1ויקח קרח בן יצהר בן קהת בן לוי ודתן ואבירם בני אליאב ואון בן פלת בני ראובן׃
1 Aeth Cora fab Ishar, fab Cohath, fab Lefi, gyda'r Reubeniaid Dathan ac Abiram, feibion Eliab, ac On fab Peleth, i gynnull dynion
2ויקמו לפני משה ואנשים מבני ישראל חמשים ומאתים נשיאי עדה קראי מועד אנשי שם׃
2 i godi yn erbyn Moses; gyda hwy yr oedd dau gant a hanner o bobl Israel, a'r rheini'n wu375?r adnabyddus o blith penaethiaid ac arweinwyr y cynulliad.
3ויקהלו על משה ועל אהרן ויאמרו אלהם רב לכם כי כל העדה כלם קדשים ובתוכם יהוה ומדוע תתנשאו על קהל יהוה׃
3 Wedi iddynt ymgynnull yn erbyn Moses ac Aaron, dywedasant wrthynt, "Yr ydych wedi cymryd gormod arnoch eich hunain. Y mae pob un o'r holl gynulliad yn sanctaidd, ac y mae'r ARGLWYDD gyda hwy; pam felly yr ydych chwi yn eich dyrchafu eich hunain uwchlaw cynulliad yr ARGLWYDD?"
4וישמע משה ויפל על פניו׃
4 Pan glywodd Moses hyn, syrthiodd ar ei wyneb,
5וידבר אל קרח ואל כל עדתו לאמר בקר וידע יהוה את אשר לו ואת הקדוש והקריב אליו ואת אשר יבחר בו יקריב אליו׃
5 a dywedodd wrth Cora a'i holl gwmni, "Yn y bore bydd yr ARGLWYDD yn datguddio pwy sy'n eiddo iddo ef, pwy sy'n sanctaidd, a phwy sy'n cael dynesu ato; pwy bynnag y bydd ef yn ei ddewis fydd yn cael dynesu ato.
6זאת עשו קחו לכם מחתות קרח וכל עדתו׃
6 Dyma yr ydych i'w wneud: yr wyt ti, Cora, a'th holl gwmni i gymryd thuserau;
7ותנו בהן אש ושימו עליהן קטרת לפני יהוה מחר והיה האיש אשר יבחר יהוה הוא הקדוש רב לכם בני לוי׃
7 ac yfory, gerbron yr ARGLWYDD, rhowch d�n ynddynt a gosodwch arogldarth arnynt, a'r un a ddewisa'r ARGLWYDD fydd yn sanctaidd. Yr ydych chwi, feibion Lefi, wedi cymryd gormod arnoch eich hunain."
8ויאמר משה אל קרח שמעו נא בני לוי׃
8 Dywedodd Moses hefyd wrth Cora, "Gwrandewch, feibion Lefi.
9המעט מכם כי הבדיל אלהי ישראל אתכם מעדת ישראל להקריב אתכם אליו לעבד את עבדת משכן יהוה ולעמד לפני העדה לשרתם׃
9 Ai peth dibwys yn eich golwg yw fod Duw Israel wedi eich neilltuo chwi o blith cynulliad Israel, ichwi ddynesu ato a gwasanaethu yn nhabernacl yr ARGLWYDD a sefyll o flaen y cynulliad a gweini arnynt?
10ויקרב אתך ואת כל אחיך בני לוי אתך ובקשתם גם כהנה׃
10 Y mae wedi caniat�u i ti a'th holl frodyr, meibion Lefi, ddynesu ato; a ydych am geisio bod yn offeiriaid hefyd?
11לכן אתה וכל עדתך הנעדים על יהוה ואהרן מה הוא כי תלונו עליו׃
11 Yr wyt ti a'th holl gwmni wedi ymgynnull yn erbyn yr ARGLWYDD; pam, felly, yr ydych yn grwgnach yn erbyn Aaron?"
12וישלח משה לקרא לדתן ולאבירם בני אליאב ויאמרו לא נעלה׃
12 Yna galwodd Moses am Dathan ac Abiram, feibion Eliab, ond dywedasant hwy, "Nid ydym am ddod.
13המעט כי העליתנו מארץ זבת חלב ודבש להמיתנו במדבר כי תשתרר עלינו גם השתרר׃
13 Ai peth dibwys yw dy fod wedi dod � ni allan o wlad yn llifeirio o laeth a m�l, i'n lladd yn yr anialwch? A wyt hefyd am dy osod dy hun yn bennaeth arnom?
14אף לא אל ארץ זבת חלב ודבש הביאתנו ותתן לנו נחלת שדה וכרם העיני האנשים ההם תנקר לא נעלה׃
14 Yn wir, ni ddaethost � ni i wlad yn llifeirio o laeth a m�l, na rhoi inni faes na gwinllan yn feddiant. A wyt am ddallu'r dynion hyn? Nid ydym am ddod."
15ויחר למשה מאד ויאמר אל יהוה אל תפן אל מנחתם לא חמור אחד מהם נשאתי ולא הרעתי את אחד מהם׃
15 Yr oedd Moses yn ddig iawn, a dywedodd wrth yr ARGLWYDD, "Paid ag edrych ar eu hoffrwm. Ni chymerais gymaint ag un asyn oddi arnynt, ac nid wyf wedi gwneud cam �'r un ohonynt."
16ויאמר משה אל קרח אתה וכל עדתך היו לפני יהוה אתה והם ואהרן מחר׃
16 Dywedodd Moses wrth Cora, "Yr wyt ti a'th holl gwmni ac Aaron i fod yn bresennol gerbron yr ARGLWYDD yfory.
17וקחו איש מחתתו ונתתם עליהם קטרת והקרבתם לפני יהוה איש מחתתו חמשים ומאתים מחתת ואתה ואהרן איש מחתתו׃
17 Y mae pob un i gymryd ei thuser a rhoi arogldarth ynddo, a dod ag ef gerbron yr ARGLWYDD; yr wyt ti, Aaron, a phob un arall i ddod � thuser, a bydd dau gant a hanner ohonynt."
18ויקחו איש מחתתו ויתנו עליהם אש וישימו עליהם קטרת ויעמדו פתח אהל מועד ומשה ואהרן׃
18 Felly cymerodd pob un ei thuser a rhoi t�n ynddynt a gosod arogldarth arnynt, a sefyll gyda Moses ac Aaron wrth ddrws pabell y cyfarfod;
19ויקהל עליהם קרח את כל העדה אל פתח אהל מועד וירא כבוד יהוה אל כל העדה׃
19 ac ymddangosodd gogoniant yr ARGLWYDD i'r holl gynulliad.
20וידבר יהוה אל משה ואל אהרן לאמר׃
20 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron,
21הבדלו מתוך העדה הזאת ואכלה אתם כרגע׃
21 "Ymwahanwch oddi wrth y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith."
22ויפלו על פניהם ויאמרו אל אלהי הרוחת לכל בשר האיש אחד יחטא ועל כל העדה תקצף׃
22 Ond syrthiasant hwy ar eu hwynebau, a dweud, "O Dduw, Duw ysbryd pob cnawd, a wyt am ddigio wrth yr holl gynulliad am fod un dyn wedi pechu?"
23וידבר יהוה אל משה לאמר׃
23 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
24דבר אל העדה לאמר העלו מסביב למשכן קרח דתן ואבירם׃
24 "Dywed wrth y cynulliad am fynd ymaith oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram."
25ויקם משה וילך אל דתן ואבירם וילכו אחריו זקני ישראל׃
25 Cododd Moses ac aeth at Dathan ac Abiram, a dilynodd henuriaid Israel ef.
26וידבר אל העדה לאמר סורו נא מעל אהלי האנשים הרשעים האלה ואל תגעו בכל אשר להם פן תספו בכל חטאתם׃
26 Yna dywedodd wrth y cynulliad, "Ewch allan o bebyll y dynion drwg hyn, a pheidiwch � chyffwrdd � dim o'u heiddo, rhag ichwi gael eich difa am eu holl bechodau hwy."
27ויעלו מעל משכן קרח דתן ואבירם מסביב ודתן ואבירם יצאו נצבים פתח אהליהם ונשיהם ובניהם וטפם׃
27 Felly aethant draw oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram; a daeth Dathan ac Abiram allan gyda'u gwragedd, eu plant a'u rhai bychain, a sefyll wrth ddrws eu pebyll.
28ויאמר משה בזאת תדעון כי יהוה שלחני לעשות את כל המעשים האלה כי לא מלבי׃
28 Dywedodd Moses, "Cewch wybod trwy hyn mai'r ARGLWYDD a'm hanfonodd i wneud yr holl bethau hyn, ac nad o'm dyfais fy hun y gwneuthum hwy.
29אם כמות כל האדם ימתון אלה ופקדת כל האדם יפקד עליהם לא יהוה שלחני׃
29 Os bydd y dynion hyn farw'n naturiol, a phrofi'r un ffawd ag sy'n dod yn arferol i bobl, yna nid yw'r ARGLWYDD wedi fy anfon.
30ואם בריאה יברא יהוה ופצתה האדמה את פיה ובלעה אתם ואת כל אשר להם וירדו חיים שאלה וידעתם כי נאצו האנשים האלה את יהוה׃
30 Ond os gwna'r ARGLWYDD rywbeth newydd, trwy beri i'r ddaear agor ei genau a'u llyncu hwy a phopeth a berthyn iddynt, fel eu bod yn disgyn yn fyw i Sheol, yna byddwch yn gwybod bod y dynion hyn wedi dirmygu'r ARGLWYDD."
31ויהי ככלתו לדבר את כל הדברים האלה ותבקע האדמה אשר תחתיהם׃
31 Fel yr oedd yn gorffen dweud hyn i gyd, holltodd y tir odanynt,
32ותפתח הארץ את פיה ותבלע אתם ואת בתיהם ואת כל האדם אשר לקרח ואת כל הרכוש׃
32 ac agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a'u tylwyth, a holl ddynion Cora a'u heiddo i gyd.
33וירדו הם וכל אשר להם חיים שאלה ותכס עליהם הארץ ויאבדו מתוך הקהל׃
33 Felly disgynasant hwy, a phawb oedd gyda hwy, yn fyw i Sheol; yna caeodd y ddaear amdanynt, a difawyd hwy o blith y cynulliad.
34וכל ישראל אשר סביבתיהם נסו לקלם כי אמרו פן תבלענו הארץ׃
34 Wrth iddynt weiddi, ffodd yr holl Israeliaid oedd o'u hamgylch, gan ddweud, "Rhag i'r ddaear ein llyncu ninnau!"
35ואש יצאה מאת יהוה ותאכל את החמשים ומאתים איש מקריבי הקטרת׃
35 Yna daeth t�n oddi wrth yr ARGLWYDD a difa'r ddau gant a hanner o ddynion oedd yn offrymu arogldarth.
36וידבר יהוה אל משה לאמר׃
36 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
37אמר אל אלעזר בן אהרן הכהן וירם את המחתת מבין השרפה ואת האש זרה הלאה כי קדשו׃
37 "Dywed wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad am godi'r thuserau allan o'r goelcerth, am eu bod yn sanctaidd, a thaenu'r t�n ar wasgar;
38את מחתות החטאים האלה בנפשתם ועשו אתם רקעי פחים צפוי למזבח כי הקריבם לפני יהוה ויקדשו ויהיו לאות לבני ישראל׃
38 yna y mae thuserau'r rhai a bechodd, ac a fu farw, i'w curo'n blatiau i wneud caead ar yr allor, oherwydd y maent yn sanctaidd am iddynt gael eu hoffrymu gerbron yr ARGLWYDD; felly byddant yn arwydd i bobl Israel."
39ויקח אלעזר הכהן את מחתות הנחשת אשר הקריבו השרפים וירקעום צפוי למזבח׃
39 Yna cymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, a offrymwyd gan y rhai a gafodd eu llosgi, ac fe'u curwyd i wneud caead i'r allor,
40זכרון לבני ישראל למען אשר לא יקרב איש זר אשר לא מזרע אהרן הוא להקטיר קטרת לפני יהוה ולא יהיה כקרח וכעדתו כאשר דבר יהוה ביד משה לו׃
40 i atgoffa pobl Israel nad oedd neb heblaw'r rhai oedd yn gymwys, sef disgynyddion Aaron, i ddynesu i losgi arogldarth gerbron yr ARGLWYDD, rhag iddo fod fel Cora a'i gwmni. Gwnaed hyn fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Eleasar trwy Moses.
41וילנו כל עדת בני ישראל ממחרת על משה ועל אהרן לאמר אתם המתם את עם יהוה׃
41 Trannoeth dechreuodd holl gynulliad pobl Israel rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron, a dweud, "Yr ydych wedi lladd pobl yr ARGLWYDD."
42ויהי בהקהל העדה על משה ועל אהרן ויפנו אל אהל מועד והנה כסהו הענן וירא כבוד יהוה׃
42 Ac wedi i'r cynulliad ymgynnull yn erbyn Moses ac Aaron, troesant at babell y cyfarfod a gwelsant gwmwl yn ei gorchuddio a gogoniant yr ARGLWYDD yn ymddangos.
43ויבא משה ואהרן אל פני אהל מועד׃
43 Yna daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod,
44וידבר יהוה אל משה לאמר׃
44 a dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
45הרמו מתוך העדה הזאת ואכלה אתם כרגע ויפלו על פניהם׃
45 "Ewch ymaith o blith y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith." Syrthiasant ar eu hwynebau,
46ויאמר משה אל אהרן קח את המחתה ותן עליה אש מעל המזבח ושים קטרת והולך מהרה אל העדה וכפר עליהם כי יצא הקצף מלפני יהוה החל הנגף׃
46 a dywedodd Moses wrth Aaron, "Cymer thuser, a rho ynddo d�n oddi ar yr allor, a gosod arno arogldarth, a dos rhag blaen at y cynulliad, a gwna gymod drostynt; daeth digofaint oddi wrth yr ARGLWYDD, ac y mae'r pla wedi dechrau."
47ויקח אהרן כאשר דבר משה וירץ אל תוך הקהל והנה החל הנגף בעם ויתן את הקטרת ויכפר על העם׃
47 Gwnaeth Aaron fel yr oedd Moses wedi dweud, a rhedodd i ganol y cynulliad, ond gwelodd fod y pla eisoes wedi dechrau ymhlith y bobl. Rhoddodd arogldarth ar y thuser, a gwnaeth gymod dros y bobl.
48ויעמד בין המתים ובין החיים ותעצר המגפה׃
48 Safodd rhwng y meirw a'r byw, ac fe beidiodd y pla.
49ויהיו המתים במגפה ארבעה עשר אלף ושבע מאות מלבד המתים על דבר קרח׃
49 Bu farw pedair mil ar ddeg a saith gant trwy'r pla, heblaw'r rhai a fu farw o achos Cora.
50וישב אהרן אל משה אל פתח אהל מועד והמגפה נעצרה׃
50 Yna, wedi i'r pla beidio, aeth Aaron yn �l at Moses yn nrws pabell y cyfarfod.