1לדוד יהוה אורי וישעי ממי אירא יהוה מעוז חיי ממי אפחד׃
1 1 I Ddafydd.0 Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?
2בקרב עלי מרעים לאכל את בשרי צרי ואיבי לי המה כשלו ונפלו׃
2 Pan fydd rhai drwg yn cau amdanaf i'm hysu i'r byw, hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion, fydd yn baglu ac yn syrthio.
3אם תחנה עלי מחנה לא יירא לבי אם תקום עלי מלחמה בזאת אני בוטח׃
3 Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn, nid ofnai fy nghalon; pe d�i rhyfel ar fy ngwarthaf, eto, fe fyddwn yn hyderus.
4אחת שאלתי מאת יהוה אותה אבקש שבתי בבית יהוה כל ימי חיי לחזות בנעם יהוה ולבקר בהיכלו׃
4 Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD, dyma'r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhu375?'r ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD ac i ymofyn yn ei deml.
5כי יצפנני בסכה ביום רעה יסתרני בסתר אהלו בצור ירוממני׃
5 Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd, a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig.
6ועתה ירום ראשי על איבי סביבותי ואזבחה באהלו זבחי תרועה אשירה ואזמרה ליהוה׃
6 Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch; ac offrymaf finnau yn ei deml aberthau llawn gorfoledd; canaf, canmolaf yr ARGLWYDD.
7שמע יהוה קולי אקרא וחנני וענני׃
7 Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf; bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi.
8לך אמר לבי בקשו פני את פניך יהוה אבקש׃
8 Dywedodd fy nghalon amdanat, "Ceisia ei wyneb"; am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD.
9אל תסתר פניך ממני אל תט באף עבדך עזרתי היית אל תטשני ואל תעזבני אלהי ישעי׃
9 Paid � chuddio dy wyneb oddi wrthyf, na throi ymaith dy was mewn dicter, oherwydd buost yn gymorth i mi; paid �'m gwrthod na'm gadael, O Dduw, fy Ngwaredwr.
10כי אבי ואמי עזבוני ויהוה יאספני׃
10 Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf, byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn.
11הורני יהוה דרכך ונחני בארח מישור למען שוררי׃
11 Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD, arwain fi ar hyd llwybr union, oherwydd fy ngwrthwynebwyr.
12אל תתנני בנפש צרי כי קמו בי עדי שקר ויפח חמס׃
12 Paid �'m gadael i fympwy fy ngelynion, oherwydd cododd yn f'erbyn dystion celwyddog sy'n bygwth trais.
13לולא האמנתי לראות בטוב יהוה בארץ חיים׃
13 Yr wyf yn sicr y caf weld daioni'r ARGLWYDD yn nhir y rhai byw.
14קוה אל יהוה חזק ויאמץ לבך וקוה אל יהוה׃
14 Disgwyl wrth yr ARGLWYDD, bydd gryf a gwrol dy galon a disgwyl wrth yr ARGLWYDD.