Hebrew: Modern

Welsh

Leviticus

24

1וידבר יהוה אל משה לאמר׃
1 Llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
2צו את בני ישראל ויקחו אליך שמן זית זך כתית למאור להעלת נר תמיד׃
2 "Gorchymyn i bobl Israel ddod ag olew pur o olifiau wedi eu gwasgu, a'i roi iti ar gyfer y goleuni, er mwyn cadw'r lamp ynghynn bob amser.
3מחוץ לפרכת העדת באהל מועד יערך אתו אהרן מערב עד בקר לפני יהוה תמיד חקת עולם לדרתיכם׃
3 Y tu allan i len y dystiolaeth ym mhabell y cyfarfod y mae Aaron i ofalu bob amser am lamp o flaen yr ARGLWYDD o'r cyfnos hyd y bore; y mae hon yn ddeddf dragwyddol dros y cenedlaethau.
4על המנרה הטהרה יערך את הנרות לפני יהוה תמיד׃
4 Y mae'n rhaid gofalu bob amser am y lampau yn y canhwyllbren aur o flaen yr ARGLWYDD.
5ולקחת סלת ואפית אתה שתים עשרה חלות שני עשרנים יהיה החלה האחת׃
5 "Cymer beilliaid a phobi deuddeg torth, a phob torth yn bumed ran o effa.
6ושמת אותם שתים מערכות שש המערכת על השלחן הטהר לפני יהוה׃
6 Gosod hwy'n ddwy res, chwech ymhob rhes, ar y bwrdd aur o flaen yr ARGLWYDD.
7ונתת על המערכת לבנה זכה והיתה ללחם לאזכרה אשה ליהוה׃
7 Rho thus pur ar y ddwy res, iddo fod ar y bara yn goffa ac yn aberth trwy d�n i'r ARGLWYDD.
8ביום השבת ביום השבת יערכנו לפני יהוה תמיד מאת בני ישראל ברית עולם׃
8 Rhaid gosod y bara hwn o flaen yr ARGLWYDD bob amser, Saboth ar �l Saboth, yn gyfamod tragwyddol ar ran pobl Israel.
9והיתה לאהרן ולבניו ואכלהו במקום קדש כי קדש קדשים הוא לו מאשי יהוה חק עולם׃
9 Bydd yn eiddo i Aaron a'i feibion, a byddant yn ei fwyta mewn lle sanctaidd, oherwydd dyma'r rhan sancteiddiaf o'r offrymau trwy d�n i'r ARGLWYDD trwy ddeddf dragwyddol."
10ויצא בן אשה ישראלית והוא בן איש מצרי בתוך בני ישראל וינצו במחנה בן הישראלית ואיש הישראלי׃
10 Yr oedd mab i wraig o Israel, a'i dad yn Eifftiwr, yn ymdeithio ymhlith pobl Israel, a chododd cynnen yn y gwersyll rhyngddo ef ac un o waed Israelig pur.
11ויקב בן האשה הישראלית את השם ויקלל ויביאו אתו אל משה ושם אמו שלמית בת דברי למטה דן׃
11 Cablodd mab y wraig o Israel enw Duw trwy felltithio, a daethant ag ef at Moses. Enw ei fam oedd Selomith ferch Dibri o lwyth Dan.
12ויניחהו במשמר לפרש להם על פי יהוה׃
12 Rhoddwyd ef yng ngharchar nes iddynt gael gwybod ewyllys yr ARGLWYDD.
13וידבר יהוה אל משה לאמר׃
13 A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
14הוצא את המקלל אל מחוץ למחנה וסמכו כל השמעים את ידיהם על ראשו ורגמו אתו כל העדה׃
14 "Dos �'r sawl a gablodd y tu allan i'r gwersyll; y mae pob un a'i clywodd i roi ei law ar ei ben, ac y mae'r holl gynulliad i'w labyddio.
15ואל בני ישראל תדבר לאמר איש איש כי יקלל אלהיו ונשא חטאו׃
15 Dywed wrth bobl Israel, 'Y mae pob un sy'n melltithio ei Dduw yn gyfrifol am ei bechod;
16ונקב שם יהוה מות יומת רגום ירגמו בו כל העדה כגר כאזרח בנקבו שם יומת׃
16 y mae pob un sy'n cablu enw'r ARGLWYDD i'w roi i farwolaeth, a'r holl gynulliad i'w labyddio. Pwy bynnag sy'n cablu enw Duw, boed estron neu frodor, rhaid iddo farw.
17ואיש כי יכה כל נפש אדם מות יומת׃
17 "'Os bydd rhywun yn cymryd bywyd rhywun arall rhaid ei roi i farwolaeth.
18ומכה נפש בהמה ישלמנה נפש תחת נפש׃
18 Os bydd rhywun yn lladd anifail rhywun arall, rhaid iddo wneud iawn, einioes am einioes.
19ואיש כי יתן מום בעמיתו כאשר עשה כן יעשה לו׃
19 Os bydd rhywun yn niweidio'i gymydog, rhaid gwneud yr un peth iddo yntau,
20שבר תחת שבר עין תחת עין שן תחת שן כאשר יתן מום באדם כן ינתן בו׃
20 briw am friw, llygad am lygad, dant am ddant. Fel y bu iddo ef achosi niwed, felly y gwneir iddo yntau.
21ומכה בהמה ישלמנה ומכה אדם יומת׃
21 Os bydd rhywun yn lladd anifail, rhaid iddo wneud iawn; ond os bydd rhywun yn lladd rhywun arall, rhaid ei roi i farwolaeth.
22משפט אחד יהיה לכם כגר כאזרח יהיה כי אני יהוה אלהיכם׃
22 Yr un fydd y rheol ar gyfer estron a brodor. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.'"
23וידבר משה אל בני ישראל ויוציאו את המקלל אל מחוץ למחנה וירגמו אתו אבן ובני ישראל עשו כאשר צוה יהוה את משה׃
23 Llefarodd Moses wrth bobl Israel, ac yna aethant �'r sawl a gablodd y tu allan i'r gwersyll a'i labyddio � cherrig. Gwnaeth pobl Israel fel y gorch-mynnodd yr ARGLWYDD i Moses.