Hebrew: Modern

Welsh

Song of Solomon

7

1מה יפו פעמיך בנעלים בת נדיב חמוקי ירכיך כמו חלאים מעשה ידי אמן׃
1 Mor brydferth yw dy draed mewn sandalau, O ferch y tywysog! Y mae dy gluniau lluniaidd fel gemau o waith crefftwr medrus.
2שררך אגן הסהר אל יחסר המזג בטנך ערמת חטים סוגה בשושנים׃
2 Y mae dy fogail fel ffiol gron nad yw byth yn brin o win cymysg; y mae dy fol fel pentwr o wenith wedi ei amgylchynu gan lil�au.
3שני שדיך כשני עפרים תאמי צביה׃
3 Y mae dy ddwy fron fel dwy elain, gefeilliaid ewig.
4צוארך כמגדל השן עיניך ברכות בחשבון על שער בת רבים אפך כמגדל הלבנון צופה פני דמשק׃
4 Y mae dy wddf fel tu373?r ifori, a'th lygaid fel y llynnoedd yn Hesbon, ger mynedfa Bath-rabbim; y mae dy drwyn fel tu373?r Lebanon, sy'n edrych i gyfeiriad Damascus.
5ראשך עליך ככרמל ודלת ראשך כארגמן מלך אסור ברהטים׃
5 Y mae dy ben yn ymddangos fel Carmel a gwallt dy ben fel porffor, a brenin wedi ei garcharu yn y plethi.
6מה יפית ומה נעמת אהבה בתענוגים׃
6 Mor brydferth, mor hardd wyt, fy anwylyd, y fwyaf dymunol.
7זאת קומתך דמתה לתמר ושדיך לאשכלות׃
7 Y mae dy gorff fel palmwydden, a'th fronnau fel clwstwr o'i ffrwythau.
8אמרתי אעלה בתמר אחזה בסנסניו ויהיו נא שדיך כאשכלות הגפן וריח אפך כתפוחים׃
8 Dywedais, "Dringaf y balmwydden, a gafael yn ei brigau." Bydded dy fronnau fel clwstwr o rawnwin, ac arogl dy anadl fel afalau,
9וחכך כיין הטוב הולך לדודי למישרים דובב שפתי ישנים׃
9 a'th wefusau fel y gwin gorau yn llifo'n esmwyth mewn cariad, ac yn llithro rhwng gwefusau a dannedd.
10אני לדודי ועלי תשוקתו׃
10 Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad, ac yntau'n fy chwennych.
11לכה דודי נצא השדה נלינה בכפרים׃
11 Tyrd, fy nghariad, gad inni fynd allan i'r maes, a threulio'r nos ymysg y llwyni henna.
12נשכימה לכרמים נראה אם פרחה הגפן פתח הסמדר הנצו הרמונים שם אתן את דדי לך׃
12 Gad inni fynd yn fore i'r gwinllannoedd, i edrych a yw'r winwydden yn blaguro, a'i blodau yn agor, a'r pomgranadau yn blodeuo; yno fe ddangosaf fy nghariad tuag atat.
13הדודאים נתנו ריח ועל פתחינו כל מגדים חדשים גם ישנים דודי צפנתי לך׃
13 Y mae'r mandragorau yn gwasgar eu harogl; o gwmpas ein drws ceir yr holl ffrwythau gorau, ffrwythau newydd a hen a gedwais i ti, fy nghariad.