1בימים ההם אין מלך בישראל ובימים ההם שבט הדני מבקש לו נחלה לשבת כי לא נפלה לו עד היום ההוא בתוך שבטי ישראל בנחלה׃
1 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr adeg honno yr oedd llwyth Dan yn chwilio am randir i fyw ynddo, oherwydd hyd hynny nid oeddent wedi cael rhandir ymhlith llwythau Israel.
2וישלחו בני דן ממשפחתם חמשה אנשים מקצותם אנשים בני חיל מצרעה ומאשתאל לרגל את הארץ ולחקרה ויאמרו אלהם לכו חקרו את הארץ ויבאו הר אפרים עד בית מיכה וילינו שם׃
2 Anfonodd y Daniaid bump o ddynion teilwng ar ran y llwyth cyfan, i fynd o Sora ac Estaol i ysb�o'r wlad a'i chwilio. Wedi iddynt dderbyn y gorchymyn i fynd i chwilio'r wlad, aethant cyn belled � thu375? Mica ym mynydd-dir Effraim, a threulio'r nos yno.
3המה עם בית מיכה והמה הכירו את קול הנער הלוי ויסורו שם ויאמרו לו מי הביאך הלם ומה אתה עשה בזה ומה לך פה׃
3 Pan oeddent gerllaw tu375? Mica, dyma hwy'n adnabod llais y llanc o Lefiad; troesant i mewn a gofyn iddo, "Pwy ddaeth � thi yma? Beth wyt ti'n ei wneud yn y fan hon? Pa fusnes sydd gennyt yma?"
4ויאמר אלהם כזה וכזה עשה לי מיכה וישכרני ואהי לו לכהן׃
4 Eglurodd sut yr oedd Mica wedi gweithredu gydag ef: "Y mae wedi fy nghyflogi, ac yr wyf finnau wedi dod yn offeiriad iddo."
5ויאמרו לו שאל נא באלהים ונדעה התצליח דרכנו אשר אנחנו הלכים עליה׃
5 Dywedasant wrtho, "Gofyn i Dduw, inni gael gwybod a lwyddwn ar ein taith."
6ויאמר להם הכהן לכו לשלום נכח יהוה דרככם אשר תלכו בה׃
6 Dywedodd yr offeiriad wrthynt, "Ewch mewn heddwch; y mae'ch taith dan ofal yr ARGLWYDD."
7וילכו חמשת האנשים ויבאו לישה ויראו את העם אשר בקרבה יושבת לבטח כמשפט צדנים שקט ובטח ואין מכלים דבר בארץ יורש עצר ורחקים המה מצדנים ודבר אין להם עם אדם׃
7 Aeth y pump i ffwrdd, a chyrraedd Lais. Yno gwelsant fod y bobl yn byw'n ddiogel, yr un fath �'r Sidoniaid, yn dawel a dibryder, heb fod yn brin o ddim ar y ddaear, ond yn berchnogion ar gyfoeth. Yr oeddent yn bell oddi wrth y Sidoniaid, heb gysylltiad rhyngddynt a neb.
8ויבאו אל אחיהם צרעה ואשתאל ויאמרו להם אחיהם מה אתם׃
8 Wedi iddynt ddychwelyd at eu pobl i Sora ac Estaol, gofynnodd eu pobl, "Beth yw'ch barn?"
9ויאמרו קומה ונעלה עליהם כי ראינו את הארץ והנה טובה מאד ואתם מחשים אל תעצלו ללכת לבא לרשת את הארץ׃
9 Ac meddent hwy, "Dewch, awn i fyny yn eu herbyn, oherwydd gwelsom fod y wlad yn ffrwythlon iawn. Pam yr ydych yn sefyllian? Peidiwch ag oedi mynd yno i gymryd meddiant o'r wlad.
10כבאכם תבאו אל עם בטח והארץ רחבת ידים כי נתנה אלהים בידכם מקום אשר אין שם מחסור כל דבר אשר בארץ׃
10 Pan ddewch yno, byddwch yn dod at bobl ddibryder ac i wlad eang; yn wir y mae Duw wedi rhoi i chwi le heb ynddo brinder o ddim ar y ddaear."
11ויסעו משם ממשפחת הדני מצרעה ומאשתאל שש מאות איש חגור כלי מלחמה׃
11 Felly cychwynnodd chwe chant o wu375?r arfog yn perthyn i lwyth Dan o Sora ac Estaol.
12ויעלו ויחנו בקרית יערים ביהודה על כן קראו למקום ההוא מחנה דן עד היום הזה הנה אחרי קרית יערים׃
12 Aethant a gwersyllu yn Ciriath-jearim yn Jwda, a dyna pam yr enwyd y lle hwnnw Mahane-dan hyd heddiw; y mae i'r gorllewin o Ciriath-jearim.
13ויעברו משם הר אפרים ויבאו עד בית מיכה׃
13 Oddi yno aethant ymlaen i fynydd-dir Effraim nes dod at du375? Mica.
14ויענו חמשת האנשים ההלכים לרגל את הארץ ליש ויאמרו אל אחיהם הידעתם כי יש בבתים האלה אפוד ותרפים ופסל ומסכה ועתה דעו מה תעשו׃
14 Yna dywedodd y pump, a oedd wedi mynd i ysb�o'r wlad cyn belled � Lais, wrth eu brodyr, "A wyddoch chwi fod effod, teraffim, cerfddelw a delw dawdd yn un o'r tai hyn? Gwyddoch beth i'w wneud yn awr."
15ויסורו שמה ויבאו אל בית הנער הלוי בית מיכה וישאלו לו לשלום׃
15 Troesant am y lle, a dod at du375? Mica, cartref y llanc o Lefiad, a'i gyfarch.
16ושש מאות איש חגורים כלי מלחמתם נצבים פתח השער אשר מבני דן׃
16 Safodd y chwe channwr arfog o lwyth Dan wrth y drws,
17ויעלו חמשת האנשים ההלכים לרגל את הארץ באו שמה לקחו את הפסל ואת האפוד ואת התרפים ואת המסכה והכהן נצב פתח השער ושש מאות האיש החגור כלי המלחמה׃
17 tra aeth y pum dyn oedd wedi bod yn ysb�o'r wlad i mewn i gymryd y gerfddelw, yr effod, y teraffim a'r ddelw dawdd. Safai'r offeiriad wrth y drws gyda'r chwe channwr arfog.
18ואלה באו בית מיכה ויקחו את פסל האפוד ואת התרפים ואת המסכה ויאמר אליהם הכהן מה אתם עשים׃
18 Wedi i'r rhain fynd i mewn i du375? Mica a chymryd y gerfddelw, yr effod, y teraffim a'r ddelw dawdd, dywedodd yr offeiriad wrthynt, "Beth ydych yn ei wneud?"
19ויאמרו לו החרש שים ידך על פיך ולך עמנו והיה לנו לאב ולכהן הטוב היותך כהן לבית איש אחד או היותך כהן לשבט ולמשפחה בישראל׃
19 Dywedasant hwythau wrtho, "Taw di, a phaid � dweud dim. Tyrd gyda ni, a bydd yn dad ac yn offeiriad i ni. Prun sydd orau, ai bod yn offeiriad i un teulu, ynteu'n offeiriad i lwyth a thylwyth yn Israel?"
20וייטב לב הכהן ויקח את האפוד ואת התרפים ואת הפסל ויבא בקרב העם׃
20 Bodlonodd yr offeiriad a chymerodd yr effod, y teraffim a'r gerfddelw, ac ymuno �'r fintai.
21ויפנו וילכו וישימו את הטף ואת המקנה ואת הכבודה לפניהם׃
21 Wedi iddynt ailgychwyn, gosodasant y rhai bychain a'r preiddiau a'r meddiannau ar y blaen.
22המה הרחיקו מבית מיכה והאנשים אשר בבתים אשר עם בית מיכה נזעקו וידביקו את בני דן׃
22 Yr oeddent wedi mynd gryn bellter o du375? Mica cyn i'r dynion yn y tai gerllaw ei gartref gael eu galw ynghyd i ymlid y Daniaid.
23ויקראו אל בני דן ויסבו פניהם ויאמרו למיכה מה לך כי נזעקת׃
23 Wedi iddynt oddiweddyd y Daniaid, troesant hwythau i'w hwynebu, ac meddent wrth Mica, "Beth sy'n bod, i beri iti ddod �'r fath fintai?"
24ויאמר את אלהי אשר עשיתי לקחתם ואת הכהן ותלכו ומה לי עוד ומה זה תאמרו אלי מה לך׃
24 Atebodd Mica, "Yr ydych wedi cymryd y duwiau a wneuthum, ac wedi mynd �'m hoffeiriad; a beth arall sydd gennyf? Sut felly y gallwch ofyn imi, 'Beth sy'n bod arnat?'"
25ויאמרו אליו בני דן אל תשמע קולך עמנו פן יפגעו בכם אנשים מרי נפש ואספתה נפשך ונפש ביתך׃
25 Ac meddai'r Daniaid wrtho, "Paid � chodi dy lais arnom, rhag i ddynion gwyllt eu tymer ruthro arnoch, ac i ti a'th deulu golli'ch bywyd."
26וילכו בני דן לדרכם וירא מיכה כי חזקים המה ממנו ויפן וישב אל ביתו׃
26 Yna aeth y Daniaid ar eu ffordd, a gwelodd Mica eu bod yn gryfach nag ef, a throes yn �l a mynd adref.
27והמה לקחו את אשר עשה מיכה ואת הכהן אשר היה לו ויבאו על ליש על עם שקט ובטח ויכו אותם לפי חרב ואת העיר שרפו באש׃
27 Cymerodd y Daniaid y pethau yr oedd Mica wedi eu gwneud, a'i offeiriad, ac aethant i Lais, at bobl dawel a dibryder, a'u lladd �'r cleddyf a llosgi'r dref.
28ואין מציל כי רחוקה היא מצידון ודבר אין להם עם אדם והיא בעמק אשר לבית רחוב ויבנו את העיר וישבו בה׃
28 Nid oedd neb i'w harbed, oherwydd yr oedd yn rhy bell o Sidon, ac nid oedd ganddynt gysylltiad � neb. Yr oedd y dref mewn dyffryn yn perthyn i Beth-rehob, ac ailgododd y Daniaid y dref a byw ynddi,
29ויקראו שם העיר דן בשם דן אביהם אשר יולד לישראל ואולם ליש שם העיר לראשנה׃
29 a'i galw'n Dan ar �l eu tad Dan, a aned i Israel. Ond Lais oedd enw'r dref ar y cyntaf.
30ויקימו להם בני דן את הפסל ויהונתן בן גרשם בן מנשה הוא ובניו היו כהנים לשבט הדני עד יום גלות הארץ׃
30 Gosododd y Daniaid y gerfddelw i fyny, a bu Jonathan fab Gersom, fab Manasse, ac yna'i feibion, yn offeiriaid i lwyth Dan hyd y dydd y caethgludwyd y wlad.
31וישימו להם את פסל מיכה אשר עשה כל ימי היות בית האלהים בשלה׃
31 Yr oeddent yn defnyddio'r gerfddelw a wnaeth Mica yr holl adeg y bu tu375? Dduw yn Seilo.