Hebrew: Modern

Welsh

Leviticus

9

1ויהי ביום השמיני קרא משה לאהרן ולבניו ולזקני ישראל׃
1 Ar yr wythfed dydd galwodd Moses am Aaron a'i feibion a henuriaid Israel.
2ויאמר אל אהרן קח לך עגל בן בקר לחטאת ואיל לעלה תמימם והקרב לפני יהוה׃
2 A dywedodd wrth Aaron, "Cymer fustach ifanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, y naill a'r llall yn ddi-nam, a chyflwyna hwy o flaen yr ARGLWYDD.
3ואל בני ישראל תדבר לאמר קחו שעיר עזים לחטאת ועגל וכבש בני שנה תמימם לעלה׃
3 Yna dywed wrth bobl Israel, 'Cymerwch fwch gafr yn aberth dros bechod, a llo ac oen yn boethoffrwm, y naill a'r llall yn flwydd oed ac yn ddi-nam,
4ושור ואיל לשלמים לזבח לפני יהוה ומנחה בלולה בשמן כי היום יהוה נראה אליכם׃
4 a hefyd fustach a hwrdd yn heddoffrwm i'w haberthu o flaen yr ARGLWYDD, a bwydoffrwm wedi ei gymysgu ag olew; oherwydd heddiw bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos i chwi.'"
5ויקחו את אשר צוה משה אל פני אהל מועד ויקרבו כל העדה ויעמדו לפני יהוה׃
5 Dygasant y pethau a orchmynnodd Moses o flaen pabell y cyfarfod, a nesaodd yr holl gynulleidfa a sefyll gerbron yr ARGLWYDD.
6ויאמר משה זה הדבר אשר צוה יהוה תעשו וירא אליכם כבוד יהוה׃
6 Yna dywedodd Moses, "Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD ichwi ei wneud er mwyn i ogoniant yr ARGLWYDD ymddangos ichwi."
7ויאמר משה אל אהרן קרב אל המזבח ועשה את חטאתך ואת עלתך וכפר בעדך ובעד העם ועשה את קרבן העם וכפר בעדם כאשר צוה יהוה׃
7 Dywedodd Moses wrth Aaron, "Nes� at yr allor ac offryma dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun a thros y bobl; abertha offrwm y bobl a gwna gymod drostynt, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD."
8ויקרב אהרן אל המזבח וישחט את עגל החטאת אשר לו׃
8 Felly daeth Aaron at yr allor a lladd llo yn aberth dros bechod ar ei ran ei hun.
9ויקרבו בני אהרן את הדם אליו ויטבל אצבעו בדם ויתן על קרנות המזבח ואת הדם יצק אל יסוד המזבח׃
9 Yna daeth ei feibion �'r gwaed ato, a throchodd yntau ei fys yn y gwaed a'i roi ar gyrn yr allor; tywalltodd weddill y gwaed wrth droed yr allor.
10ואת החלב ואת הכלית ואת היתרת מן הכבד מן החטאת הקטיר המזבחה כאשר צוה יהוה את משה׃
10 Llosgodd ar yr allor y braster, yr arennau a gorchudd yr iau o'r aberth dros bechod, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses;
11ואת הבשר ואת העור שרף באש מחוץ למחנה׃
11 llosgodd yn y t�n y cnawd a'r croen y tu allan i'r gwersyll.
12וישחט את העלה וימצאו בני אהרן אליו את הדם ויזרקהו על המזבח סביב׃
12 Yna lladdodd Aaron y poethoffrwm; daeth ei feibion �'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor.
13ואת העלה המציאו אליו לנתחיה ואת הראש ויקטר על המזבח׃
13 Rhoddasant iddo'r poethoffrwm fesul darn, gan gynnwys y pen, ac fe'u llosgodd ar yr allor.
14וירחץ את הקרב ואת הכרעים ויקטר על העלה המזבחה׃
14 Golchodd yr ymysgaroedd a'r coesau a'u llosgi ar yr allor ar ben y poethoffrwm.
15ויקרב את קרבן העם ויקח את שעיר החטאת אשר לעם וישחטהו ויחטאהו כראשון׃
15 Yna daeth ag offrwm dros y bobl. Cymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, a'i ladd a'i gyflwyno'n aberth dros bechod, fel y gwnaethai gyda'r cyntaf.
16ויקרב את העלה ויעשה כמשפט׃
16 Yna daeth �'r poethoffrwm a'i gyflwyno, yn �l y drefn.
17ויקרב את המנחה וימלא כפו ממנה ויקטר על המזבח מלבד עלת הבקר׃
17 Daeth hefyd �'r bwydoffrwm a chymryd dyrnaid ohono, a'i losgi ar yr allor ynghyd �'r poethoffrymau boreol.
18וישחט את השור ואת האיל זבח השלמים אשר לעם וימצאו בני אהרן את הדם אליו ויזרקהו על המזבח סביב׃
18 Lladdodd hefyd yr ych a'r hwrdd yn heddoffrwm dros y bobl; daeth ei feibion �'r gwaed ato, a lluchiodd yntau ef ar bob ochr i'r allor.
19ואת החלבים מן השור ומן האיל האליה והמכסה והכלית ויתרת הכבד׃
19 Ond am fraster yr ych a'r hwrdd, y gynffon fras, yr haen o fraster, yr arennau, a gorchudd yr iau,
20וישימו את החלבים על החזות ויקטר החלבים המזבחה׃
20 gosodwyd hwy ar y frest, ac yna llosgodd Aaron y braster ar yr allor.
21ואת החזות ואת שוק הימין הניף אהרן תנופה לפני יהוה כאשר צוה משה׃
21 Chwifiodd y brestiau a'r glun dde yn offrwm cyhwfan o flaen yr ARGLWYDD, fel y gorchmynnodd Moses.
22וישא אהרן את ידו אל העם ויברכם וירד מעשת החטאת והעלה והשלמים׃
22 Yna cododd Aaron ei ddwylo i gyfeiriad y bobl a'u bendithio; ac ar �l cyflwyno'r aberth dros bechod, y poethoffrwm a'r heddoffrwm, daeth i lawr o'r allor.
23ויבא משה ואהרן אל אהל מועד ויצאו ויברכו את העם וירא כבוד יהוה אל כל העם׃
23 Yna aeth Moses ac Aaron i babell y cyfarfod; a phan ddaethant allan a bendithio'r bobl, ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD i'r holl bobl.
24ותצא אש מלפני יהוה ותאכל על המזבח את העלה ואת החלבים וירא כל העם וירנו ויפלו על פניהם׃
24 A daeth t�n allan o u373?ydd yr ARGLWYDD ac ysu'r poethoffrwm a'r braster ar yr allor. Pan welodd yr holl bobl hyn, gwaeddasant mewn llawenydd a syrthio ar eu hwynebau.