1ויהי הגורל למטה מנשה כי הוא בכור יוסף למכיר בכור מנשה אבי הגלעד כי הוא היה איש מלחמה ויהי לו הגלעד והבשן׃
1 Yna rhoddwyd rhandir i lwyth Manasse, oherwydd ef oedd cyntafanedig Joseff. Machir oedd cyntafanedig Manasse a thad Gilead, ac am ei fod yn rhyfelwr, iddo ef y daeth Gilead a Basan.
2ויהי לבני מנשה הנותרים למשפחתם לבני אביעזר ולבני חלק ולבני אשריאל ולבני שכם ולבני חפר ולבני שמידע אלה בני מנשה בן יוסף הזכרים למשפחתם׃
2 Rhannwyd tir hefyd i weddill Manasse yn �l eu tylwythau, sef i feibion Abieser, Helech, Asriel, Sichem, Heffer a Semida. Y rhain oedd bechgyn Manasse fab Joseff yn �l eu tylwythau.
3ולצלפחד בן חפר בן גלעד בן מכיר בן מנשה לא היו לו בנים כי אם בנות ואלה שמות בנתיו מחלה ונעה חגלה מלכה ותרצה׃
3 Ond am Seloffehad fab Heffer, fab Gilead, fab Machir, fab Manasse, nid oedd ganddo feibion ond merched yn unig, a dyma'u henwau: Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa.
4ותקרבנה לפני אלעזר הכהן ולפני יהושע בן נון ולפני הנשיאים לאמר יהוה צוה את משה לתת לנו נחלה בתוך אחינו ויתן להם אל פי יהוה נחלה בתוך אחי אביהן׃
4 Daeth y rhain gerbron yr offeiriad Eleasar, Josua fab Nun a'r arweinwyr, a dweud, "Gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses roi inni etifeddiaeth ymysg ein pobl." Ac fe roddwyd iddynt etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad, yn �l gorchymyn yr ARGLWYDD.
5ויפלו חבלי מנשה עשרה לבד מארץ הגלעד והבשן אשר מעבר לירדן׃
5 Felly disgynnodd deg rhan i Manasse, yn ychwanegol at dir Gilead a Basan y tu hwnt i'r Iorddonen,
6כי בנות מנשה נחלו נחלה בתוך בניו וארץ הגלעד היתה לבני מנשה הנותרים׃
6 am fod merched Manasse wedi etifeddu cyfran ynghyd �'r meibion; aeth tir Gilead i weddill meibion Manasse.
7ויהי גבול מנשה מאשר המכמתת אשר על פני שכם והלך הגבול אל הימין אל ישבי עין תפוח׃
7 Yr oedd terfyn Manasse'n ymestyn o Aser i Michmetha, sydd i'r dwyrain o Sichem, ac ymlaen i'r de at Jasub ger En�tappua.
8למנשה היתה ארץ תפוח ותפוח אל גבול מנשה לבני אפרים׃
8 Perthyn i Manasse yr oedd tir Tappua, ond yr oedd Tappua ei hun ar derfyn Manasse ac yn perthyn i blant Effraim.
9וירד הגבול נחל קנה נגבה לנחל ערים האלה לאפרים בתוך ערי מנשה וגבול מנשה מצפון לנחל ויהי תצאתיו הימה׃
9 �i'r terfyn i lawr nant Cana i'r de. Trefi yn perthyn i Effraim oedd y rhai ar ochr ddeheuol y nant, er eu bod yng nghanol trefi Manasse, a bod terfyn Manasse yn rhedeg ar ochr ogleddol y nant nes cyrraedd y m�r.
10נגבה לאפרים וצפונה למנשה ויהי הים גבולו ובאשר יפגעון מצפון וביששכר ממזרח׃
10 Yr oedd y tir i'r de'n perthyn i Effraim, ond y tir i'r gogledd yn perthyn i Manasse. Yr oedd tir Manasse'n ymestyn at y m�r, ac yn ffinio ar Aser i'r gogledd ac ar Issachar i'r dwyrain.
11ויהי למנשה ביששכר ובאשר בית שאן ובנותיה ויבלעם ובנותיה ואת ישבי דאר ובנותיה וישבי עין דר ובנתיה וישבי תענך ובנתיה וישבי מגדו ובנותיה שלשת הנפת׃
11 O fewn Issachar ac Aser, eiddo Manasse oedd Beth-sean ac Ibleam a'u maestrefi, a hefyd y rhai oedd yn byw yn Dor, Endor, Taanach a Megido a'u maestrefi. Naffath yw'r drydedd dref uchod.
12ולא יכלו בני מנשה להוריש את הערים האלה ויואל הכנעני לשבת בארץ הזאת׃
12 Ni allodd Manasse feddiannu'r trefi hyn; felly daliodd y Canaaneaid eu tir yn y rhan honno o'r wlad.
13ויהי כי חזקו בני ישראל ויתנו את הכנעני למס והורש לא הורישו׃
13 Ond wedi i'r Israeliaid ymgryfhau, rhoesant y Canaaneaid dan lafur gorfod, er iddynt fethu eu disodli'n llwyr.
14וידברו בני יוסף את יהושע לאמר מדוע נתתה לי נחלה גורל אחד וחבל אחד ואני עם רב עד אשר עד כה ברכני יהוה׃
14 Dywedodd disgynyddion Joseff wrth Josua, "Pam na roddaist inni ond un gyfran ac un rhandir yn etifeddiaeth, a ninnau'n bobl niferus, ac wedi'n bendithio mor helaeth gan yr ARGLWYDD?"
15ויאמר אליהם יהושע אם עם רב אתה עלה לך היערה ובראת לך שם בארץ הפרזי והרפאים כי אץ לך הר אפרים׃
15 Atebodd Josua hwy, "Os ydych yn bobl mor niferus, a mynydd�dir Effraim yn rhy gyfyng i chwi, ewch i fyny i'r goedwig a chlirio tir ichwi'ch hunain yno, yn nhiriogaeth y Peresiaid a'r Reffaim."
16ויאמרו בני יוסף לא ימצא לנו ההר ורכב ברזל בכל הכנעני הישב בארץ העמק לאשר בבית שאן ובנותיה ולאשר בעמק יזרעאל׃
16 Dywedodd disgynyddion Joseff, "Nid yw'r mynydd-dir yn ddigon inni, ac y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sy'n byw ar y gwastatir yn Bethsean a'i maestrefi, ac yn nyffryn Jesreel."
17ויאמר יהושע אל בית יוסף לאפרים ולמנשה לאמר עם רב אתה וכח גדול לך לא יהיה לך גורל אחד׃
17 Yna dywedodd Josua wrth Effraim a Manasse, teulu Joseff, "Yr ydych yn bobl niferus, ac yn nerthol iawn; nid un gyfran yn unig a gewch,
18כי הר יהיה לך כי יער הוא ובראתו והיה לך תצאתיו כי תוריש את הכנעני כי רכב ברזל לו כי חזק הוא׃
18 ond bydd y mynydd�dir hefyd yn eiddo ichwi; ac er mai coetir yw, cliriwch ef a'i feddiannu i'w gwr pellaf; yna byddwch yn disodli'r Canaaneaid, er eu bod yn gryfion a cherbydau heyrn ganddynt."