1ויהי כאשר תמו כל הגוי לעבור את הירדן ויאמר יהוה אל יהושע לאמר׃
1 Wedi i'r holl genedl orffen croesi'r Iorddonen, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua,
2קחו לכם מן העם שנים עשר אנשים איש אחד איש אחד משבט׃
2 "Dewiswch ddeuddeg dyn o blith y bobl, un o bob llwyth.
3וצוו אותם לאמר שאו לכם מזה מתוך הירדן ממצב רגלי הכהנים הכין שתים עשרה אבנים והעברתם אותם עמכם והנחתם אותם במלון אשר תלינו בו הלילה׃
3 Gorchmynnwch iddynt godi deuddeg maen o ganol yr Iorddonen, o'r union fan y saif traed yr offeiriaid arno, a'u cymryd drosodd gyda hwy, a'u gosod yn y lle y byddant yn gwersyllu heno."
4ויקרא יהושע אל שנים העשר איש אשר הכין מבני ישראל איש אחד איש אחד משבט׃
4 Galwodd Josua y deuddeg dyn a ddewisodd o blith yr Israeliaid, un o bob llwyth,
5ויאמר להם יהושע עברו לפני ארון יהוה אלהיכם אל תוך הירדן והרימו לכם איש אבן אחת על שכמו למספר שבטי בני ישראל׃
5 a dywedodd wrthynt, "Ewch drosodd o flaen arch yr ARGLWYDD eich Duw at ganol yr Iorddonen, a choded pob un ei faen ar ei ysgwydd, yn �l nifer llwythau'r Israeliaid,
6למען תהיה זאת אות בקרבכם כי ישאלון בניכם מחר לאמר מה האבנים האלה לכם׃
6 i fod yn arwydd yn eich mysg. Pan fydd eich plant yn gofyn yn y dyfodol, 'Beth yw ystyr y meini hyn i chwi?'
7ואמרתם להם אשר נכרתו מימי הירדן מפני ארון ברית יהוה בעברו בירדן נכרתו מי הירדן והיו האבנים האלה לזכרון לבני ישראל עד עולם׃
7 yna byddwch yn dweud wrthynt fel y bu i ddyfroedd yr Iorddonen gael eu hatal o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD; pan aeth hi drosodd, ataliwyd y dyfroedd. Felly bydd y meini hyn yn gofeb i'r Israeliaid hyd byth."
8ויעשו כן בני ישראל כאשר צוה יהושע וישאו שתי עשרה אבנים מתוך הירדן כאשר דבר יהוה אל יהושע למספר שבטי בני ישראל ויעברום עמם אל המלון וינחום שם׃
8 Gwnaeth yr Israeliaid fel y gorchmynnodd Josua, a chodi deuddeg maen o wely'r Iorddonen, yn �l nifer llwythau'r Israeliaid, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Josua, a'u cludo drosodd gyda hwy i'r man lle'r oeddent yn gwersyllu, a'u gosod yno.
9ושתים עשרה אבנים הקים יהושע בתוך הירדן תחת מצב רגלי הכהנים נשאי ארון הברית ויהיו שם עד היום הזה׃
9 Hefyd gosododd Josua ddeuddeg maen yng nghanol yr Iorddonen, lle safodd yr offeiriaid oedd yn cludo arch y cyfamod, ac yno y maent hyd heddiw.
10והכהנים נשאי הארון עמדים בתוך הירדן עד תם כל הדבר אשר צוה יהוה את יהושע לדבר אל העם ככל אשר צוה משה את יהושע וימהרו העם ויעברו׃
10 Bu'r offeiriaid oedd yn cludo'r arch yn sefyll yng nghanol yr Iorddonen nes cwblhau popeth y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Josua ei ddweud wrth y bobl, y cyfan yr oedd Moses wedi ei orchymyn i Josua. Yr oedd y bobl yn brysio i groesi,
11ויהי כאשר תם כל העם לעבור ויעבר ארון יהוה והכהנים לפני העם׃
11 ac wedi iddynt oll orffen, fe groesodd arch yr ARGLWYDD a'r offeiriaid yng ngu373?ydd y bobl.
12ויעברו בני ראובן ובני גד וחצי שבט המנשה חמשים לפני בני ישראל כאשר דבר אליהם משה׃
12 Hefyd fe groesodd gwu375?r Reuben a Gad a hanner llwyth Manasse yn arfog o flaen yr Israeliaid, fel yr oedd Moses wedi dweud wrthynt.
13כארבעים אלף חלוצי הצבא עברו לפני יהוה למלחמה אל ערבות יריחו׃
13 Croesodd tua deugain mil o filwyr profiadol gerbron yr ARGLWYDD i'r frwydr yn rhosydd Jericho.
14ביום ההוא גדל יהוה את יהושע בעיני כל ישראל ויראו אתו כאשר יראו את משה כל ימי חייו׃
14 Dyrchafodd yr ARGLWYDD Josua y diwrnod hwnnw yng ngolwg Israel gyfan, a daethant i'w barchu ef, fel yr oeddent wedi parchu Moses holl ddyddiau ei einioes.
15ויאמר יהוה אל יהושע לאמר׃
15 Wedi i'r ARGLWYDD ddweud wrth Josua
16צוה את הכהנים נשאי ארון העדות ויעלו מן הירדן׃
16 am orchymyn i'r offeiriaid oedd yn cludo arch y dystiolaeth esgyn o'r Iorddonen,
17ויצו יהושע את הכהנים לאמר עלו מן הירדן׃
17 gorchmynnodd Josua iddynt, "Dewch i fyny o'r Iorddonen."
18ויהי בעלות הכהנים נשאי ארון ברית יהוה מתוך הירדן נתקו כפות רגלי הכהנים אל החרבה וישבו מי הירדן למקומם וילכו כתמול שלשום על כל גדותיו׃
18 Ac fel yr oedd yr offeiriaid oedd yn cludo arch cyfamod yr ARGLWYDD yn esgyn o ganol yr Iorddonen, a gwadnau eu traed yn cyffwrdd tir sych, dychwelodd dyfroedd yr Iorddonen i'w lle, a llifo'n llawn at ei glannau megis cynt.
19והעם עלו מן הירדן בעשור לחדש הראשון ויחנו בגלגל בקצה מזרח יריחו׃
19 Ar y degfed dydd o'r mis cyntaf y daeth y bobl i fyny o'r Iorddonen a gwersyllu yn Gilgal, ar gwr dwyreiniol Jericho.
20ואת שתים עשרה האבנים האלה אשר לקחו מן הירדן הקים יהושע בגלגל׃
20 Gosododd Josua y deuddeg maen a gymerwyd o wely'r Iorddonen yn Gilgal,
21ויאמר אל בני ישראל לאמר אשר ישאלון בניכם מחר את אבותם לאמר מה האבנים האלה׃
21 a dweud wrth yr Israeliaid, "Pan fydd eich plant yn gofyn i'w rhieni yn y dyfodol, 'Beth yw ystyr y meini hyn?'
22והודעתם את בניכם לאמר ביבשה עבר ישראל את הירדן הזה׃
22 dywedwch wrthynt i Israel groesi'r Iorddonen ar dir sych;
23אשר הוביש יהוה אלהיכם את מי הירדן מפניכם עד עברכם כאשר עשה יהוה אלהיכם לים סוף אשר הוביש מפנינו עד עברנו׃
23 oherwydd sychodd yr ARGLWYDD eich Duw ddu373?r yr Iorddonen o'ch blaen nes ichwi groesi, fel y gwnaeth gyda'r M�r Coch, pan sychodd hwnnw o'n blaen nes inni ei groesi.
24למען דעת כל עמי הארץ את יד יהוה כי חזקה היא למען יראתם את יהוה אלהיכם כל הימים׃
24 Digwyddodd hyn er mwyn i holl bobloedd y ddaear wybod mor gryf yw yr ARGLWYDD, ac er mwyn ichwi ofni'r ARGLWYDD eich Duw bob amser."