשר לא הגלו בבלה׃
7 Pan glywodd holl swyddogion y lluoedd, a'r milwyr oedd ar hyd y wlad, fod brenin Babilon wedi gosod Gedaleia fab Ahicam i arolygu'r wlad, ac i fwrw golwg dros y rhai tlawd, yn wu375?r, gwragedd a phlant, oedd heb eu caethgludo i Fabilon,
8ויבאו אל גדליה המצפתה וישמעאל בן נתניהו ויוחנן ויונתן בני קרח ושריה בן תנחמת ובני עופי הנטפתי ויזניהו בן המעכתי המה ואנשיהם׃
8 fe ddaethant at Gedaleia i Mispa. Daeth Ismael fab Nethaneia, Johanan a Jonathan, meibion Carea, a Seraia fab Tanhumeth, a meibion Effai o Netoffa, a Jesaneia mab y Maachathiad, y rhain i gyd a'u milwyr;
9וישבע להם גדליהו בן אחיקם בן שפן ולאנשיהם לאמר אל תיראו מעבוד הכשדים שבו בארץ ועבדו את מלך בבל וייטב לכם׃
9 a thyngodd Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan wrthynt ac wrth eu milwyr, gan ddweud, "Peidiwch ag ofni gwasanaethu'r Caldeaid; cartrefwch yn y wlad, a gwasanaethu brenin Babilon, a bydd yn dda arnoch.
10ואני הנני ישב במצפה לעמד לפני הכשדים אשר יבאו אלינו ואתם אספו יין וקיץ ושמן ושמו בכליכם ושבו בעריכם אשר תפשתם׃
10 Byddaf fi'n byw yn Mispa, i wasanaethu'r Caldeaid a fydd yn dod atom; cewch chwi gasglu'r gwin a'r ffrwythau haf a'r olew, a'u rhoi yn eich llestri, a thrigo yn y dinasoedd a feddiannwch."
11וגם כל היהודים אשר במואב ובבני עמון ובאדום ואשר בכל הארצות שמעו כי נתן מלך בבל שארית ליהודה וכי הפקיד עליהם את גדליהו בן אחיקם בן שפן׃
11 Yna clywodd yr holl Iddewon oedd yn Moab, ac ymhlith Ammon ac yn Edom ac yn yr holl wledydd, fod brenin Babilon wedi gadael gweddill yn Jwda, a gosod Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan yn arolygydd arnynt;
12וישבו כל היהודים מכל המקמות אשר נדחו שם ויבאו ארץ יהודה אל גדליהו המצפתה ויאספו יין וקיץ הרבה מאד׃
12 a dychwelodd yr holl Iddewon o'r mannau lle gwasgarwyd hwy i Jwda, at Gedaleia yn Mispa, a chasglu st�r helaeth o win a ffrwythau haf.
13ויוחנן בן קרח וכל שרי החילים אשר בשדה באו אל גדליהו המצפתה׃
13 Daeth Johanan fab Carea, a holl swyddogion y lluoedd oedd ar hyd y wlad, at Gedaleia yn Mispa,
14ויאמרו אליו הידע תדע כי בעליס מלך בני עמון שלח את ישמעאל בן נתניה להכתך נפש ולא האמין להם גדליהו בן אחיקם׃
14 a dweud wrtho, "A wyddost ti fod Baalis brenin yr Ammoniaid wedi anfon Ismael fab Nethaneia i'th ladd di?" Ond ni chredai Gedaleia fab Ahicam hwy.
15ויוחנן בן קרח אמר אל גדליהו בסתר במצפה לאמר אלכה נא ואכה את ישמעאל בן נתניה ואיש לא ידע למה יככה נפש ונפצו כל יהודה הנקבצים אליך ואבדה שארית יהודה׃
15 A dywedodd Johanan fab Carea yn gyfrinachol wrth Gedaleia yn Mispa, "Da ti, gad imi fynd, heb yn wybod i neb, a lladd Ismael fab Nethaneia. Pam y caiff ef dy ladd di, a gwasgaru'r holl Iddewon a ymgasglodd atat, a pheri i'r gweddill yn Jwda ddarfod?"
16ויאמר גדליהו בן אחיקם אל יוחנן בן קרח אל תעש את הדבר הזה כי שקר אתה דבר אל ישמעאל׃
16 Ond dywedodd Gedaleia fab Ahicam wrth Johanan fab Carea, "Paid � gwneud hynny, oherwydd yr wyt yn dweud celwydd am Ismael."