1 Yna cynullodd y Brenin Solomon henuriaid Israel a holl benaethiaid y llwythau a phennau-teuluoedd Israel ato'i hun yn Jerwsalem, i gyrchu arch cyfamod yr ARGLWYDD o Ddinas Dafydd, sef Seion.
2 Daeth yr holl Israeliaid ynghyd at y Brenin Solomon ar yr u373?yl ym mis Ethanim, y seithfed mis.
3 Wedi i holl henuriaid Israel gyrraedd, cododd yr offeiriaid yr arch,
4 a chyrchodd yr offeiriaid a'r Lefiaid arch yr ARGLWYDD a phabell y cyfarfod a'r holl lestri cysegredig oedd yn y babell.
5 Ac yr oedd y Brenin Solomon, a phawb o gynulleidfa Israel oedd wedi ymgynnull ato, yno o flaen yr arch yn aberthu defaid a gwartheg rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif.
6 Felly y dygodd yr offeiriaid arch cyfamod yr ARGLWYDD a'i gosod yn ei lle yng nghysegr mewnol y tu375?, y cysegr sancteiddiaf, dan adenydd y cerwbiaid,
7 oherwydd yr oedd y cerwbiaid yn estyn eu hadenydd dros le'r arch ac yn cysgodi dros yr arch a'i pholion.
8 Yr oedd y polion yn ymestyn allan oddi wrth yr arch, fel y gellid gweld eu blaenau o'r cysegr o flaen y cysegr mewnol, ond nid oeddent i'w gweld o'r tu allan. Ac yno y maent hyd y dydd hwn.
9 Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech garreg a osododd Moses ynddi yn Horeb, lle y gwnaeth yr ARGLWYDD gyfamod �'r Israeliaid pan oeddent yn dod allan o'r Aifft.
10 Fel yr oedd yr offeiriaid yn dod allan o'r cysegr, llanwyd tu375?'r ARGLWYDD gan y cwmwl; ni fedrai'r offeiriaid barhau i weinyddu o achos y cwmwl;
11 yr oedd gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi tu375?'r ARGLWYDD.
12 Yna dywedodd Solomon: "Dywedodd yr ARGLWYDD y trigai yn y tywyllwch.
13 Gorffennais adeiladu i ti du375? aruchel, lle iti breswylio ynddo dros byth."
14 Yna tra oeddent i gyd yn sefyll, trodd y brenin atynt a bendithio holl gynulleidfa Israel.
15 Dywedodd, "Bendigedig fyddo ARGLWYDD Dduw Israel, a gyflawnodd �'i law yr hyn a addawodd �'i enau i'm tad Dafydd, pan ddywedodd,
16 'Er y dydd y dygais fy mhobl Israel allan o'r Aifft, ni ddewisais ddinas ymhlith holl lwythau Israel i adeiladu ynddi du375? i'm henw fod yno; ond dewisais Jerwsalem i'm henw fod yno, a dewisais Ddafydd i fod yn ben ar fy mhobl Israel.'
17 Yr oedd ym mryd fy nhad Dafydd adeiladu tu375? i enw ARGLWYDD Dduw Israel,
18 ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, 'Yr oedd yn dy fryd adeiladu tu375? i'm henw, a da oedd dy fwriad,
19 ond nid tydi fydd yn adeiladu'r tu375?; dy fab, a enir iti, a adeilada'r tu375? i'm henw.'
20 Yn awr y mae'r ARGLWYDD wedi gwireddu'r addewid a wnaeth; yr wyf fi wedi dod i le fy nhad Dafydd i eistedd ar orsedd Israel, fel yr addawodd yr ARGLWYDD, ac wedi adeiladu'r tu375? i enw ARGLWYDD Dduw Israel.
21 Yr wyf hefyd wedi trefnu lle i'r arch sy'n cynnwys y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD �'n hynafiaid pan ddaeth � hwy allan o'r Aifft."
22 Yna safodd Solomon o flaen allor yr ARGLWYDD, yng ngu373?ydd holl gynulleidfa Israel, ac estynnodd ei ddwylo tua'r nef,
23 a dweud: "O ARGLWYDD Dduw Israel, nid oes Duw fel tydi yn y nef uwchben nac ar ddaear lawr, yn cadw cyfamod ac yn ffyddlon i'th bobl sy'n dy wasanaethu �'u holl galon.
24 Canys cedwaist d'addewid i'th was Dafydd, fy nhad; heddiw cyflawnaist �'th law yr hyn a addewaist �'th enau.
25 Yn awr, felly, O ARGLWYDD Dduw Israel, cadw'r addewid a wnaethost i'th was Dafydd fy nhad, pan ddywedaist, 'Gofalaf na fyddi heb etifedd i eistedd ar orsedd Israel, dim ond i'th blant wylio'u ffordd, a'm gwasanaethu fel y gwnaethost ti.'
26 Yn awr, felly, O Dduw Israel, safed y gair a leferaist wrth dy was Dafydd, fy nhad.
27 "Ai gwir yw y preswylia Duw ar y ddaear? Wele, ni all y nefoedd na nef y nefoedd dy gynnwys; pa faint llai y tu375? hwn a godais!
28 Eto cymer sylw o weddi dy was ac o'i ddeisyfiad, O ARGLWYDD fy Nuw; gwrando ar fy llef, a'r weddi y mae dy was yn ei gwedd�o heddiw ger dy fron.
29 Bydded dy lygaid, nos a dydd, ar y tu375? y dywedaist amdano, 'Fy enw a fydd yno', a gwrando'r weddi y bydd dy was yn ei gwedd�o tua'r lle hwn.
30 Gwrando hefyd ar ddeisyfiad dy was a'th bobl Israel pan fyddant yn gwedd�o tua'r lle hwn. Gwrando yn y nef, lle'r wyt yn preswylio, ac o glywed, maddau.
31 "Os bydd rhywun wedi troseddu yn erbyn rhywun arall ac yn gorfod cymryd llw, a'i dyngu gerbron dy allor yn y tu375? hwn,
32 gwrando di o'r nef a gweithredu. Gweinydda farn i'th bobl drwy gondemnio'r drwgweithredwr yn �l ei ymddygiad, ond llwydda achos y cyfiawn yn �l ei gyfiawnder.
33 "Os trechir dy bobl Israel gan y gelyn am iddynt bechu yn dy erbyn, ac yna iddynt edifarhau a chyffesu dy enw, a gwedd�o ac erfyn arnat yn y tu375? hwn,
34 gwrando di yn y nef a maddau bechod dy bobl Israel ac adfer hwy i'r tir a roddaist i'w hynafiaid.
35 "Os bydd y nefoedd wedi cau, a'r glaw yn pallu, am iddynt bechu yn d'erbyn, ac yna iddynt wedd�o tua'r lle hwn a chyffesu dy enw ac edifarhau am eu pechod oherwydd i ti eu cosbi,
36 gwrando di yn y nef a maddau bechod dy weision a'th bobl Israel, a dysg iddynt y ffordd dda y dylent ei rhodio; ac anfon law ar dy wlad, a roddaist yn etifeddiaeth i'th bobl.
37 "Os bydd yn y wlad newyn, haint, deifiad, malltod, locustiaid neu lindys, neu os bydd gelyn yn gwarchae ar unrhyw un o'i dinasoedd � beth bynnag fo'r pla neu'r clefyd �
38 clyw bob gweddi, pob deisyfiad gan bawb o'th bobl Israel wrth i bob un sy'n ym-wybodol o'i glwy ei hun estyn ei ddwylo tua'r tu375? hwn;
39 gwrando hefyd yn y nef lle'r wyt yn preswylio, a maddau. Gweithreda a rho i bob un yn �l ei ffyrdd, oherwydd yr wyt ti'n deall ei fwriad; canys ti yn unig sy'n adnabod calon pob un;
40 felly byddant yn dy ofni holl ddyddiau eu bywyd ar wyneb y tir a roddaist i'n hynafiaid.
41 "Os daw rhywun dieithr, nad yw'n un o'th bobl Israel, o wlad bell er mwyn dy enw �
42 canys clywant am dy enw mawr, ac am dy law gref a'th fraich estynedig � ac os gwedd�a tua'r tu375? hwn,
43 gwrando di yn y nef lle'r wyt yn preswylio, a gweithreda yn �l y cwbl y mae'r dieithryn yn ei ddeisyf arnat, er mwyn i holl bobloedd y byd adnabod dy enw a'th ofni yr un fath �'th bobl Israel, a sylweddoli mai ar dy enw di y gelwir y tu375? hwn a adeiledais i.
44 "Os bydd dy bobl yn mynd i ryfela �'u gelyn, pa ffordd bynnag yr anfoni hwy, ac yna iddynt wedd�o ar yr ARGLWYDD tua'r ddinas a ddewisaist, a'r tu375? a godais i'th enw,
45 gwrando di yn y nef ar eu gweddi a'u hymbil, a chynnal eu hachos.
46 "Os pechant yn dy erbyn � oherwydd nid oes neb nad yw'n pechu � a thithau'n digio wrthynt ac yn eu darostwng i'w gelynion a'u caethgludo i wlad y gelyn, boed bell neu agos,
47 ac yna iddynt ystyried yn y wlad lle caethgludwyd hwy, ac edifarhau a deisyf arnat o wlad eu caethiwed �'r geiriau, 'Yr ydym wedi pechu a throseddu a gwneud drygioni',
48 ac yna dychwelyd atat �'u holl galon a'u holl enaid yng ngwlad y gelynion sydd wedi eu caethgludo, a gwedd�o arnat i gyfeiriad eu gwlad, a roddaist i'w hynafiaid, a'r ddinas a ddewisaist, a'r tu375? a godais i'th enw,
49 gwrando di, yn y nef lle'r wyt yn preswylio, ar eu gweddi a'u deisyfiad, a chynnal eu hachos.
50 A maddau i'th bobl a bechodd yn d'erbyn am eu holl droseddu yn d'erbyn; rho iddynt ennyn trugaredd yng nghalon y rhai a'u caethgludodd.
51 Oherwydd dy bobl a'th etifeddiaeth ydynt, gan mai ti a ddaeth � hwy allan o'r Aifft o ganol y ffwrnais haearn.
52 Felly bydded dy lygaid yn sylwi ar ddeisyfiad dy was a'th bobl Israel, i wrando arnynt bob tro y galwant arnat;
53 oherwydd ti sydd wedi eu neilltuo yn etifeddiaeth i ti dy hun a'u didoli oddi wrth bobloedd y byd, fel y dywedaist, O Arglwydd DDUW, drwy dy was Moses pan ddaethost �'n hynafiaid allan o'r Aifft."
54 Wedi i Solomon orffen cyflwyno i'r ARGLWYDD yr holl weddi ac ymbil yma a'i ddwylo yn ymestyn tua'r nef, cododd o benlinio gerbron allor yr ARGLWYDD,
55 a sefyll i fendithio holl gynulleidfa Israel � llais uchel, a dweud:
56 "Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD a roddodd orffwystra i'w bobl Israel yn hollol fel y dywedodd. Ni fethodd yr un gair o'i holl addewid ddaionus a fynegodd trwy ei was Moses.
57 Bydded yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel y bu gyda'n hynafiaid ni; na fydded iddo'n gwrthod na'n gadael.
58 Bydded inni droi ein calonnau tuag ato, a cherdded yn ei holl ffyrdd a chadw ei orchmynion, ei ordinhadau a'i farnedigaethau, a orchmynnodd i'n hynafiaid.
59 Bydded fy ngeiriau hyn, a wedd�ais gerbron yr ARGLWYDD, yn agos at yr ARGLWYDD ein Duw ddydd a nos, fel y bo iddo gynnal achos ei was ac achos ei bobl Israel yn �l yr angen,
60 er mwyn i holl bobloedd y byd wybod mai'r ARGLWYDD sydd Dduw ac nad oes arall.
61 Bydded eich calon yn llwyr ymroddedig i'r ARGLWYDD ein Duw, i rodio yn ei ordinhadau a chadw ei orchmynion fel heddiw."
62 Yna bu'r brenin, a holl Israel gydag ef, yn aberthu gerbron yr ARGLWYDD.
63 Aberthodd Solomon i'r ARGLWYDD ddwy fil ar hugain o wartheg a chwe ugain mil o ddefaid yn heddoffrwm. Felly y cysegrodd y brenin a'r holl Israeliaid du375?'r ARGLWYDD.
64 Ar y diwrnod hwnnw cysegrodd y brenin ganol y cwrt oedd o flaen tu375?'r ARGLWYDD, gan mai yno'r oedd yn offrymu'r poethoffrwm a'r bwydoffrwm a braster yr heddoffrwm, am fod yr allor bres oedd gerbron yr ARGLWYDD yn rhy fach i dderbyn y poethoffrwm a'r bwydoffrwm a braster yr heddoffrwm.
65 A'r pryd hwnnw cadwodd Solomon, a holl Israel gydag ef, u373?yl gerbron yr ARGLWYDD ein Duw am wythnos, yn gynulliad mawr, o Lebo-hamath hyd nant yr Aifft.
66 Ar yr wythfed dydd gollyngodd y bobl ymaith, ac wedi iddynt fendithio'r brenin, aethant adref yn llawen ac yn falch o galon am yr holl ddaioni a wnaeth yr ARGLWYDD i'w was Dafydd ac i'w bobl Israel.