1ויהי מימים רבים אחרי אשר הניח יהוה לישראל מכל איביהם מסביב ויהושע זקן בא בימים׃
1 Wedi cyfnod maith, a'r ARGLWYDD wedi rhoi llonyddwch i Israel oddi wrth eu holl elynion o'u hamgylch, yr oedd Josua yn hen ac yn oedrannus.
2ויקרא יהושע לכל ישראל לזקניו ולראשיו ולשפטיו ולשטריו ויאמר אלהם אני זקנתי באתי בימים׃
2 Galwodd ato Israel gyfan, eu henuriaid, penaethiaid, barnwyr a swyddogion, a dweud wrthynt, "Yr wyf yn hen ac yn oedrannus.
3ואתם ראיתם את כל אשר עשה יהוה אלהיכם לכל הגוים האלה מפניכם כי יהוה אלהיכם הוא הנלחם לכם׃
3 Gwelsoch y cwbl a wnaeth yr ARGLWYDD eich Duw i'r holl genhedloedd hyn er eich mwyn, oherwydd yr ARGLWYDD eich Duw oedd yn ymladd drosoch.
4ראו הפלתי לכם את הגוים הנשארים האלה בנחלה לשבטיכם מן הירדן וכל הגוים אשר הכרתי והים הגדול מבוא השמש׃
4 Gwelwch fy mod wedi rhannu rhyngoch, yn etifeddiaeth i'ch llwythau, dir y cenhedloedd hyn a ddistrywiais a'r rhai a adawyd rhwng yr Iorddonen a'r M�r Mawr yn y gorllewin.
5ויהוה אלהיכם הוא יהדפם מפניכם והוריש אתם מלפניכם וירשתם את ארצם כאשר דבר יהוה אלהיכם לכם׃
5 Yr ARGLWYDD eich Duw a fu'n eu hymlid ar eich rhan ac yn eu gyrru allan o'ch blaen, er mwyn i chwi gael meddiannu eu gwlad, fel yr addawodd yr ARGLWYDD eich Duw wrthych.
6וחזקתם מאד לשמר ולעשות את כל הכתוב בספר תורת משה לבלתי סור ממנו ימין ושמאול׃
6 Felly byddwch yn gadarn dros gadw a chyflawni'r cwbl sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr cyfraith Moses, heb wyro oddi wrtho i'r dde na'r aswy.
7לבלתי בוא בגוים האלה הנשארים האלה אתכם ובשם אלהיהם לא תזכירו ולא תשביעו ולא תעבדום ולא תשתחוו להם׃
7 Peidiwch � chymysgu �'r cenhedloedd hyn a adawyd yn eich mysg; peidiwch ag yngan enw eu duwiau na thyngu wrthynt, na'u gwasanaethu na'u haddoli.
8כי אם ביהוה אלהיכם תדבקו כאשר עשיתם עד היום הזה׃
8 Ond glynwch wrth yr ARGLWYDD eich Duw fel, yn wir, yr ydych wedi ei wneud hyd y dydd hwn.
9ויורש יהוה מפניכם גוים גדלים ועצומים ואתם לא עמד איש בפניכם עד היום הזה׃
9 Oherwydd gyrrodd yr ARGLWYDD allan o'ch blaen genhedloedd mawr a nerthol; nid oes un ohonynt wedi'ch gwrthsefyll hyd y dydd hwn.
10איש אחד מכם ירדף אלף כי יהוה אלהיכם הוא הנלחם לכם כאשר דבר לכם׃
10 Y mae un ohonoch chwi'n peri i fil ohonynt hwy ffoi, oherwydd bod yr ARGLWYDD eich Duw yn ymladd drosoch, fel yr addawodd wrthych.
11ונשמרתם מאד לנפשתיכם לאהבה את יהוה אלהיכם׃
11 Byddwch yn ofalus, bob un ohonoch, eich bod yn caru'r ARGLWYDD eich Duw.
12כי אם שוב תשובו ודבקתם ביתר הגוים האלה הנשארים האלה אתכם והתחתנתם בהם ובאתם בהם והם בכם׃
12 Oherwydd os gwrthgiliwch, a glynu wrth weddill y cenhedloedd hyn a adawyd yn eich mysg, a phriodi a chymysgu � hwy,
13ידוע תדעו כי לא יוסיף יהוה אלהיכם להוריש את הגוים האלה מלפניכם והיו לכם לפח ולמוקש ולשטט בצדיכם ולצננים בעיניכם עד אבדכם מעל האדמה הטובה הזאת אשר נתן לכם יהוה אלהיכם׃
13 gallwch fod yn gwbl sicr na fydd yr ARGLWYDD eich Duw yn parhau i yrru'r cenhedloedd hyn allan o'ch blaen. Yn hytrach byddant yn fagl ac yn dramgwydd ichwi, yn chwip ar eich cefnau ac yn ddrain yn eich llygaid, nes y byddwch wedi'ch difa o'r wlad dda hon a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw i chwi.
14והנה אנכי הולך היום בדרך כל הארץ וידעתם בכל לבבכם ובכל נפשכם כי לא נפל דבר אחד מכל הדברים הטובים אשר דבר יהוה אלהיכם עליכם הכל באו לכם לא נפל ממנו דבר אחד׃
14 "Yn awr yr wyf fi ar fynd i ffordd yr holl ddaear. Y mae pob un ohonoch yn gwybod yn ei galon a'i enaid na phallodd dim un o'r holl bethau daionus a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw ar eich cyfer; cawsoch y cwbl, heb ball.
15והיה כאשר בא עליכם כל הדבר הטוב אשר דבר יהוה אלהיכם אליכם כן יביא יהוה עליכם את כל הדבר הרע עד השמידו אותכם מעל האדמה הטובה הזאת אשר נתן לכם יהוה אלהיכם׃
15 Fel y daeth ichwi bopeth da a addawodd yr ARGLWYDD eich Duw, felly hefyd bydd yr ARGLWYDD yn dwyn arnoch bopeth drwg, nes eich difa o'r wlad dda hon a roddodd yr ARGLWYDD eich Duw ichwi.
16בעברכם את ברית יהוה אלהיכם אשר צוה אתכם והלכתם ועבדתם אלהים אחרים והשתחויתם להם וחרה אף יהוה בכם ואבדתם מהרה מעל הארץ הטובה אשר נתן לכם׃
16 Os torrwch gyfamod yr ARGLWYDD eich Duw, y cyfamod a orchmynnodd ef, a mynd a gwasanaethu duwiau estron a'u haddoli, yna bydd digofaint yr ARGLWYDD yn cynnau yn eich erbyn, ac yn fuan byddwch wedi'ch difa o'r wlad dda a roddodd ef ichwi."