1Libano, apri le tue porte, e il fuoco divori i tuoi cedri!
1 Agor dy byrth, O Lebanon, er mwyn i d�n ysu dy gedrwydd.
2Urla, cipresso, perché il cedro è caduto, e gli alberi magnifici son devastati! Urlate, querce di Basan, perché la foresta impenetrabile è abbattuta!
2 Galarwch, ffynidwydd; oherwydd syrthiodd y cedrwydd, dinistriwyd y coed cryfion. Galarwch, dderw Basan, oherwydd syrthiodd y goedwig drwchus.
3S’odono i lamenti de’ pastori perché la loro magnificenza è devastata; s’ode il ruggito dei leoncelli perché le rive lussureggianti del Giordano son devastate.
3 Clywch alarnadu'r bugeiliaid, am i'w gogoniant gael ei ddinistrio; clywch ru'r llewod, am i goedwig yr Iorddonen gael ei difetha.
4Così parla l’Eterno, il mio Dio: "Pasci le mie pecore destinate al macello,
4 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy Nuw: "Portha'r praidd sydd i'w lladd.
5che i compratori uccidono senza rendersi colpevoli, e delle quali i venditori dicono: Sia benedetto l’Eterno! Io m’arricchisco, e che i loro pastori non risparmiano affatto.
5 Bydd y sawl sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo'n euog; bydd y sawl sy'n eu gwerthu yn dweud, 'Bendigedig fo'r ARGLWYDD, cefais gyfoeth'; ac ni fydd eu bugeiliaid yn tosturio wrthynt.
6Poiché io non risparmierò più gli abitanti del paese, dice l’Eterno, anzi, ecco, io abbandonerò gli uomini, ognuno in balìa del suo prossimo e in balìa del suo re; essi schiacceranno il paese, e io non libererò alcun dalle lor mani.
6 Yn wir, ni thosturiaf mwy wrth drigolion y wlad," medd yr ARGLWYDD. "Wele fi'n gwneud i bawb syrthio i ddwylo'i gilydd ac i ddwylo'u brenin; ac fel y dinistrir y wlad, ni waredaf neb o'u gafael."
7Allora io mi misi a pascere le pecore destinate al macello, e perciò le più misere del gregge; e mi presi due verghe; chiamai l’una Favore e l’altra Vincoli, e mi misi a pascere il gregge.
7 Porthais y praidd a oedd i'w lladd ar gyfer y marchnatwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw'r naill, Trugaredd, a'r llall, Undeb; a phorthais y praidd.
8E sterminai i tre pastori in un mese; l’anima mia perdette la pazienza con loro, e anche l’anima loro m’avea preso a sdegno.
8 Mewn un mis diswyddais dri o'r bugeiliaid am imi flino arnynt, ac yr oeddent hwythau'n fy nghas�u innau.
9E io dissi: "Non vi pascerò più; la moribonda muoia, quella che sta per perire perisca, e quelle che restano, divorino l’una la carne dell’altra".
9 Yna dywedais, "Ni fugeiliaf chwi; y rhai sydd i farw, bydded iddynt farw, a'r rhai sydd i'w dinistrio, bydded iddynt fynd i ddinistr; a bydded i'r rhai sy'n weddill fwyta cnawd ei gilydd."
10E presi la mia verga Favore e la spezzai, per annullare il patto che avevo stretto con tutti i popoli.
10 A chymerais fy ffon Trugaredd a'i thorri, gan ddiddymu'r cyfamod a wneuthum �'r holl bobloedd.
11E quello fu annullato in quel giorno; e le pecore più misere del gregge che m’osservavano, conobbero che quella era la parola dell’Eterno.
11 Fe'i diddymwyd y dydd hwnnw, a gwyddai'r marchnatwyr a edrychai arnaf mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn.
12E io dissi loro: "Se vi par bene, datemi il mio salario; se no, lasciate stare". Ed essi mi pesarono il mio salario; trenta sicli d’argento.
12 A dywedais wrthynt, "Os yw'n dderbyniol gennych, rhowch imi fy nghyflog; os nad yw, peidiwch." A bu iddynt hwythau bwyso fy nghyflog, deg darn ar hugain o arian.
13E l’Eterno mi disse: "Gettalo per il vasaio, questo magnifico prezzo, al quale m’hanno stimato!" E io presi i trenta sicli d’argento, e li gettai nella casa dell’Eterno per il vasaio.
13 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Bwrw ef i'r drysorfa � y pris teg a osodwyd arnaf, i'm troi ymaith!" A chymerais y deg darn ar hugain a'u bwrw i'r drysorfa yn nhu375?'r ARGLWYDD.
14Poi spezzai l’altra verga Vincoli, per rompere la fratellanza fra Guida e Israele.
14 Yna torrais yr ail ffon, Undeb, gan ddiddymu'r frawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.
15E l’Eterno mi disse: "Prenditi anche gli arnesi d’un pastore insensato.
15 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, "Cymer eto offer bugail diwerth,
16Perché, ecco, io susciterò nel paese un pastore che non si curerà delle pecore che periscono, non cercherà le disperse, non guarirà le ferite, non nutrirà quelle che stanno in piè, ma mangerà la carne delle grasse, e strapperà loro fino le unghie".
16 oherwydd yr wyf yn codi yn y wlad fugail na fydd yn gofalu am y ddafad golledig, nac yn ceisio'r grwydredig, nac yn gwella'r friwedig, nac yn porthi'r iach, ond a fydd yn bwyta cnawd y rhai bras ac yn rhwygo'u traed i ffwrdd.
17Guai al pastore da nulla, che abbandona il gregge! La spada gli colpirà il braccio e l’occhio destro. Il braccio gli seccherà del tutto, e l’occhio destro gli si spegnerà interamente.
17 Gwae'r bugail diwerth, sy'n gadael y praidd. Trawed y cleddyf ei fraich a'i lygad de; bydded ei fraich yn gwbl ddiffrwyth, a'i lygad de yn hollol ddall."