1למנצח על אילת השחר מזמור לדוד אלי אלי למה עזבתני רחוק מישועתי דברי שאגתי׃
1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Ewig y Wawr. Salm. I Ddafydd.0 Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael, ac yn cadw draw rhag fy ngwaredu ac oddi wrth eiriau fy ngriddfan?
2אלהי אקרא יומם ולא תענה ולילה ולא דומיה לי׃
2 O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid wyt yn ateb, a'r nos, ond ni chaf lonyddwch.
3ואתה קדוש יושב תהלות ישראל׃
3 Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orseddu yn foliant i Israel.
4בך בטחו אבתינו בטחו ותפלטמו׃
4 Ynot ti yr oedd ein hynafiaid yn ymddiried, yn ymddiried a thithau'n eu gwaredu.
5אליך זעקו ונמלטו בך בטחו ולא בושו׃
5 Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac achubwyd hwy, ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni chywilyddiwyd hwy.
6ואנכי תולעת ולא איש חרפת אדם ובזוי עם׃
6 Pryfyn wyf fi ac nid dyn, gwawd a dirmyg i bobl.
7כל ראי ילעגו לי יפטירו בשפה יניעו ראש׃
7 Y mae pawb sy'n fy ngweld yn fy ngwatwar, yn gwneud ystumiau arnaf ac yn ysgwyd pen:
8גל אל יהוה יפלטהו יצילהו כי חפץ בו׃
8 "Rhoes ei achos i'r ARGLWYDD, bydded iddo ef ei achub! Bydded iddo ef ei waredu, oherwydd y mae'n ei hoffi!"
9כי אתה גחי מבטן מבטיחי על שדי אמי׃
9 Ond ti a'm tynnodd allan o'r groth, a'm rhoi ar fronnau fy mam;
10עליך השלכתי מרחם מבטן אמי אלי אתה׃
10 arnat ti y bwriwyd fi ar fy ngenedigaeth, ac o groth fy mam ti yw fy Nuw.
11אל תרחק ממני כי צרה קרובה כי אין עוזר׃
11 Paid � phellhau oddi wrthyf, oherwydd y mae fy argyfwng yn agos ac nid oes neb i'm cynorthwyo.
12סבבוני פרים רבים אבירי בשן כתרוני׃
12 Y mae gyr o deirw o'm cwmpas, rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf;
13פצו עלי פיהם אריה טרף ושאג׃
13 y maent yn agor eu safn amdanaf fel llew yn rheibio a rhuo.
14כמים נשפכתי והתפרדו כל עצמותי היה לבי כדונג נמס בתוך מעי׃
14 Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel du373?r, a'm holl esgyrn yn ymddatod; y mae fy nghalon fel cwyr, ac yn toddi o'm mewn;
15יבש כחרש כחי ולשוני מדבק מלקוחי ולעפר מות תשפתני׃
15 y mae fy ngheg yn sych fel cragen a'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau; yr wyt wedi fy mwrw i lwch marwolaeth.
16כי סבבוני כלבים עדת מרעים הקיפוני כארי ידי ורגלי׃
16 Y mae cu373?n o'm hamgylch, haid o ddihirod yn cau amdanaf; y maent yn trywanu fy nwylo a'm traed.
17אספר כל עצמותי המה יביטו יראו בי׃
17 Gallaf gyfrif pob un o'm hesgyrn, ac y maent hwythau'n edrych ac yn rhythu arnaf.
18יחלקו בגדי להם ועל לבושי יפילו גורל׃
18 Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac yn bwrw coelbren ar fy ngwisg.
19ואתה יהוה אל תרחק אילותי לעזרתי חושה׃
19 Ond ti, ARGLWYDD, paid � sefyll draw; O fy nerth, brysia i'm cynorthwyo.
20הצילה מחרב נפשי מיד כלב יחידתי׃
20 Gwared fi rhag y cleddyf, a'm hunig fywyd o afael y cu373?n.
21הושיעני מפי אריה ומקרני רמים עניתני׃
21 Achub fi o safn y llew, a'm bywyd tlawd rhag cyrn yr ychen gwyllt.
22אספרה שמך לאחי בתוך קהל אהללך׃
22 Fe gyhoeddaf dy enw i'm cydnabod, a'th foli yng nghanol y gynulleidfa:
23יראי יהוה הללוהו כל זרע יעקב כבדוהו וגורו ממנו כל זרע ישראל׃
23 "Molwch ef, chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD; rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob; ofnwch ef, holl dylwyth Israel.
24כי לא בזה ולא שקץ ענות עני ולא הסתיר פניו ממנו ובשועו אליו שמע׃
24 Oherwydd ni ddirmygodd na diystyru gorthrwm y gorthrymedig; ni chuddiodd ei wyneb oddi wrtho, ond gwrando arno pan lefodd."
25מאתך תהלתי בקהל רב נדרי אשלם נגד יראיו׃
25 Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynulleidfa fawr, a thalaf fy addunedau yng ngu373?ydd y rhai sy'n ei ofni.
26יאכלו ענוים וישבעו יהללו יהוה דרשיו יחי לבבכם לעד׃
26 Bydd yr anghenus yn bwyta, ac yn cael digon, a'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei foli. Bydded i'w calonnau fyw byth!
27יזכרו וישבו אל יהוה כל אפסי ארץ וישתחוו לפניך כל משפחות גוים׃
27 Bydd holl gyrrau'r ddaear yn cofio ac yn dychwelyd at yr ARGLWYDD, a holl dylwythau'r cenhedloedd yn ymgrymu o'i flaen.
28כי ליהוה המלוכה ומשל בגוים׃
28 Oherwydd i'r ARGLWYDD y perthyn brenhiniaeth, ac ef sy'n llywodraethu dros y cenhedloedd.
29אכלו וישתחוו כל דשני ארץ לפניו יכרעו כל יורדי עפר ונפשו לא חיה׃
29 Sut y gall y rhai sy'n cysgu yn y ddaear blygu iddo ef, a'r rhai sy'n disgyn i'r llwch ymgrymu o'i flaen? Ond byddaf fi fyw iddo ef,
30זרע יעבדנו יספר לאדני לדור׃
30 a bydd fy mhlant yn ei wasanaethu; dywedir am yr ARGLWYDD wrth genedlaethau i ddod,
31יבאו ויגידו צדקתו לעם נולד כי עשה׃
31 a chyhoeddi ei gyfiawnder wrth bobl heb eu geni, mai ef a fu'n gweithredu.