1ויקם אחרי אבימלך להושיע את ישראל תולע בן פואה בן דודו איש יששכר והוא ישב בשמיר בהר אפרים׃
1 Ar �l Abimelech, yr un a gododd i waredu Israel oedd Tola fab Pua, fab Dodo, dyn o Issachar a oedd yn byw yn Samir ym mynydd-dir Effraim.
2וישפט את ישראל עשרים ושלש שנה וימת ויקבר בשמיר׃
2 Bu'n farnwr ar Israel am dair blynedd ar hugain; a phan fu farw, claddwyd ef yn Samir.
3ויקם אחריו יאיר הגלעדי וישפט את ישראל עשרים ושתים שנה׃
3 Ar ei �l cododd Jair, brodor o Gilead. Bu'n farnwr ar Israel am ddwy flynedd ar hugain.
4ויהי לו שלשים בנים רכבים על שלשים עירים ושלשים עירים להם להם יקראו חות יאיר עד היום הזה אשר בארץ הגלעד׃
4 Yr oedd ganddo ddeg ar hugain o feibion a arferai farchogaeth ar ddeg ar hugain o asynnod; ac yr oedd ganddynt ddeg dinas ar hugain yn nhir Gilead; gelwir y rhain yn Hafoth-jair hyd heddiw.
5וימת יאיר ויקבר בקמון׃
5 Pan fu farw Jair, claddwyd ef yn Camon.
6ויספו בני ישראל לעשות הרע בעיני יהוה ויעבדו את הבעלים ואת העשתרות ואת אלהי ארם ואת אלהי צידון ואת אלהי מואב ואת אלהי בני עמון ואת אלהי פלשתים ויעזבו את יהוה ולא עבדוהו׃
6 Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac addoli'r Baalim a'r Astaroth, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid; gwrthodasant yr ARGLWYDD a pheidio �'i wasanaethu.
7ויחר אף יהוה בישראל וימכרם ביד פלשתים וביד בני עמון׃
7 Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a gwerthodd hwy i law'r Philistiaid a'r Ammoniaid.
8וירעצו וירצצו את בני ישראל בשנה ההיא שמנה עשרה שנה את כל בני ישראל אשר בעבר הירדן בארץ האמרי אשר בגלעד׃
8 Ysigodd y rheini'r Israeliaid a'u gormesu y flwyddyn honno; ac am ddeunaw mlynedd buont yn gormesu'r holl Israeliaid y tu hwnt i'r Iorddonen, yn Gilead yng ngwlad yr Amoriaid.
9ויעברו בני עמון את הירדן להלחם גם ביהודה ובבנימין ובבית אפרים ותצר לישראל מאד׃
9 Wedyn croesodd yr Ammoniaid dros yr Iorddonen i ryfela yn erbyn Jwda a Benjamin a thylwyth Effraim, a bu'n gyfyng iawn ar Israel.
10ויזעקו בני ישראל אל יהוה לאמר חטאנו לך וכי עזבנו את אלהינו ונעבד את הבעלים׃
10 Yna galwodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a dweud, "Yr ydym wedi pechu yn d'erbyn; yr ydym wedi gadael ein Duw ac addoli'r Baalim."
11ויאמר יהוה אל בני ישראל הלא ממצרים ומן האמרי ומן בני עמון ומן פלשתים׃
11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid, "Pan ormeswyd chwi gan yr Eifftiaid, Amoriaid, Ammoniaid, Philistiaid,
12וצידונים ועמלק ומעון לחצו אתכם ותצעקו אלי ואושיעה אתכם מידם׃
12 Sidoniaid, Amaleciaid, a Midianiaid, galwasoch arnaf fi, a gwaredais chwi o'u gafael.
13ואתם עזבתם אותי ותעבדו אלהים אחרים לכן לא אוסיף להושיע אתכם׃
13 Ond yr ydych wedi fy ngadael i a gwasanaethu duwiau eraill, ac am hynny nid wyf am eich gwaredu rhagor.
14לכו וזעקו אל האלהים אשר בחרתם בם המה יושיעו לכם בעת צרתכם׃
14 Ewch a galwch ar y duwiau yr ydych wedi eu dewis; bydded iddynt hwy eich gwaredu chwi yn awr eich cyfyngdra."
15ויאמרו בני ישראל אל יהוה חטאנו עשה אתה לנו ככל הטוב בעיניך אך הצילנו נא היום הזה׃
15 Yna dywedodd yr Israeliaid wrth yr ARGLWYDD, "Yr ydym wedi pechu; gwna inni beth bynnag a weli'n dda, ond eto gwared ni y tro hwn."
16ויסירו את אלהי הנכר מקרבם ויעבדו את יהוה ותקצר נפשו בעמל ישראל׃
16 Bwriasant y duwiau dieithr allan o'u plith, a gwasanaethu'r ARGLWYDD, ac ni allai yntau oddef adfyd Israel yn hwy.
17ויצעקו בני עמון ויחנו בגלעד ויאספו בני ישראל ויחנו במצפה׃
17 Pan alwodd yr Ammoniaid eu milwyr ynghyd a gwersyllu yn Gilead, ymgasglodd yr Israeliaid hefyd a gwersyllu yn Mispa.
18ויאמרו העם שרי גלעד איש אל רעהו מי האיש אשר יחל להלחם בבני עמון יהיה לראש לכל ישבי גלעד׃
18 Dywedodd swyddogion byddin Gilead wrth ei gilydd, "Pwy bynnag fydd yn dechrau'r ymladd �'r Ammoniaid, ef fydd yn ben ar holl drigolion Gilead."