1שיר המעלות זכור יהוה לדוד את כל ענותו׃
1 1 C�n Esgyniad.0 O ARGLWYDD, cofia am Ddafydd yn ei holl dreialon,
2אשר נשבע ליהוה נדר לאביר יעקב׃
2 fel y bu iddo dyngu i'r ARGLWYDD ac addunedu i Un Cadarn Jacob,
3אם אבא באהל ביתי אם אעלה על ערש יצועי׃
3 "Nid af i mewn i'r babell y trigaf ynddi, nac esgyn i'r gwely y gorffwysaf arno;
4אם אתן שנת לעיני לעפעפי תנומה׃
4 ni roddaf gwsg i'm llygaid na hun i'm hamrannau,
5עד אמצא מקום ליהוה משכנות לאביר יעקב׃
5 nes imi gael lle i'r ARGLWYDD a thrigfan i Un Cadarn Jacob."
6הנה שמענוה באפרתה מצאנוה בשדי יער׃
6 Wele, clywsom amdani yn Effrata, a chawsom hi ym meysydd y coed.
7נבואה למשכנותיו נשתחוה להדם רגליו׃
7 "Awn i mewn i'w drigfan a phlygwn wrth ei droedfainc.
8קומה יהוה למנוחתך אתה וארון עזך׃
8 Cyfod, ARGLWYDD, a thyrd i'th orffwysfa, ti ac arch dy nerth.
9כהניך ילבשו צדק וחסידיך ירננו׃
9 Bydded dy offeiriaid wedi eu gwisgo � chyfiawnder, a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu."
10בעבור דוד עבדך אל תשב פני משיחך׃
10 Er mwyn Dafydd dy was, paid � throi oddi wrth wyneb dy eneiniog.
11נשבע יהוה לדוד אמת לא ישוב ממנה מפרי בטנך אשית לכסא לך׃
11 Tyngodd yr ARGLWYDD i Ddafydd adduned sicr na thry oddi wrthi: "O ffrwyth dy gorff y gosodaf un ar dy orsedd.
12אם ישמרו בניך בריתי ועדתי זו אלמדם גם בניהם עדי עד ישבו לכסא לך׃
12 Os ceidw dy feibion fy nghyfamod, a'r tystiolaethau a ddysgaf iddynt, bydd eu meibion hwythau hyd byth yn eistedd ar dy orsedd."
13כי בחר יהוה בציון אוה למושב לו׃
13 Oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD Seion, a'i chwennych yn drigfan iddo:
14זאת מנוחתי עדי עד פה אשב כי אותיה׃
14 "Dyma fy ngorffwysfa am byth; yma y trigaf am imi ei dewis.
15צידה ברך אברך אביוניה אשביע לחם׃
15 Bendithiaf hi � digonedd o ymborth, a digonaf ei thlodion � bara.
16וכהניה אלביש ישע וחסידיה רנן ירננו׃
16 Gwisgaf ei hoffeiriaid ag iachawdwriaeth, a bydd ei ffyddloniaid yn gorfoleddu.
17שם אצמיח קרן לדוד ערכתי נר למשיחי׃
17 Yno y gwnaf i gorn dyfu i Ddafydd; darperais lamp i'm heneiniog.
18אויביו אלביש בשת ועליו יציץ נזרו׃
18 Gwisgaf ei elynion � chywilydd, ond ar ei ben ef y bydd coron ddisglair."