1יהוה מלך תגל הארץ ישמחו איים רבים׃
1 Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; gorfoledded y ddaear, bydded ynysoedd lawer yn llawen.
2ענן וערפל סביביו צדק ומשפט מכון כסאו׃
2 Y mae cymylau a thywyllwch o'i amgylch, cyfiawnder a barn yn sylfaen i'w orsedd.
3אש לפניו תלך ותלהט סביב צריו׃
3 Y mae t�n yn mynd o'i flaen, ac yn llosgi ei elynion oddi amgylch.
4האירו ברקיו תבל ראתה ותחל הארץ׃
4 Y mae ei fellt yn goleuo'r byd, a'r ddaear yn gweld ac yn crynu.
5הרים כדונג נמסו מלפני יהוה מלפני אדון כל הארץ׃
5 Y mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD, o flaen Arglwydd yr holl ddaear.
6הגידו השמים צדקו וראו כל העמים כבודו׃
6 Y mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder, a'r holl bobloedd yn gweld ei ogoniant.
7יבשו כל עבדי פסל המתהללים באלילים השתחוו לו כל אלהים׃
7 Bydded cywilydd ar yr holl addolwyr delwau sy'n ymffrostio mewn eilunod; ymgrymwch iddo ef, yr holl dduwiau.
8שמעה ותשמח ציון ותגלנה בנות יהודה למען משפטיך יהוה׃
8 Clywodd Seion a llawenhau, ac yr oedd trefi Jwda yn gorfoleddu o achos dy farnedigaethau, O ARGLWYDD.
9כי אתה יהוה עליון על כל הארץ מאד נעלית על כל אלהים׃
9 Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn oruchaf dros yr holl ddaear; yr wyt wedi dy ddyrchafu'n uwch o lawer na'r holl dduwiau.
10אהבי יהוה שנאו רע שמר נפשות חסידיו מיד רשעים יצילם׃
10 Y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n cas�u drygioni, y mae'n cadw bywydau ei ffyddloniaid, ac yn eu gwaredu o ddwylo'r drygionus.
11אור זרע לצדיק ולישרי לב שמחה׃
11 Heuwyd goleuni ar y cyfiawn, a llawenydd ar yr uniawn o galon.
12שמחו צדיקים ביהוה והודו לזכר קדשו׃
12 Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, rai cyfiawn, a moliannwch ei enw sanctaidd.