Hebrew: Modern

Welsh

Judges

1

1ויהי אחרי מות יהושע וישאלו בני ישראל ביהוה לאמר מי יעלה לנו אל הכנעני בתחלה להלחם בו׃
1 Wedi marw Josua, gofynnodd yr Israeliaid i'r ARGLWYDD, "Pwy ohonom sydd i fynd yn gyntaf yn erbyn y Canaaneaid i ymladd � hwy?"
2ויאמר יהוה יהודה יעלה הנה נתתי את הארץ בידו׃
2 Atebodd yr ARGLWYDD, "Jwda sydd i fynd; yr wyf yn rhoi'r wlad yn ei law ef."
3ויאמר יהודה לשמעון אחיו עלה אתי בגורלי ונלחמה בכנעני והלכתי גם אני אתך בגורלך וילך אתו שמעון׃
3 Dywedodd Jwda wrth ei frawd Simeon, "Tyrd gyda mi i'm tiriogaeth, er mwyn inni ymladd yn erbyn y Canaaneaid; ac mi ddof finnau gyda thi i'th diriogaeth di." Ac fe aeth Simeon gydag ef.
4ויעל יהודה ויתן יהוה את הכנעני והפרזי בידם ויכום בבזק עשרת אלפים איש׃
4 Wedi i Jwda fynd i fyny, rhoddodd yr ARGLWYDD y Canaaneaid a'r Peresiaid yn eu llaw, a lladdasant ddeng mil ohonynt yn Besec.
5וימצאו את אדני בזק בבזק וילחמו בו ויכו את הכנעני ואת הפרזי׃
5 Yno cawsant Adoni Besec ac ymladd ag ef, a lladd y Canaaneaid a'r Peresiaid.
6וינס אדני בזק וירדפו אחריו ויאחזו אתו ויקצצו את בהנות ידיו ורגליו׃
6 Ffodd Adoni Besec, ac erlidiasant ar ei �l a'i ddal, a thorri bodiau ei ddwylo a'i draed i ffwrdd.
7ויאמר אדני בזק שבעים מלכים בהנות ידיהם ורגליהם מקצצים היו מלקטים תחת שלחני כאשר עשיתי כן שלם לי אלהים ויביאהו ירושלם וימת שם׃
7 Ac meddai Adoni Besec, "Bu deg a thrigain o frenhinoedd � bodiau eu dwylo a'u traed wedi eu torri i ffwrdd yn lloffa am fwyd dan fy mwrdd; fel y gwneuthum i, felly y talodd Duw imi." Daethant ag ef i Jerwsalem, a bu farw yno.
8וילחמו בני יהודה בירושלם וילכדו אותה ויכוה לפי חרב ואת העיר שלחו באש׃
8 Ymladdodd y Jwdeaid yn erbyn Jerwsalem a'i hennill, ac yna lladd y trigolion �'r cleddyf a llosgi'r ddinas.
9ואחר ירדו בני יהודה להלחם בכנעני יושב ההר והנגב והשפלה׃
9 Wedyn aeth y Jwdeaid i ymladd yn erbyn y Canaaneaid oedd yn byw yn y mynydd-dir a hefyd yn y Negef a'r Seffela.
10וילך יהודה אל הכנעני היושב בחברון ושם חברון לפנים קרית ארבע ויכו את ששי ואת אחימן ואת תלמי׃
10 Aeth y Jwdeaid i ymladd �'r Canaaneaid oedd yn byw yn Hebron � Ciriath-arba oedd enw Hebron gynt � a lladdasant Sesai, Ahiman a Talmai.
11וילך משם אל יושבי דביר ושם דביר לפנים קרית ספר׃
11 Oddi yno aethant yn erbyn trigolion Debir � Ciriath-seffer oedd enw Debir gynt.
12ויאמר כלב אשר יכה את קרית ספר ולכדה ונתתי לו את עכסה בתי לאשה׃
12 Dywedodd Caleb, "Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo."
13וילכדה עתניאל בן קנז אחי כלב הקטן ממנו ויתן לו את עכסה בתו לאשה׃
13 Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb, a'i henillodd; rhoddodd yntau ei ferch Achsa yn wraig iddo.
14ויהי בבואה ותסיתהו לשאול מאת אביה השדה ותצנח מעל החמור ויאמר לה כלב מה לך׃
14 Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, "Beth a fynni?"
15ותאמר לו הבה לי ברכה כי ארץ הנגב נתתני ונתתה לי גלת מים ויתן לה כלב את גלת עלית ואת גלת תחתית׃
15 Atebodd hithau, "Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef; rho imi hefyd ffynhonnau du373?r." Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf.
16ובני קיני חתן משה עלו מעיר התמרים את בני יהודה מדבר יהודה אשר בנגב ערד וילך וישב את העם׃
16 Yr oedd disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, wedi dod i fyny gyda'r Jwdeaid o Ddinas y Palmwydd i anialwch Jwda, sydd yn Negef Arad, ac wedi mynd i fyw ymysg y bobl.
17וילך יהודה את שמעון אחיו ויכו את הכנעני יושב צפת ויחרימו אותה ויקרא את שם העיר חרמה׃
17 Aeth Jwda gyda'i frawd Simeon a tharo'r Canaaneaid oedd yn byw yn Seffath, a difrodi'r ddinas a'i galw'n Horma.
18וילכד יהודה את עזה ואת גבולה ואת אשקלון ואת גבולה ואת עקרון ואת גבולה׃
18 Enillodd Jwda Gasa, Ascalon ac Ecron, a'r diriogaeth o amgylch pob un.
19ויהי יהוה את יהודה וירש את ההר כי לא להוריש את ישבי העמק כי רכב ברזל להם׃
19 Yr oedd yr ARGLWYDD gyda Jwda, a meddiannodd y mynydd-dir, ond ni allodd ddisodli trigolion y gwastadedd am fod ganddynt gerbydau haearn.
20ויתנו לכלב את חברון כאשר דבר משה ויורש משם את שלשה בני הענק׃
20 Rhoesant Hebron i Caleb fel yr oedd Moses wedi addo, a gyrrodd ef oddi yno dri o'r Anaciaid.
21ואת היבוסי ישב ירושלם לא הורישו בני בנימן וישב היבוסי את בני בנימן בירושלם עד היום הזה׃
21 Ond am y Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem, ni yrrodd y Benjaminiaid hwy allan; ac y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Ben-jaminiaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.
22ויעלו בית יוסף גם הם בית אל ויהוה עמם׃
22 Aeth tylwyth Joseff i fyny yn erbyn Bethel, a bu'r ARGLWYDD gyda hwy.
23ויתירו בית יוסף בבית אל ושם העיר לפנים לוז׃
23 Anfonodd tylwyth Joseff rai i wylio Bethel � Lus oedd enw'r ddinas gynt.
24ויראו השמרים איש יוצא מן העיר ויאמרו לו הראנו נא את מבוא העיר ועשינו עמך חסד׃
24 Pan welodd y gwylwyr ddyn yn dod allan o'r ddinas, dywedasant wrtho, "Dangos inni sut i fynd i mewn i'r ddinas, a byddwn yn garedig wrthyt."
25ויראם את מבוא העיר ויכו את העיר לפי חרב ואת האיש ואת כל משפחתו שלחו׃
25 Dangosodd iddynt fynedfa i'r ddinas; trawsant hwythau'r ddinas �'r cleddyf, ond gollwng y gu373?r a'i holl deulu yn rhydd.
26וילך האיש ארץ החתים ויבן עיר ויקרא שמה לוז הוא שמה עד היום הזה׃
26 Aeth yntau i wlad yr Hethiaid ac adeiladu tref yno, a'i henwi'n Lus; a dyna'i henw hyd heddiw.
27ולא הוריש מנשה את בית שאן ואת בנותיה ואת תענך ואת בנתיה ואת ישב דור ואת בנותיה ואת יושבי יבלעם ואת בנתיה ואת יושבי מגדו ואת בנותיה ויואל הכנעני לשבת בארץ הזאת׃
27 Ni feddiannodd Manasse Beth-sean na Taanach a'u maestrefi, na disodli trigolion Dor, Ibleam, na Megido a'u maestrefi; daliodd y Canaaneaid eu tir yn y rhan honno o'r wlad.
28ויהי כי חזק ישראל וישם את הכנעני למס והוריש לא הורישו׃
28 Ond pan gryfhaodd Israel, rhoesant y Canaaneaid dan lafur gorfod, heb eu disodli'n llwyr.
29ואפרים לא הוריש את הכנעני היושב בגזר וישב הכנעני בקרבו בגזר׃
29 Ni ddisodlodd Effraim y Canaaneaid oedd yn byw yn Geser; bu'r Canaaneaid yn byw yn eu mysg yn Geser.
30זבולן לא הוריש את יושבי קטרון ואת יושבי נהלל וישב הכנעני בקרבו ויהיו למס׃
30 Ni ddisodlodd Sabulon drigolion Citron na thrigolion Nahalol. Bu'r Canaaneaid yn byw yn eu mysg a than lafur gorfod.
31אשר לא הוריש את ישבי עכו ואת יושבי צידון ואת אחלב ואת אכזיב ואת חלבה ואת אפיק ואת רחב׃
31 Ni ddisodlodd Aser drigolion Acco na thrigolion Sidon, nac Ahlab, Achsib, Helba, Affec na Rehob.
32וישב האשרי בקרב הכנעני ישבי הארץ כי לא הורישו׃
32 Bu'r Aseriaid yn byw ymysg y Canaaneaid oedd yn trigo yn y wlad am nad oeddent wedi eu disodli.
33נפתלי לא הוריש את ישבי בית שמש ואת ישבי בית ענת וישב בקרב הכנעני ישבי הארץ וישבי בית שמש ובית ענת היו להם למס׃
33 Ni ddisodlodd Nafftali drigolion Beth-semes na thrigolion Beth-anath; buont yn byw ymysg y Canaaneaid oedd yn trigo yn y wlad, a bu trigolion Beth-semes a Beth-anath dan lafur gorfod iddynt.
34וילחצו האמרי את בני דן ההרה כי לא נתנו לרדת לעמק׃
34 Gwasgodd yr Amoriaid y Daniaid tua'r mynydd-dir oherwydd nid oeddent yn caniat�u iddynt ddod i lawr i'r gwastatir.
35ויואל האמרי לשבת בהר חרס באילון ובשעלבים ותכבד יד בית יוסף ויהיו למס׃
35 Daliodd yr Amoriaid eu tir ym Mynydd Heres ac Ajalon a Saalbim, ond pwysodd tylwyth Joseff yn drymach arnynt ac aethant dan lafur gorfod.
36וגבול האמרי ממעלה עקרבים מהסלע ומעלה׃
36 Yr oedd terfyn yr Amoriaid o riw Acrabbim, o Sela i fyny.