1ויהי אחרי מות משה עבד יהוה ויאמר יהוה אל יהושע בן נון משרת משה לאמר׃
1 Wedi marw Moses gwas yr ARGLWYDD, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua fab Nun, a fu'n gweini ar Moses,
2משה עבדי מת ועתה קום עבר את הירדן הזה אתה וכל העם הזה אל הארץ אשר אנכי נתן להם לבני ישראל׃
2 "Y mae fy ngwas Moses wedi marw; yn awr, croesa di a'r holl bobl hyn yr Iorddonen yma i'r wlad yr wyf fi'n ei rhoi i blant Israel.
3כל מקום אשר תדרך כף רגלכם בו לכם נתתיו כאשר דברתי אל משה׃
3 Rhof i chwi bob llecyn y bydd gwadn eich troed yn cerdded drosto, fel y dywedais wrth Moses.
4מהמדבר והלבנון הזה ועד הנהר הגדול נהר פרת כל ארץ החתים ועד הים הגדול מבוא השמש יהיה גבולכם׃
4 Bydd eich terfyn yn ymestyn o'r anialwch a Lebanon hyd at yr afon fawr, afon Ewffrates, sef holl wlad yr Hethiaid, hyd at y M�r Mawr yn y gorllewin.
5לא יתיצב איש לפניך כל ימי חייך כאשר הייתי עם משה אהיה עמך לא ארפך ולא אעזבך׃
5 Ni saif neb o'th flaen tra byddi byw; byddaf gyda thi fel y b�m gyda Moses; ni'th adawaf na chefnu arnat.
6חזק ואמץ כי אתה תנחיל את העם הזה את הארץ אשר נשבעתי לאבותם לתת להם׃
6 Bydd yn gryf a dewr; oherwydd ti fydd yn rhoi i'r bobl hyn feddiant o'r wlad yr addewais ei rhoi i'w hynafiaid.
7רק חזק ואמץ מאד לשמר לעשות ככל התורה אשר צוך משה עבדי אל תסור ממנו ימין ושמאול למען תשכיל בכל אשר תלך׃
7 Yn unig bydd yn gryf a dewr iawn, a gofala weithredu yn �l yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iti. Paid � gwyro oddi wrthi i'r dde na'r chwith, er mwyn iti ffynnu ple bynnag yr ei.
8לא ימוש ספר התורה הזה מפיך והגית בו יומם ולילה למען תשמר לעשות ככל הכתוב בו כי אז תצליח את דרכך ואז תשכיל׃
8 Nid yw'r llyfr cyfraith hwn i adael dy enau; yr wyt i fyfyrio ynddo ddydd a nos, er mwyn iti ofalu gwneud y cyfan sy'n ysgrifenedig ynddo. Yna byddi'n llwyddo yn dy ffyrdd ac yn ffynnu.
9הלוא צויתיך חזק ואמץ אל תערץ ואל תחת כי עמך יהוה אלהיך בכל אשר תלך׃
9 Onid wyf wedi gorchymyn iti: bydd yn gryf a dewr? Paid ag arswydo na dychryn, oherwydd yr wyf fi, yr ARGLWYDD dy Dduw, gyda thi ple bynnag yr ei."
10ויצו יהושע את שטרי העם לאמר׃
10 Dywedodd Josua wrth swyddogion y bobl
11עברו בקרב המחנה וצוו את העם לאמר הכינו לכם צידה כי בעוד שלשת ימים אתם עברים את הירדן הזה לבוא לרשת את הארץ אשר יהוה אלהיכם נתן לכם לרשתה׃
11 am fynd trwy ganol y gwersyll, a gorchymyn i'r bobl, "Darparwch ichwi luniaeth, oherwydd o fewn tridiau byddwch yn croesi'r Iorddonen ar y ffordd i feddiannu'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi'n etifeddiaeth i chwi."
12ולראובני ולגדי ולחצי שבט המנשה אמר יהושע לאמר׃
12 Ac wrth Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse, dywedodd Josua,
13זכור את הדבר אשר צוה אתכם משה עבד יהוה לאמר יהוה אלהיכם מניח לכם ונתן לכם את הארץ הזאת׃
13 "Cofiwch beth a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD ichwi, fod yr ARGLWYDD eich Duw yn rhoi diogelwch ichwi yma, ac yn rhoi'r wlad hon i chwi.
14נשיכם טפכם ומקניכם ישבו בארץ אשר נתן לכם משה בעבר הירדן ואתם תעברו חמשים לפני אחיכם כל גבורי החיל ועזרתם אותם׃
14 Caiff eich gwragedd, eich plant a'ch anifeiliaid aros yn y wlad a roddodd Moses ichwi y tu hwnt i'r Iorddonen; ond y mae pob milwr o'ch plith i fynd trosodd yn llu arfog o flaen eich perthnasau i'w cynorthwyo,
15עד אשר יניח יהוה לאחיכם ככם וירשו גם המה את הארץ אשר יהוה אלהיכם נתן להם ושבתם לארץ ירשתכם וירשתם אותה אשר נתן לכם משה עבד יהוה בעבר הירדן מזרח השמש׃
15 nes y bydd yr ARGLWYDD wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau fel i chwi, a hwythau'n cael meddiant o'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi iddynt; yna cewch ddychwelyd a meddiannu'r wlad a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD yn etifeddiaeth i chwi i'r dwyrain o'r Iorddonen."
16ויענו את יהושע לאמר כל אשר צויתנו נעשה ואל כל אשר תשלחנו נלך׃
16 Dyma'u hateb i Josua: "Fe wnawn beth bynnag yr wyt yn ei orchymyn inni, a mynd i ble bynnag yr anfoni ni;
17ככל אשר שמענו אל משה כן נשמע אליך רק יהיה יהוה אלהיך עמך כאשר היה עם משה׃
17 ufuddhawn i ti ym mhopeth fel y gwnaethom i Moses, dim ond i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda thi fel y bu gyda Moses.
18כל איש אשר ימרה את פיך ולא ישמע את דבריך לכל אשר תצונו יומת רק חזק ואמץ׃
18 Rhodder i farwolaeth bwy bynnag fydd yn anufuddhau i'th air ac yn gwrthod gwrando ar unrhyw beth a orchmynni. Yn unig bydd yn gryf a dewr."