Hebrew: Modern

Welsh

Jeremiah

8

1בעת ההיא נאם יהוה ויציאו את עצמות מלכי יהודה ואת עצמות שריו ואת עצמות הכהנים ואת עצמות הנביאים ואת עצמות יושבי ירושלם מקבריהם׃
1 "Yn yr amser hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "fe godir o'u beddau esgyrn brenhinoedd Jwda, esgyrn y tywysogion, esgyrn yr offeiriaid, esgyrn y proffwydi ac esgyrn trigolion Jerwsalem,
2ושטחום לשמש ולירח ולכל צבא השמים אשר אהבום ואשר עבדום ואשר הלכו אחריהם ואשר דרשום ואשר השתחוו להם לא יאספו ולא יקברו לדמן על פני האדמה יהיו׃
2 a'u taenu yn wyneb yr haul a'r lleuad a holl lu'r nefoedd y buont yn eu caru ac yn eu gwasanaethu, gan rodio ar eu h�l ac ymofyn ganddynt a'u haddoli. Byddant heb eu casglu a heb eu claddu; byddant yn dom ar wyneb y ddaear.
3ונבחר מות מחיים לכל השארית הנשארים מן המשפחה הרעה הזאת בכל המקמות הנשארים אשר הדחתים שם נאם יהוה צבאות׃
3 Bydd angau yn well nag einioes gan yr holl weddill a adewir o'r teulu drwg hwn ym mhob man y gyrrais hwy iddo," medd ARGLWYDD y Lluoedd.
4ואמרת אליהם כה אמר יהוה היפלו ולא יקומו אם ישוב ולא ישוב׃
4 "Dywedi wrthynt, 'Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Os cwympant, oni chyfodant? Os try un ymaith, oni ddychwel?
5מדוע שובבה העם הזה ירושלם משבה נצחת החזיקו בתרמית מאנו לשוב׃
5 Pam, ynteu, y trodd y bobl hyn ymaith, ac y parhaodd Jerwsalem i encilio? Glynasant wrth dwyll, gan wrthod dychwelyd.
6הקשבתי ואשמע לוא כן ידברו אין איש נחם על רעתו לאמר מה עשיתי כלה שב במרצותם כסוס שוטף במלחמה׃
6 Cymerais sylw a gwrandewais, ond ni lefarodd neb yn uniawn; nid edifarhaodd neb am ei ddrygioni a dweud, "Beth a wneuthum?" Y mae pob un yn troi yn ei redfa, fel march cyn rhuthro i'r frwydr.
7גם חסידה בשמים ידעה מועדיה ותר וסוס ועגור שמרו את עת באנה ועמי לא ידעו את משפט יהוה׃
7 Y mae'r cr�yr yn yr awyr yn adnabod ei dymor; y durtur a'r wennol a'r fronfraith yn cadw amser eu dyfod; ond nid yw fy mhobl yn gwybod trefn yr ARGLWYDD.
8איכה תאמרו חכמים אנחנו ותורת יהוה אתנו אכן הנה לשקר עשה עט שקר ספרים׃
8 Sut y dywedwch, "Yr ydym yn ddoeth, y mae cyfraith yr ARGLWYDD gyda ni"? Yn sicr, gwnaeth ysgrifbin celwyddog yr ysgrifennydd gelwydd ohoni.
9הבישו חכמים חתו וילכדו הנה בדבר יהוה מאסו וחכמת מה להם׃
9 Cywilyddiwyd y doeth, fe'u dychrynwyd ac fe'u daliwyd. Dyma hwy wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD; pa ddoethineb sydd ganddynt felly?
10לכן אתן את נשיהם לאחרים שדותיהם ליורשים כי מקטן ועד גדול כלה בצע בצע מנביא ועד כהן כלה עשה שקר׃
10 "'Am hynny, rhof eu gwragedd i eraill, a'u meysydd i'w concwerwyr. Oherwydd o'r lleiaf hyd y mwyaf y mae pawb yn awchu am elw; o'r proffwyd i'r offeiriad y maent bob un yn gweithredu'n ffals.
11וירפו את שבר בת עמי על נקלה לאמר שלום שלום ואין שלום׃
11 Dim ond yn arwynebol y maent wedi iach�u briw merch fy mhobl, gan ddweud, "Heddwch! Heddwch!" � ac nid oes heddwch.
12הבשו כי תועבה עשו גם בוש לא יבשו והכלם לא ידעו לכן יפלו בנפלים בעת פקדתם יכשלו אמר יהוה׃
12 A oes cywilydd arnynt pan wn�nt ffieidd-dra? Dim cywilydd o gwbl! Ni allant wrido. Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig; yn nydd eu cosbi fe gwympant,' medd yr ARGLWYDD.
13אסף אסיפם נאם יהוה אין ענבים בגפן ואין תאנים בתאנה והעלה נבל ואתן להם יעברום׃
13 "'Pan gasglwn hwy,' medd yr ARGLWYDD, 'nid oedd grawnwin ar y gwinwydd, na ffigys ar y ffigysbren; gwywodd y ddeilen, aeth heibio yr hyn a roddais iddynt.'"
14על מה אנחנו ישבים האספו ונבוא אל ערי המבצר ונדמה שם כי יהוה אלהינו הדמנו וישקנו מי ראש כי חטאנו ליהוה׃
14 Pam yr oedwn? Ymgasglwch ynghyd, inni fynd i'r dinasoedd caerog, a chael ein difetha yno. Canys yr ARGLWYDD ein Duw a barodd ein difetha; rhoes i ni ddu373?r gwenwynig i'w yfed, oherwydd pechasom yn erbyn yr ARGLWYDD.
15קוה לשלום ואין טוב לעת מרפה והנה בעתה׃
15 Disgwyl yr oeddem am heddwch, ond ni ddaeth daioni; am amser iach�d, ond dychryn a ddaeth.
16מדן נשמע נחרת סוסיו מקול מצהלות אביריו רעשה כל הארץ ויבואו ויאכלו ארץ ומלואה עיר וישבי בה׃
16 Clywir ei feirch yn ffroeni o wlad Dan; crynodd yr holl ddaear gan drwst ei stalwyni'n gweryru. Daethant gan ysu'r tir a'i lawnder, y ddinas a'r rhai oedd yn trigo ynddi.
17כי הנני משלח בכם נחשים צפענים אשר אין להם לחש ונשכו אתכם נאם יהוה׃
17 "Dyma fi'n anfon seirff i'ch mysg, gwiberod na ellir eu swyno, ac fe'ch brathant," medd yr ARGLWYDD.
18מבליגיתי עלי יגון עלי לבי דוי׃
18 Y mae fy ngofid y tu hwnt i wellhad, a'm calon wedi clafychu.
19הנה קול שועת בת עמי מארץ מרחקים היהוה אין בציון אם מלכה אין בה מדוע הכעסוני בפסליהם בהבלי נכר׃
19 Clyw! Cri merch fy mhobl o wlad bellennig: "Onid yw'r ARGLWYDD yn Seion? Onid yw ei brenin ynddi?" "Pam y maent yn fy nigio �'u delwau, �'u heilunod estron?"
20עבר קציר כלה קיץ ואנחנו לוא נושענו׃
20 "Aeth y cynhaeaf heibio, darfu'r haf, a ninnau heb ein hachub."
21על שבר בת עמי השברתי קדרתי שמה החזקתני׃
21 Oherwydd briw merch fy mhobl yr wyf finnau wedi fy mriwo, wedi galaru, ac wedi fy nal gan syndod.
22הצרי אין בגלעד אם רפא אין שם כי מדוע לא עלתה ארכת בת עמי׃
22 Onid oes balm yn Gilead? Onid oes yno ffisigwr? Pam, ynteu, nad yw iechyd merch fy mhobl yn gwella?