Hebrew: Modern

Welsh

Numbers

12

1ותדבר מרים ואהרן במשה על אדות האשה הכשית אשר לקח כי אשה כשית לקח׃
1 Yr oedd gan Miriam ac Aaron gu373?yn yn erbyn Moses oherwydd y wraig o Ethiopia yr oedd wedi ei phriodi,
2ויאמרו הרק אך במשה דבר יהוה הלא גם בנו דבר וישמע יהוה׃
2 a gofynasant, "Ai trwy Moses yn unig y llefarodd yr ARGLWYDD? Oni lefarodd hefyd trwom ni?" A chlywodd yr ARGLWYDD hwy.
3והאיש משה ענו מאד מכל האדם אשר על פני האדמה׃
3 Yr oedd Moses yn ddyn gostyngedig iawn, yn fwy felly na neb ar wyneb y ddaear.
4ויאמר יהוה פתאם אל משה ואל אהרן ואל מרים צאו שלשתכם אל אהל מועד ויצאו שלשתם׃
4 Yn sydyn, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Aaron a Miriam, "Dewch allan eich tri at babell y cyfarfod," a daeth y tri ohonynt allan.
5וירד יהוה בעמוד ענן ויעמד פתח האהל ויקרא אהרן ומרים ויצאו שניהם׃
5 Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn colofn o gwmwl, a sefyll wrth ddrws y babell, a phan alwodd ar Aaron a Miriam, daeth y ddau ohonynt ymlaen.
6ויאמר שמעו נא דברי אם יהיה נביאכם יהוה במראה אליו אתודע בחלום אדבר בו׃
6 Yna dywedodd, "Gwrandewch yn awr ar fy ngeiriau: Os oes proffwyd yr ARGLWYDD yn eich plith, datguddiaf fy hun iddo mewn gweledigaeth, a llefaraf wrtho mewn breuddwyd.
7לא כן עבדי משה בכל ביתי נאמן הוא׃
7 Ond nid felly y mae gyda'm gwas Moses; ef yn unig o'm holl du375? sy'n ffyddlon.
8פה אל פה אדבר בו ומראה ולא בחידת ותמנת יהוה יביט ומדוע לא יראתם לדבר בעבדי במשה׃
8 Llefaraf ag ef wyneb yn wyneb, yn eglur, ac nid mewn posau; caiff ef weled ffurf yr ARGLWYDD. Pam, felly, nad oedd arnoch ofn cwyno yn erbyn fy ngwas Moses?"
9ויחר אף יהוה בם וילך׃
9 Enynnodd llid yr ARGLWYDD yn eu herbyn, ac aeth ymaith.
10והענן סר מעל האהל והנה מרים מצרעת כשלג ויפן אהרן אל מרים והנה מצרעת׃
10 Pan gododd y cwmwl oddi ar y babell, yr oedd Miriam yn wahanglwyfus, ac yn wyn fel yr eira.
11ויאמר אהרן אל משה בי אדני אל נא תשת עלינו חטאת אשר נואלנו ואשר חטאנו׃
11 Trodd Aaron ati, a gwelodd ei bod yn wahanglwyfus. Yna dywedodd wrth Moses, "O f'arglwydd, paid � chyfrif yn ein herbyn y pechod hwn y buom mor ff�l �'i wneud.
12אל נא תהי כמת אשר בצאתו מרחם אמו ויאכל חצי בשרו׃
12 Paid � gadael i Miriam fod fel erthyl yn dod allan o groth y fam, a'r cnawd wedi hanner ei ddifa."
13ויצעק משה אל יהוה לאמר אל נא רפא נא לה׃
13 Felly galwodd Moses ar yr ARGLWYDD, "O Dduw, yr wyf yn erfyn arnat ei hiach�u."
14ויאמר יהוה אל משה ואביה ירק ירק בפניה הלא תכלם שבעת ימים תסגר שבעת ימים מחוץ למחנה ואחר תאסף׃
14 Atebodd yr ARGLWYDD ef, "Pe bai ei thad wedi poeri yn ei hwyneb, oni fyddai hi wedi cywilyddio am saith diwrnod? Caeer hi allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac yna caiff ddod i mewn eto."
15ותסגר מרים מחוץ למחנה שבעת ימים והעם לא נסע עד האסף מרים׃
15 Felly caewyd Miriam allan o'r gwersyll am saith diwrnod, ac ni chychwynnodd y bobl ar eu taith nes iddi ddychwelyd.
16ואחר נסעו העם מחצרות ויחנו במדבר פארן׃
16 Yna aethant ymaith o Haseroth, a gwersyllu yn anialwch Paran.