1וירד שמשון תמנתה וירא אשה בתמנתה מבנות פלשתים׃
1 Aeth Samson i Timna, ac yno sylwodd ar un o ferched y Philistiaid.
2ויעל ויגד לאביו ולאמו ויאמר אשה ראיתי בתמנתה מבנות פלשתים ועתה קחו אותה לי לאשה׃
2 Pan ddychwelodd, dywedodd wrth ei dad a'i fam, "Yr wyf wedi gweld un o ferched y Philistiaid yn Timna; cymerwch honno'n wraig imi."
3ויאמר לו אביו ואמו האין בבנות אחיך ובכל עמי אשה כי אתה הולך לקחת אשה מפלשתים הערלים ויאמר שמשון אל אביו אותה קח לי כי היא ישרה בעיני׃
3 Ac meddai ei dad a'i fam wrtho, "Onid oes gwraig iti ymhlith merched dy gymrodyr a'th holl geraint? Pam yr ei i geisio gwraig o blith y Philistiaid dienwaededig?" Ond dywedodd Samson wrth ei dad, "Cymer honno imi, oherwydd hi sydd wrth fy modd."
4ואביו ואמו לא ידעו כי מיהוה היא כי תאנה הוא מבקש מפלשתים ובעת ההיא פלשתים משלים בישראל׃
4 Ni wyddai ei dad a'i fam mai oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd hyn, ac mai ceisio achos yn erbyn y Philistiaid yr oedd ef. Yr adeg honno y Philistiaid oedd yn arglwyddiaethu ar Israel.
5וירד שמשון ואביו ואמו תמנתה ויבאו עד כרמי תמנתה והנה כפיר אריות שאג לקראתו׃
5 Aeth Samson i lawr gyda'i dad a'i fam i Timna, a phan gyrhaeddodd winllannoedd Timna, daeth llew ifanc i'w gyfarfod dan ruo.
6ותצלח עליו רוח יהוה וישסעהו כשסע הגדי ומאומה אין בידו ולא הגיד לאביו ולאמו את אשר עשה׃
6 Disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Samson, a holltodd y llew ifanc fel hollti myn, heb ddim yn ei law; ond ni ddywedodd wrth ei rieni beth a wnaeth.
7וירד וידבר לאשה ותישר בעיני שמשון׃
7 Yna aeth Samson yn ei flaen i siarad gyda'r ferch, a'i chael wrth ei fodd.
8וישב מימים לקחתה ויסר לראות את מפלת האריה והנה עדת דבורים בגוית האריה ודבש׃
8 Pan ddych-welodd ymhen amser i'w phriodi, trodd i edrych ar ysgerbwd y llew, a dyna lle'r oedd haid o wenyn a m�l y tu mewn i'r corff.
9וירדהו אל כפיו וילך הלוך ואכל וילך אל אביו ואל אמו ויתן להם ויאכלו ולא הגיד להם כי מגוית האריה רדה הדבש׃
9 Cymerodd beth o'r m�l yn ei law, ac aeth yn ei flaen dan fwyta, nes dod at ei dad a'i fam; rhoddodd beth hefyd iddynt hwy i'w fwyta, heb ddweud wrthynt mai o gorff y llew y daeth y m�l.
10וירד אביהו אל האשה ויעש שם שמשון משתה כי כן יעשו הבחורים׃
10 Aeth ei dad i lawr at y ferch, a gwnaeth Samson wledd yno yn �l arfer y gwu375?r ifainc.
11ויהי כראותם אותו ויקחו שלשים מרעים ויהיו אתו׃
11 Pan welsant ef, dewiswyd deg ar hugain o gyfeillion i gadw cwmni iddo.
12ויאמר להם שמשון אחודה נא לכם חידה אם הגד תגידו אותה לי שבעת ימי המשתה ומצאתם ונתתי לכם שלשים סדינים ושלשים חלפת בגדים׃
12 Ac meddai Samson wrthynt, "Yr wyf am osod pos i chwi; os llwyddwch i'w ateb yn gywir yn ystod saith diwrnod y wledd, rhof i chwi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad.
13ואם לא תוכלו להגיד לי ונתתם אתם לי שלשים סדינים ושלשים חליפות בגדים ויאמרו לו חודה חידתך ונשמענה׃
13 Ond os methwch roi'r ateb imi, rhaid i chwi roi i mi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad."
14ויאמר להם מהאכל יצא מאכל ומעז יצא מתוק ולא יכלו להגיד החידה שלשת ימים׃
14 Dywedasant wrtho, "Mynega dy bos, inni ei glywed." A dywedodd wrthynt: "o'r bwytawr fe ddaeth bwyd, ac o'r cryf fe ddaeth melystra." Am dridiau buont yn methu ateb y pos.
15ויהי ביום השביעי ויאמרו לאשת שמשון פתי את אישך ויגד לנו את החידה פן נשרף אותך ואת בית אביך באש הלירשנו קראתם לנו הלא׃
15 Ar y pedwerydd dydd dywedasant wrth wraig Samson, "Huda dy u373?r i ddatgelu'r pos inni, neu fe'th losgwn di a'th deulu. Ai er mwyn ein tlodi y rhoesoch wahoddiad inni yma?"
16ותבך אשת שמשון עליו ותאמר רק שנאתני ולא אהבתני החידה חדת לבני עמי ולי לא הגדתה ויאמר לה הנה לאבי ולאמי לא הגדתי ולך אגיד׃
16 Aeth gwraig Samson ato yn ei dagrau a dweud, "Fy nghas�u yr wyt ti, nid fy ngharu; rwyt wedi gosod pos i lanciau fy mhobl heb ei egluro i mi." Ac meddai yntau, "Nid wyf wedi ei egluro i'm tad a'm mam; pam yr eglurwn ef i ti?"
17ותבך עליו שבעת הימים אשר היה להם המשתה ויהי ביום השביעי ויגד לה כי הציקתהו ותגד החידה לבני עמה׃
17 Bu'n wylo wrtho trwy gydol y saith diwrnod y cynhaliwyd y wledd, ac ar y seithfed dydd fe'i heglurodd iddi, am ei bod wedi ei flino. Eglurodd hithau'r pos i lanciau ei phobl.
18ויאמרו לו אנשי העיר ביום השביעי בטרם יבא החרסה מה מתוק מדבש ומה עז מארי ויאמר להם לולא חרשתם בעגלתי לא מצאתם חידתי׃
18 A dywedodd dynion y dref wrtho ar y seithfed diwrnod, cyn i'r haul fachlud: "Beth sy'n felysach na m�l, a beth sy'n gryfach na llew?" Dywedodd yntau wrthynt: "Oni bai i chwi aredig �'m heffer, ni fyddech wedi datrys fy mhos."
19ותצלח עליו רוח יהוה וירד אשקלון ויך מהם שלשים איש ויקח את חליצותם ויתן החליפות למגידי החידה ויחר אפו ויעל בית אביהו׃
19 Yna disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD arno, aeth i lawr i Ascalon a lladdodd ddeg ar hugain o ddynion. Cymerodd eu gwisgoedd a rhoi'r siwtiau i'r rhai a atebodd y pos, ond yr oedd wedi digio'n enbyd ac aeth yn ei �l adref.
20ותהי אשת שמשון למרעהו אשר רעה לו׃
20 Rhoddwyd gwraig Samson i'w gyfaill, a fu'n was priodas iddo.