1אחרי כן פתח איוב את פיהו ויקלל את יומו׃
1 Wedi hyn dechreuodd Job siarad a melltithio dydd ei eni.
2ויען איוב ויאמר׃
2 Meddai Job:
3יאבד יום אולד בו והלילה אמר הרה גבר׃
3 "Difoder y dydd y'm ganwyd, a'r nos y dywedwyd, 'Cenhedlwyd bachgen'.
4היום ההוא יהי חשך אל ידרשהו אלוה ממעל ואל תופע עליו נהרה׃
4 Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch; na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod, ac na lewyrched goleuni arno.
5יגאלהו חשך וצלמות תשכן עליו עננה יבעתהו כמרירי יום׃
5 Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu; arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan dd�wch y dydd.
6הלילה ההוא יקחהו אפל אל יחד בימי שנה במספר ירחים אל יבא׃
6 Cymered y gwyll feddiant o'r nos honno; na chyfrifer hi ymhlith dyddiau'r flwyddyn, ac na ddoed i blith nifer y misoedd.
7הנה הלילה ההוא יהי גלמוד אל תבא רננה בו׃
7 Wele'r nos honno, bydded ddiffrwyth, heb su373?n gorfoledd ynddi.
8יקבהו אררי יום העתידים ערר לויתן׃
8 Melltithier hi gan y rhai sy'n melltithio'r dyddiau, y rhai sy'n medru cyffroi'r lefiathan.
9יחשכו כוכבי נשפו יקו לאור ואין ואל יראה בעפעפי שחר׃
9 Tywylled s�r ei chyfddydd, disgwylied am oleuni heb ei gael, ac na weled doriad gwawr,
10כי לא סגר דלתי בטני ויסתר עמל מעיני׃
10 am na chaeodd ddrysau croth fy mam, na chuddio gofid o'm golwg.
11למה לא מרחם אמות מבטן יצאתי ואגוע׃
11 Pam na f�m farw yn y groth, neu drengi pan ddeuthum allan o'r bru?
12מדוע קדמוני ברכים ומה שדים כי אינק׃
12 Pam y derbyniodd gliniau fi, ac y rhoddodd bronnau sugn i mi?
13כי עתה שכבתי ואשקוט ישנתי אז ינוח לי׃
13 Yna, byddwn yn awr yn gorwedd yn llonydd, yn cysgu'n dawel ac yn cael gorffwys,
14עם מלכים ויעצי ארץ הבנים חרבות למו׃
14 gyda brenhinoedd a chynghorwyr daear, a fu'n adfer adfeilion iddynt eu hunain,
15או עם שרים זהב להם הממלאים בתיהם כסף׃
15 neu gyda thywysogion goludog, a lanwodd eu tai ag arian,
16או כנפל טמון לא אהיה כעללים לא ראו אור׃
16 neu heb fyw, fel erthyl a guddiwyd, fel babanod na welsant oleuni.
17שם רשעים חדלו רגז ושם ינוחו יגיעי כח׃
17 Yno, peidia'r drygionus � therfysgu, a chaiff y lluddedig orffwys.
18יחד אסירים שאננו לא שמעו קול נגש׃
18 Hefyd caiff y carcharorion lonyddwch; ni chlywant lais y meistri gwaith.
19קטן וגדול שם הוא ועבד חפשי מאדניו׃
19 Bychan a mawr sydd yno, a'r caethwas yn rhydd oddi wrth ei feistr.
20למה יתן לעמל אור וחיים למרי נפש׃
20 Pam y rhoddir goleuni i'r gorthrymedig a bywyd i'r chwerw ei ysbryd,
21המחכים למות ואיננו ויחפרהו ממטמונים׃
21 sy'n dyheu am farwolaeth, heb iddi ddod, sy'n cloddio amdani yn fwy nag am drysor cudd,
22השמחים אלי גיל ישישו כי ימצאו קבר׃
22 sy'n llawenychu pan gaiff feddrod, ac yn gorfoleddu pan gaiff fedd?
23לגבר אשר דרכו נסתרה ויסך אלוה בעדו׃
23 "Ond am ddyn, cuddiwyd ei ffordd, a chaeodd Duw amdano.
24כי לפני לחמי אנחתי תבא ויתכו כמים שאגתי׃
24 Daw fy ochenaid o flaen fy mwyd, a thywelltir fy ngriddfan fel dyfroedd.
25כי פחד פחדתי ויאתיני ואשר יגרתי יבא לי׃
25 Y peth a ofnaf a ddaw arnaf, a'r hyn yr arswydaf rhagddo a ddaw imi.
26לא שלותי ולא שקטתי ולא נחתי ויבא רגז׃
26 Nid oes imi dawelwch na llonyddwch; ni chaf orffwys, canys daw dychryn."