1ואיש ישראל נשבע במצפה לאמר איש ממנו לא יתן בתו לבנימן לאשה׃
1 Yr oedd yr Israeliaid wedi tyngu yn Mispa na fyddai neb ohonynt yn rhoi ei ferch yn wraig i Benjaminiad.
2ויבא העם בית אל וישבו שם עד הערב לפני האלהים וישאו קולם ויבכו בכי גדול׃
2 Wedi i'r bobl ddod i Fethel ac eistedd yno gerbron Duw hyd yr hwyr, dechreusant wylo'n hidl,
3ויאמרו למה יהוה אלהי ישראל היתה זאת בישראל להפקד היום מישראל שבט אחד׃
3 a dweud, "Pam, O ARGLWYDD Dduw Israel, y digwyddodd hyn i Israel, bod un llwyth heddiw yn eisiau?"
4ויהי ממחרת וישכימו העם ויבנו שם מזבח ויעלו עלות ושלמים׃
4 Trannoeth, wedi i'r bobl godi'n fore, codasant yno allor ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau.
5ויאמרו בני ישראל מי אשר לא עלה בקהל מכל שבטי ישראל אל יהוה כי השבועה הגדולה היתה לאשר לא עלה אל יהוה המצפה לאמר מות יומת׃
5 Yna dywedodd yr Israeliaid, "Pwy o holl lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i'r cynulliad?" Oherwydd yr oedd llw difrifol wedi ei dyngu y byddai'r sawl na dd�i i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa yn sicr o gael ei roi i farwolaeth.
6וינחמו בני ישראל אל בנימן אחיו ויאמרו נגדע היום שבט אחד מישראל׃
6 Gofidiodd yr Israeliaid am eu perthynas Benjamin, a dweud, "Y mae un llwyth wedi ei dorri allan o Israel heddiw.
7מה נעשה להם לנותרים לנשים ואנחנו נשבענו ביהוה לבלתי תת להם מבנותינו לנשים׃
7 Beth a wnawn ni dros y dynion sydd ar �l, a ninnau wedi tyngu i'r ARGLWYDD na roddem iddynt yr un o'n merched yn wraig?"
8ויאמרו מי אחד משבטי ישראל אשר לא עלה אל יהוה המצפה והנה לא בא איש אל המחנה מיביש גלעד אל הקהל׃
8 Ac meddent, "Prun o lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa?" Nid oedd neb o Jabes-gilead wedi dod i'r gwersyll i'r cynulliad.
9ויתפקד העם והנה אין שם איש מיושבי יבש גלעד׃
9 Pan gyfrifwyd y bobl, nid oedd yno neb o drigolion Jabes-gilead.
10וישלחו שם העדה שנים עשר אלף איש מבני החיל ויצוו אותם לאמר לכו והכיתם את יושבי יבש גלעד לפי חרב והנשים והטף׃
10 Felly anfonodd y cynulliad ddeuddeng mil o wu375?r rhyfel yno, a gorchymyn iddynt, "Ewch a lladdwch drigolion Jabes-gilead �'r cleddyf, yn cynnwys y gwragedd a'r plant.
11וזה הדבר אשר תעשו כל זכר וכל אשה ידעת משכב זכר תחרימו׃
11 A dyma'r hyn a wnewch: dinistriwch yn llwyr bob dyn, a phob dynes nad yw'n wyryf."
12וימצאו מיושבי יביש גלעד ארבע מאות נערה בתולה אשר לא ידעה איש למשכב זכר ויביאו אותם אל המחנה שלה אשר בארץ כנען׃
12 Cawsant ymhlith Jabes-gilead bedwar cant o wyryfon nad oeddent wedi gorwedd gyda dyn; a daethant � hwy i'r gwersyll i Seilo yng ngwlad Canaan.
13וישלחו כל העדה וידברו אל בני בנימן אשר בסלע רמון ויקראו להם שלום׃
13 Anfonodd y cynulliad cyfan neges at y Benjaminiaid oedd yng nghraig Rimmon, a chynnig heddwch iddynt.
14וישב בנימן בעת ההיא ויתנו להם הנשים אשר חיו מנשי יבש גלעד ולא מצאו להם כן׃
14 Yna, wedi iddynt ddychwelyd, rhoesant iddynt y merched o Jabes-gilead yr oeddent wedi eu harbed. Eto nid oedd hynny'n ddigon ar eu cyfer.
15והעם נחם לבנימן כי עשה יהוה פרץ בשבטי ישראל׃
15 A chan fod y bobl yn gofidio am Benjamin, am i'r ARGLWYDD wneud bwlch yn llwythau Israel,
16ויאמרו זקני העדה מה נעשה לנותרים לנשים כי נשמדה מבנימן אשה׃
16 dywedodd henuriaid y cynulliad, "Beth a wnawn am wragedd i'r gweddill, gan fod y merched wedi eu difa o blith Benjamin?"
17ויאמרו ירשת פליטה לבנימן ולא ימחה שבט מישראל׃
17 Ac meddent, "Rhaid cael etifeddion i'r rhai o Benjamin a arbedwyd, rhag dileu llwyth o Israel.
18ואנחנו לא נוכל לתת להם נשים מבנותינו כי נשבעו בני ישראל לאמר ארור נתן אשה לבנימן׃
18 Ni allwn roi iddynt wragedd o blith ein merched ni, am fod yr Israeliaid wedi tyngu, 'Melltigedig fyddo'r hwn a roddo wraig i Benjamin.'"
19ויאמרו הנה חג יהוה בשלו מימים ימימה אשר מצפונה לבית אל מזרחה השמש למסלה העלה מבית אל שכמה ומנגב ללבונה׃
19 A dyna hwy'n dweud, "Y mae gu373?yl i'r ARGLWYDD bob blwyddyn yn Seilo, o du'r gogledd i Fethel, ac i'r dwyrain o'r briffordd sy'n arwain o Fethel i Sichem, i'r de o Lebona."
20ויצו את בני בנימן לאמר לכו וארבתם בכרמים׃
20 A rhoesant orchymyn i'r Benjaminiaid, "Ewch ac ymguddiwch yn y gwinllannoedd,
21וראיתם והנה אם יצאו בנות שילו לחול במחלות ויצאתם מן הכרמים וחטפתם לכם איש אשתו מבנות שילו והלכתם ארץ בנימן׃
21 a gwyliwch. A phan ddaw merched Seilo allan i ddawnsio, rhuthrwch allan o'r gwinllannoedd a chipiwch bob un wraig o'u plith, ac yna dewch yn �l i dir Benjamin.
22והיה כי יבאו אבותם או אחיהם לרוב אלינו ואמרנו אליהם חנונו אותם כי לא לקחנו איש אשתו במלחמה כי לא אתם נתתם להם כעת תאשמו׃
22 Ac os daw eu hynafiaid neu eu brodyr atom i achwyn, fe ddywedwn wrthynt, 'Byddwch yn rasol wrthynt, oherwydd ni chawsom wragedd iddynt trwy ryfel; ac nid chwi sydd wedi eu rhoi hwy iddynt, felly rydych chwi'n ddieuog.'"
23ויעשו כן בני בנימן וישאו נשים למספרם מן המחללות אשר גזלו וילכו וישובו אל נחלתם ויבנו את הערים וישבו בהם׃
23 Gwnaeth y Benjaminiaid hyn, ac wedi i bob un gael gwraig o blith y dawnswyr yr oeddent wedi eu cipio, aethant yn �l i'w tiriogaeth ac ailadeiladu'r trefi a byw ynddynt.
24ויתהלכו משם בני ישראל בעת ההיא איש לשבטו ולמשפחתו ויצאו משם איש לנחלתו׃
24 Dychwelodd yr Israeliaid hefyd yr un pryd i'w tiriogaeth, a phob un yn mynd yn �l at ei lwyth a'i deulu ei hun.
25בימים ההם אין מלך בישראל איש הישר בעיניו יעשה׃
25 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr oedd pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.