1La parola dell’Eterno fu rivolta Giona, figliuolo di Amittai, in questi termini:
1 Daeth gair yr ARGLWYDD at Jona fab Amittai, a dweud,
2"Lèvati, va’ a Ninive, la gran città, e predica contro di lei; perché la loro malvagità è salita nel mio cospetto".
2 "Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a llefara yn ei herbyn; oherwydd daeth ei drygioni i'm sylw."
3Ma Giona si levò per fuggirsene a Tarsis, lungi dal cospetto dell’Eterno; e scese a Giaffa, dove trovò una nave che andava a Tarsis; e, pagato il prezzo del suo passaggio, s’imbarcò per andare con quei della nave a Tarsis, lungi dal cospetto dell’Eterno.
3 Ond cododd Jona i ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD i Tarsis. Aeth i lawr i Jopa a chael llong yn mynd i Tarsis, ac wedi talu ei dreuliau aeth arni i fynd gyda hwy i Tarsis oddi wrth yr ARGLWYDD.
4Ma l’Eterno scatenò un gran vento sul mare, e vi fu sul mare una forte tempesta, sì che la nave minacciava di sfasciarsi.
4 Ond cododd yr ARGLWYDD wynt nerthol ar y m�r, a bu storm mor arw ar y m�r nes bod y llong mewn perygl o gael ei dryllio.
5I marinari ebbero paura, e ognuno gridò al suo dio e gettarono a mare le mercanzie ch’erano a bordo, per alleggerire la nave; ma Giona era sceso nel fondo della nave, s’era coricato, e dormiva profondamente.
5 Yr oedd y morwyr wedi dychryn, a phob un yn gweiddi ar ei dduw, a thaflasant y g�r oedd ar y llong i'r m�r i'w hysgafnu. Ond yr oedd Jona wedi mynd i grombil y llong i orwedd, ac wedi cysgu.
6Il capitano gli si avvicinò, e gli disse: "Che fai tu qui a dormire? Lèvati, invoca il tuo dio! Forse Dio si darà pensiero di noi e non periremo".
6 A daeth capten y llong ato a gofyn, "Beth yw dy feddwl, yn cysgu? Cod, a galw ar dy dduw; efallai y meddylia'r duw amdanom, rhag ein difetha."
7Poi dissero l’uno all’altro: "Venite, tiriamo a sorte, per sapere a cagione di chi ci capita questa disgrazia". Tirarono a sorte, e la sorte cadde su Giona.
7 Yna dywedodd y morwyr wrth ei gilydd, "O achos pwy y daeth y drwg hwn arnom? Gadewch inni fwrw coelbren, inni gael gwybod." Felly bwriasant goelbren, a syrthiodd y coelbren ar Jona.
8Allora essi gli dissero: "Dicci dunque a cagione di chi ci capita questa disgrazia! Qual è la tua occupazione? donde vieni? qual è il tuo paese? e a che popolo appartieni?"
8 Yna dywedasant wrtho, "Dywed i ni, beth yw dy neges? O ble y daethost? Prun yw dy wlad? O ba genedl yr wyt?"
9Egli rispose loro: "Sono Ebreo, e temo l’Eterno, l’Iddio del cielo, che ha fatto il mare e la terra ferma".
9 Atebodd yntau hwy, "Hebr�wr wyf fi; ac yr wyf yn ofni'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, a wnaeth y m�r a'r sychdir."
10Allora quegli uomini furon presi da grande spavento, e gli dissero: "Perché hai fatto questo?" Poiché quegli uomini sapevano ch’egli fuggiva lungi dal cospetto dell’Eterno, giacché egli avea dichiarato loro la cosa.
10 A daeth ofn mawr ar y dynion, a dywedasant wrtho, "Beth yw hyn a wnaethost?" Oherwydd gwyddai'r dynion mai ffoi oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd, gan iddo ddweud hynny wrthynt.
11E quelli gli dissero: "Che ti dobbiam fare perché il mare si calmi per noi?" Poiché il mare si faceva sempre più tempestoso.
11 Yna dywedasant, "Beth a wnawn � thi, er mwyn i'r m�r ostegu inni, oherwydd y mae'n gwaethygu o hyd."
12Egli rispose loro: "Pigliatemi e gettatemi in mare, e il mare si calmerà per voi; perché io so che questa forte tempesta vi piomba addosso per cagion mia".
12 Atebodd yntau, "Cymerwch fi a'm taflu i'r m�r, ac yna fe dawela'r m�r ichwi; oherwydd gwn mai o'm hachos i y daeth y storm arw hon arnoch."
13Nondimeno quegli uomini davan forte nei remi per ripigliar terra; ma non potevano, perché il mare si faceva sempre più tempestoso e minaccioso.
13 Rhwyfodd y dynion yn galed i gyrraedd tir, ond ni allent, gan fod y m�r yn gwaethygu o hyd yn eu herbyn.
14Allora gridarono all’Eterno, e dissero: "Deh, o Eterno, non lasciar che periamo per risparmiar la vita di quest’uomo, e non ci mettere addosso del sangue innocente; poiché tu, o Eterno, hai fatto quel che ti è piaciuto".
14 Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD a dweud, "O ARGLWYDD, paid � gadael inni gael ein difetha am fywyd y dyn hwn, na rhoi gwaed dieuog yn ein herbyn; ti yw'r ARGLWYDD, ac yr wyt yn gwneud fel y gweli'n dda."
15Poi presero Giona e lo gettarono in mare; e la furia del mare si calmò.
15 Yna cymerasant Jona a'i daflu i'r m�r, a llonyddodd y m�r o'i gynnwrf.
16E quegli uomini furon presi da un gran timore dell’Eterno; offrirono un sacrifizio all’Eterno, e fecero dei voti.
16 Ac ofnodd y gwu375?r yr ARGLWYDD yn fawr iawn, gan offrymu aberth i'r ARGLWYDD a gwneud addunedau.
17(H2-1) E l’Eterno fece venire un gran pesce per inghiottir Giona; e Giona fu nel ventre del pesce tre giorni e tre notti.
17 A threfnodd yr ARGLWYDD i bysgodyn mawr lyncu Jona; a bu Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair noson.