1למנצח לעבד יהוה לדוד אשר דבר ליהוה את דברי השירה הזאת ביום הציל יהוה אותו מכף כל איביו ומיד שאול ויאמר ארחמך יהוה חזקי׃
1 1 I'r Cyfarwyddwr: I Ddafydd, gwas yr ARGLWYDD, a lefarodd eiriau'r gerdd hon wrth yr ARGLWYDD y diwrnod y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei elynion ac o law Saul. A dywedodd:0 Caraf di, O ARGLWYDD, fy nghryfder.
2יהוה סלעי ומצודתי ומפלטי אלי צורי אחסה בו מגני וקרן ישעי משגבי׃
2 Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd; fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer.
3מהלל אקרא יהוה ומן איבי אושע׃
3 Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl, ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion.
4אפפוני חבלי מות ונחלי בליעל יבעתוני׃
4 Pan oedd clymau angau'n tynhau amdanaf a llifeiriant distryw yn fy nal,
5חבלי שאול סבבוני קדמוני מוקשי מות׃
5 pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchu a maglau angau o'm blaen,
6בצר לי אקרא יהוה ואל אלהי אשוע ישמע מהיכלו קולי ושועתי לפניו תבוא באזניו׃
6 gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder, ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo; clywodd fy llef o'i deml, a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.
7ותגעש ותרעש הארץ ומוסדי הרים ירגזו ויתגעשו כי חרה לו׃
7 Crynodd y ddaear a gwegian, ysgydwodd sylfeini'r mynyddoedd, a siglo oherwydd ei ddicter ef.
8עלה עשן באפו ואש מפיו תאכל גחלים בערו ממנו׃
8 Cododd mwg o'i ffroenau, yr oedd t�n yn ysu o'i enau, a marwor yn cynnau o'i gwmpas.
9ויט שמים וירד וערפל תחת רגליו׃
9 Fe agorodd y ffurfafen a disgyn, ac yr oedd tywyllwch o dan ei draed.
10וירכב על כרוב ויעף וידא על כנפי רוח׃
10 Marchogodd ar gerwb a hedfan, gwibiodd ar adenydd y gwynt.
11ישת חשך סתרו סביבותיו סכתו חשכת מים עבי שחקים׃
11 Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn guddfan, a chymylau duon yn orchudd.
12מנגה נגדו עביו עברו ברד וגחלי אש׃
12 o'r disgleirdeb o'i flaen daeth allan gymylau, a chenllysg a cherrig t�n.
13וירעם בשמים יהוה ועליון יתן קלו ברד וגחלי אש׃
13 Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd, a llefarodd llais y Goruchaf.
14וישלח חציו ויפיצם וברקים רב ויהמם׃
14 Bwriodd allan ei saethau yma ac acw, saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.
15ויראו אפיקי מים ויגלו מוסדות תבל מגערתך יהוה מנשמת רוח אפך׃
15 Daeth gwaelodion y m�r i'r golwg, a dinoethwyd sylfeini'r byd, oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD, a chwythiad anadl dy ffroenau.
16ישלח ממרום יקחני ימשני ממים רבים׃
16 Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd, tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.
17יצילני מאיבי עז ומשנאי כי אמצו ממני׃
17 Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol, rhag y rhai sy'n fy nghas�u pan oeddent yn gryfach na mi.
18יקדמוני ביום אידי ויהי יהוה למשען לי׃
18 Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng, ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.
19ויוציאני למרחב יחלצני כי חפץ בי׃
19 Dygodd fi allan i le agored, a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.
20יגמלני יהוה כצדקי כבר ידי ישיב לי׃
20 Gwnaeth yr ARGLWYDD � mi yn �l fy nghyfiawnder, a thalodd i mi yn �l glendid fy nwylo.
21כי שמרתי דרכי יהוה ולא רשעתי מאלהי׃
21 Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;
22כי כל משפטיו לנגדי וחקתיו לא אסיר מני׃
22 yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen, ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.
23ואהי תמים עמו ואשתמר מעוני׃
23 Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg, a chedwais fy hun rhag troseddu.
24וישב יהוה לי כצדקי כבר ידי לנגד עיניו׃
24 Talodd yr ARGLWYDD i mi yn �l fy nghyfiawnder, ac yn �l glendid fy nwylo yn ei olwg.
25עם חסיד תתחסד עם גבר תמים תתמם׃
25 Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon, yn ddifeius i'r difeius,
26עם נבר תתברר ועם עקש תתפתל׃
26 ac yn bur i'r rhai pur; ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.
27כי אתה עם עני תושיע ועינים רמות תשפיל׃
27 Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig, ac yn darostwng y beilchion.
28כי אתה תאיר נרי יהוה אלהי יגיה חשכי׃
28 Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD; fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.
29כי בך ארץ גדוד ובאלהי אדלג שור׃
29 Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu; trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.
30האל תמים דרכו אמרת יהוה צרופה מגן הוא לכל החסים בו׃
30 Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd, ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur; y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.
31כי מי אלוה מבלעדי יהוה ומי צור זולתי אלהינו׃
31 Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig ond ein Duw ni,
32האל המאזרני חיל ויתן תמים דרכי׃
32 y Duw sy'n fy ngwregysu � nerth, ac yn gwneud fy ffordd yn ddifeius?
33משוה רגלי כאילות ועל במתי יעמידני׃
33 Gwna fy nhraed fel rhai ewig, a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.
34מלמד ידי למלחמה ונחתה קשת נחושה זרועתי׃
34 Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela, i'm breichiau dynnu bwa pres.
35ותתן לי מגן ישעך וימינך תסעדני וענותך תרבני׃
35 Rhoist imi dy darian i'm gwaredu, a'm cynnal �'th ddeheulaw, a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.
36תרחיב צעדי תחתי ולא מעדו קרסלי׃
36 Rhoist imi le llydan i'm camau, ac ni lithrodd fy nhraed.
37ארדוף אויבי ואשיגם ולא אשוב עד כלותם׃
37 Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu dal; ni ddychwelaf nes eu difetha.
38אמחצם ולא יכלו קום יפלו תחת רגלי׃
38 Yr wyf yn eu trywanu fel na allant godi, ac y maent yn syrthio o dan fy nhraed.
39ותאזרני חיל למלחמה תכריע קמי תחתי׃
39 Yr wyt wedi fy ngwregysu � nerth i'r frwydr, a darostwng fy ngelynion odanaf.
40ואיבי נתתה לי ערף ומשנאי אצמיתם׃
40 Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf, a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghas�u.
41ישועו ואין מושיע על יהוה ולא ענם׃
41 Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd, yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb.
42ואשחקם כעפר על פני רוח כטיט חוצות אריקם׃
42 Fe'u maluriaf cyn faned � llwch o flaen y gwynt, a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.
43תפלטני מריבי עם תשימני לראש גוים עם לא ידעתי יעבדוני׃
43 Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl, ac yn fy ngwneud yn ben ar y cenhedloedd; pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.
44לשמע אזן ישמעו לי בני נכר יכחשו לי׃
44 Pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi, ac estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen.
45בני נכר יבלו ויחרגו ממסגרותיהם׃
45 Y mae estroniaid yn gwangalonni, ac yn dyfod dan grynu o'u lloches.
46חי יהוה וברוך צורי וירום אלוהי ישעי׃
46 Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig; dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu,
47האל הנותן נקמות לי וידבר עמים תחתי׃
47 y Duw sy'n rhoi imi ddialedd, ac yn darostwng pobloedd odanaf,
48מפלטי מאיבי אף מן קמי תרוממני מאיש חמס תצילני׃
48 sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion, yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr, ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr.
49על כן אודך בגוים יהוה ולשמך אזמרה׃
49 Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd, a chanaf fawl i'th enw.
50מגדל ישועות מלכו ועשה חסד למשיחו לדוד ולזרעו עד עולם׃
50 Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaeth, ac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog, i Ddafydd ac i'w had am byth.