1למנצח מזמור לדוד בך יהוה חסיתי אל אבושה לעולם בצדקתך פלטני׃
1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches, na fydded cywilydd arnaf byth; achub fi yn dy gyfiawnder,
2הטה אלי אזנך מהרה הצילני היה לי לצור מעוז לבית מצודות להושיעני׃
2 tro dy glust ataf, a brysia i'm gwaredu; bydd i mi'n graig noddfa, yn amddiffynfa i'm cadw.
3כי סלעי ומצודתי אתה ולמען שמך תנחני ותנהלני׃
3 Yr wyt ti'n graig ac yn amddiffynfa i mi; er mwyn dy enw, arwain a thywys fi.
4תוציאני מרשת זו טמנו לי כי אתה מעוזי׃
4 Tyn fi o'r rhwyd a guddiwyd ar fy nghyfer, oherwydd ti yw fy noddfa.
5בידך אפקיד רוחי פדיתה אותי יהוה אל אמת׃
5 Cyflwynaf fy ysbryd i'th law di; gwaredaist fi, ARGLWYDD, y Duw ffyddlon.
6שנאתי השמרים הבלי שוא ואני אל יהוה בטחתי׃
6 Yr wyf yn cas�u'r rhai sy'n glynu wrth eilunod gwag, ac ymddiriedaf fi yn yr ARGLWYDD.
7אגילה ואשמחה בחסדך אשר ראית את עניי ידעת בצרות נפשי׃
7 Llawenychaf a gorfoleddaf yn dy ffyddlondeb, oherwydd iti edrych ar fy adfyd a rhoi sylw imi yn fy nghyfyngder.
8ולא הסגרתני ביד אויב העמדת במרחב רגלי׃
8 Ni roddaist fi yn llaw fy ngelyn, ond gosodaist fy nhraed mewn lle agored.
9חנני יהוה כי צר לי עששה בכעס עיני נפשי ובטני׃
9 Bydd drugarog wrthyf, ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf; y mae fy llygaid yn pylu gan ofid, fy enaid a'm corff hefyd;
10כי כלו ביגון חיי ושנותי באנחה כשל בעוני כחי ועצמי עששו׃
10 y mae fy mywyd yn darfod gan dristwch a'm blynyddoedd gan gwynfan; fe sigir fy nerth gan drallod, ac y mae fy esgyrn yn darfod.
11מכל צררי הייתי חרפה ולשכני מאד ופחד למידעי ראי בחוץ נדדו ממני׃
11 I'm holl elynion yr wyf yn ddirmyg, i'm cymdogion yn watwar, ac i'm cyfeillion yn arswyd; y mae'r rhai sy'n fy ngweld ar y stryd yn ffoi oddi wrthyf.
12נשכחתי כמת מלב הייתי ככלי אבד׃
12 Anghofiwyd fi, fel un marw wedi mynd dros gof; yr wyf fel llestr wedi torri.
13כי שמעתי דבת רבים מגור מסביב בהוסדם יחד עלי לקחת נפשי זממו׃
13 Oherwydd clywaf lawer yn sibrwd, y mae dychryn ar bob llaw; pan dd�nt at ei gilydd yn f'erbyn y maent yn cynllwyn i gymryd fy mywyd.
14ואני עליך בטחתי יהוה אמרתי אלהי אתה׃
14 Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, ARGLWYDD, ac yn dweud, "Ti yw fy Nuw."
15בידך עתתי הצילני מיד אויבי ומרדפי׃
15 Y mae fy amserau yn dy law di; gwared fi rhag fy ngelynion a'm herlidwyr.
16האירה פניך על עבדך הושיעני בחסדך׃
16 Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was; achub fi yn dy ffyddlondeb.
17יהוה אל אבושה כי קראתיך יבשו רשעים ידמו לשאול׃
17 ARGLWYDD, na fydded cywilydd arnaf pan alwaf arnat; doed cywilydd ar y drygionus, rhodder taw arnynt yn Sheol.
18תאלמנה שפתי שקר הדברות על צדיק עתק בגאוה ובוז׃
18 Trawer yn fud y gwefusau celwyddog, sy'n siarad yn drahaus yn erbyn y cyfiawn mewn balchder a sarhad.
19מה רב טובך אשר צפנת ליראיך פעלת לחסים בך נגד בני אדם׃
19 Mor helaeth yw dy ddaioni sydd ynghadw gennyt i'r rhai sy'n dy ofni, ac wedi ei amlygu i'r rhai sy'n cysgodi ynot, a hynny yng ngu373?ydd pawb!
20תסתירם בסתר פניך מרכסי איש תצפנם בסכה מריב לשנות׃
20 Fe'u cuddi dan orchudd dy bresenoldeb rhag y rhai sy'n cynllwyn; fe'u cedwi dan dy gysgod rhag ymryson tafodau.
21ברוך יהוה כי הפליא חסדו לי בעיר מצור׃
21 Bendigedig yw'r ARGLWYDD a ddangosodd ei ffyddlondeb rhyfeddol ataf yn nydd cyfyngder.
22ואני אמרתי בחפזי נגרזתי מנגד עיניך אכן שמעת קול תחנוני בשועי אליך׃
22 Yn fy nychryn fe ddywedais, "Torrwyd fi allan o'th olwg." Ond clywaist lef fy ngweddi pan waeddais arnat am gymorth.
23אהבו את יהוה כל חסידיו אמונים נצר יהוה ומשלם על יתר עשה גאוה׃
23 Carwch yr ARGLWYDD, ei holl ffyddloniaid. Y mae'r ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon, ond yn talu'n llawn i'r rhai balch.
24חזקו ויאמץ לבבכם כל המיחלים ליהוה׃
24 Byddwch gryf a gwrol eich calon, yr holl rai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD.