Hebrew: Modern

Welsh

Leviticus

21

1ויאמר יהוה אל משה אמר אל הכהנים בני אהרן ואמרת אלהם לנפש לא יטמא בעמיו׃
1 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, "Llefara wrth yr offeiriaid, meibion Aaron, a dywed wrthynt, 'Nid yw offeiriad i'w halogi ei hun am farw yr un o'i dylwyth,
2כי אם לשארו הקרב אליו לאמו ולאביו ולבנו ולבתו ולאחיו׃
2 ac eithrio ei deulu agosaf, megis ei fam, ei dad, ei fab, ei ferch, ei frawd,
3ולאחתו הבתולה הקרובה אליו אשר לא היתה לאיש לה יטמא׃
3 neu ei chwaer ddi-briod, sy'n agos ato am nad oes ganddi u373?r.
4לא יטמא בעל בעמיו להחלו׃
4 Fel pennaeth ymysg ei dylwyth nid yw i'w halogi ei hun na'i wneud ei hun yn aflan.
5לא יקרחה קרחה בראשם ופאת זקנם לא יגלחו ובבשרם לא ישרטו שרטת׃
5 "'Nid yw offeiriaid i eillio'r pen yn foel nac i dorri ymylon y farf nac i wneud toriadau ar y cnawd.
6קדשים יהיו לאלהיהם ולא יחללו שם אלהיהם כי את אשי יהוה לחם אלהיהם הם מקריבם והיו קדש׃
6 Byddant yn sanctaidd i'w Duw, ac nid ydynt i halogi ei enw; am eu bod yn cyflwyno offrymau trwy d�n i'r ARGLWYDD, sef bwyd eu Duw, fe fyddant yn sanctaidd.
7אשה זנה וחללה לא יקחו ואשה גרושה מאישה לא יקחו כי קדש הוא לאלהיו׃
7 Nid ydynt i briodi putain, nac un wedi colli ei gwyryfdod, na gwraig wedi ei hysgaru oddi wrth ei gu373?r; oherwydd y maent yn sanctaidd i'r ARGLWYDD.
8וקדשתו כי את לחם אלהיך הוא מקריב קדש יהיה לך כי קדוש אני יהוה מקדשכם׃
8 Yr wyt i'w hystyried yn sanctaidd, oherwydd eu bod yn cyflwyno bwyd dy Dduw; byddant yn sanctaidd i ti, oherwydd sanctaidd ydwyf fi, yr ARGLWYDD, sy'n eich sancteiddio.
9ובת איש כהן כי תחל לזנות את אביה היא מחללת באש תשרף׃
9 Os bydd merch i offeiriad yn ei halogi ei hun trwy fynd yn butain, y mae'n halogi ei thad; rhaid ei llosgi yn y t�n.
10והכהן הגדול מאחיו אשר יוצק על ראשו שמן המשחה ומלא את ידו ללבש את הבגדים את ראשו לא יפרע ובגדיו לא יפרם׃
10 "'Am yr archoffeiriad, yr un o blith ei frodyr y tywalltwyd olew'r eneinio ar ei ben ac a ordeiniwyd i wisgo'r dillad, nid yw ef i noethi ei ben na rhwygo'i ddillad.
11ועל כל נפשת מת לא יבא לאביו ולאמו לא יטמא׃
11 Nid yw i fynd i mewn at gorff marw, na'i halogi ei hun hyd yn oed er mwyn ei dad na'i fam.
12ומן המקדש לא יצא ולא יחלל את מקדש אלהיו כי נזר שמן משחת אלהיו עליו אני יהוה׃
12 Nid yw i fynd allan o'r cysegr, rhag iddo halogi cysegr ei Dduw, oherwydd fe'i cysegrwyd ag olew eneinio ei Dduw. Myfi yw'r ARGLWYDD.
13והוא אשה בבתוליה יקח׃
13 Y mae i briodi gwyryf yn wraig.
14אלמנה וגרושה וחללה זנה את אלה לא יקח כי אם בתולה מעמיו יקח אשה׃
14 Nid yw i gymryd gweddw, un wedi ei hysgaru, nac un wedi ei halogi trwy buteindra, ond y mae i gymryd yn wraig wyryf o blith ei dylwyth,
15ולא יחלל זרעו בעמיו כי אני יהוה מקדשו׃
15 rhag iddo halogi ei had ymysg ei bobl. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n ei sancteiddio.'"
16וידבר יהוה אל משה לאמר׃
16 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
17דבר אל אהרן לאמר איש מזרעך לדרתם אשר יהיה בו מום לא יקרב להקריב לחם אלהיו׃
17 "Dywed wrth Aaron, 'Dros y cenedlaethau i ddod nid oes yr un o'th ddisgynyddion sydd � nam arno i ddod a chyflwyno bwyd ei Dduw.
18כי כל איש אשר בו מום לא יקרב איש עור או פסח או חרם או שרוע׃
18 Nid oes neb ag unrhyw nam arno i ddynesu, boed yn ddall, yn gloff, wedi ei anffurfio neu ei hagru,
19או איש אשר יהיה בו שבר רגל או שבר יד׃
19 yn ddyn gydag anaf ar ei droed neu ei law,
20או גבן או דק או תבלל בעינו או גרב או ילפת או מרוח אשך׃
20 yn wargam neu'n gorrach, gyda nam ar ei lygad, crach, doluriau neu geilliau briwedig.
21כל איש אשר בו מום מזרע אהרן הכהן לא יגש להקריב את אשי יהוה מום בו את לחם אלהיו לא יגש להקריב׃
21 Nid yw'r un o ddisgynyddion Aaron yr offeiriad sydd � nam arno i ddynesu i gyflwyno offrymau trwy d�n i'r ARGLWYDD; am fod nam arno, nid yw i ddynesu i gyflwyno bwyd ei Dduw.
22לחם אלהיו מקדשי הקדשים ומן הקדשים יאכל׃
22 Caiff fwyta bwyd ei Dduw o'r offrymau sanctaidd a'r offrymau sancteiddiaf,
23אך אל הפרכת לא יבא ואל המזבח לא יגש כי מום בו ולא יחלל את מקדשי כי אני יהוה מקדשם׃
23 ond oherwydd bod nam arno ni chaiff fynd at y llen na dynesu at yr allor, rhag iddo halogi fy nghysegr. Myfi yw'r ARGLWYDD sy'n eu sancteiddio.'"
24וידבר משה אל אהרן ואל בניו ואל כל בני ישראל׃
24 Fel hyn y dywedodd Moses wrth Aaron a'i feibion ac wrth holl bobl Israel.